Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae pob un ohonom wedi teimlo effeithiau’r flwyddyn ddiwethaf, yn enwedig ein plant a’n pobl ifanc. Nid oedd modd iddynt gael gofal plant na mynd i’r ysgol a’r coleg am gyfnod, ac nid oeddent chwaith yn gallu cymryd rhan yn yr amrywiaeth eang o weithgareddau y maent yn eu rhannu â’u ffrindiau. Mae ein plant a’n pobl ifanc wedi colli llawer o gyfleoedd i gymdeithasu, i fod yn actif ac i chwarae.
Er bod llawer o’r gweithgareddau hyn wedi ailddechrau erbyn hyn, rhaid inni sylweddoli faint o effaith mae’r cyfnod hebddynt wedi’i chael. Wrth helpu ein plant a’n pobl ifanc i adfer, mae’n bwysig inni edrych ar yr ystod lawn o’u hanghenion. Oherwydd hynny, ochr yn ochr â’n cynllun Adnewyddu a Diwygio ar gyfer adfer dysgu, rwyf heddiw yn cyhoeddi £5m o gyllid i helpu ein plant a’n pobl ifanc i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau sy’n seiliedig ar chwaraeon, diwylliant a chwarae.
Mae Haf o Hwyl yn cynnig cyfle i blant a phobl ifanc 0-25 oed chwarae a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â hamdden, adloniant, chwaraeon neu ddiwylliant er mwyn helpu i ailadeiladu eu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau fel y rhain yn hollbwysig wrth adfer yn sgil Covid-19 a byddant yn cefnogi llesiant cymdeithasol, emosiynol, corfforol a meddyliol plant a phobl ifanc. Mae hynny wedyn yn hanfodol wrth eu helpu i ailymgysylltu a’r dysgu a’r addysg, gan alluogi pob plentyn a pherson ifanc i wireddu ei lawn botensial.
Bydd y gweithgareddau hyn yn cael eu cynnal ochr yn ochr â’n buddsoddiadau presennol drwy ein Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf a’n Cynllun Gwaith Chwarae Gwyliau. Bydd pob awdurdod lleol yn cael cyfran o’r cyllid i gynnal gweithgareddau fel rhan o Haf o Hwyl, a bydd y cynnig yn cael ei addasu yn unol ag anghenion y plant, y bobl ifanc a’r cymunedau yn eu hardal. Rwyf wedi darparu canllawiau ar sut mae defnyddio’r cyllid hwn a darparu ar gyfer y plant a’r bobl ifanc yng Nghymru.
O fewn y cyllid hwn rydym yn darparu £450,000 rhwng Chwaraeon Cymru a Cyngor Celfyddydau Cymru er mwyn iddynt allu datblygu cyfres o gynlluniau peilot yn edrych ar sut mae darparu gweithgareddau sy’n ymwneud â chwaraeon a diwylliant o amgylch y diwrnod ysgol. Bydd y cynlluniau peilot hyn yn cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn ysgol nesaf.