Ruth Thackray
Enillydd
Dywedwyd bod gweithio â Ruth yn bleser. Dywed cydweithwyr fod ei hangerdd a’i brwdfrydedd tuag at newid cydweithredol yn hynod iawn a’i bod yn rhannu ei hysbrydoliaeth ble bynnag mae’n mynd. Mae hi’n uchel iawn ei pharch ymhlith staff yr ysgolion eraill yn y rhanbarth, ac maent yn sôn am ei gallu i wneud i bobl deimlo’n gartrefol, i ennyn hyder ynddynt a gadael iddynt dyfu.
Mae Ruth yn sylweddoli bod cydweithio yn hanfodol i wella cyfl eoedd dysgu, ar lefel ysgolion, consortia a llywodraeth ac mae wedi bod yn allweddol mewn gwaith newydd i sicrhau bod GwE (Gwasanaeth Gwella ac Eff eithiolrwydd dwyieithog Gogledd Cymru) a staff Ysgolion Arloesi ledled Cymru yn cael yr hyff orddiant priodol ar egwyddorion rheoli newid.