Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, rwy'n cyhoeddi diweddariad i’n Strategaeth Frechu COVID-19 sy’n nodi’r llwyddiannau hyd yma a’n bwriadau wrth inni symud i’r cam nesaf. Byddaf hefyd yn cyhoeddi diweddariadau wythnosol rhaglen frechu COVID-19 yfory.
Ers y diweddariad diwethaf, cafwyd nifer o gyflawniadau arwyddocaol. Yn benodol, rydym wedi darparu 2,183,455 dos cyntaf a 1,249,268 ail ddos o’r brechlyn, gydag 86.5% o oedolion yng Nghymru bellach wedi cael eu dos cyntaf. Mae hyn yn newyddion gwych, ac mae'n dangos cyflymder rhyfeddol ein proses o gyflwyno’r brechlynnau. Rwy'n hyderus y byddwn, yn gynnar yr wythnos nesaf, wedi cynnig dos cyntaf i bawb sydd dros 18 oed. Ar y gyfradd hon, ac yn amodol ar gyflenwad, rwyf hefyd yn hyderus y byddwn tua mis yn gynnar yn cyrraedd carreg filltir 3 (cynnig dos cyntaf i bob oedolyn gydag o leiaf 75% yn manteisio ar y cyfle ym mhob grŵp oedran) erbyn diwedd mis Gorffennaf. Mewn gwirionedd, mae canran y bobl sydd wedi manteisio ar y cynnig i gael eu brechu yn llawer uwch, a dyna oedd ein nod bob amser.
Wrth inni barhau i garlamu tuag at y garreg filltir hon ac at ddiwedd y cam hwn o'r rhaglen frechu, rydym eisoes wrthi’n cyflwyno’r ail ddos o frechlynnau. Ein nod yw sicrhau bod pawb sydd wedi cael dos cyntaf yn manteisio ar y cyfle i gael yr ail ddos hefyd, a hynny ar draws pob ystod oedran. Yn amodol ar gyflenwadau o frechlynnau neu gyngor pellach gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, rydym yn hyderus y bydd y broses o gyflwyno’r ail ddos yn parhau mor gyflym a llwyddiannus ag y mae wedi bod ar gyfer y dos cyntaf. Disgwyliwn i bawb sydd wedi cael y dos cyntaf gael cynnig ail ddos erbyn diwedd mis Medi. Mae gan y byrddau iechyd ddisgresiwn a hyblygrwydd o hyd yn lleol i ddehongli'r canllawiau yn seiliedig ar yr hyn a fyddai'n gweithio'n ymarferol yn lleol neu’n lleol iawn, ac mae hynny’n cynnwys cyflwyno’r ail ddos. Rydym hefyd yn bwriadu ailgynnig y brechlyn i'r rhai na fanteisiodd ar y cynnig gwreiddiol. Mae ein GIG yn parhau i weithio i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.
Mae'r diweddariad hwn i’r strategaeth hefyd yn nodi'r camau rydym yn eu cymryd yn awr i baratoi ar gyfer yr hyn sy'n dod nesaf, gyda’r posibilrwydd o gynnig brechiad atgyfnerthu a brechiad i blant. Mae nifer o dreialon clinigol ar y gweill i ddeall mwy am frechiadau atgyfnerthu a brechu plant Bydd y Cyd-bwyllgor yn ystyried yr holl dystiolaeth ac yn rhoi cyngor ar y ffordd ymlaen yn ystod yr wythnosau nesaf.
I gefnogi’r broses o gyflwyno’r brechlynnau, byddwn yn sefydlu system archebu ar-lein yn yr hydref i ganiatáu i bobl newid eu hapwyntiad a threfnu apwyntiad ar adeg sy'n gyfleus iddynt hwy. Gallai’r drên hon gael ei defnyddio hefyd ar gyfer brechlynnau eraill yn y dyfodol.
Rwy'n benderfynol y dylai’r cam nesaf hwn yn ein brwydr yn erbyn y coronafeirws fod mor llwyddiannus â'n camau blaenorol o ran helpu i ddiogelu Cymru.
Yn olaf, unwaith eto, hoffwn ddiolch i bawb sy'n ymwneud â’r gwaith o gyflwyno'r brechlyn, yn ogystal â'r dros 2 filiwn o unigolion sydd wedi manteisio ar eu cynnig o frechiad. I'r rheini nad ydynt wedi manteisio ar y cynnig eto, nid yw byth yn rhy hwyr ac rwy’n eich annog i drefnu apwyntiad drwy eich bwrdd iechyd lleol.