Darganfyddwch pryd mae rhyddhad anheddau lluosog (MDR) ar gyfer Treth Trafodiadau Tir (TTT) yn berthnasol pan fyddwch yn prynu eiddo yng Nghymru.
Cynnwys
Pan fyddwch yn prynu eiddo yng Nghymru sy'n cynnwys mwy nag un annedd, yn yr un trafodiad (neu drafodiadau cysylltiol), byddwch yn gallu hawlio MDR.
Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys:
- tai gydag anecs
- tŷ gyda bwthyn ar ei dir
- neu ddau dŷ drws nesaf i’w gilydd
Pryd y gallwch hawlio'r rhyddhad
Rhaid i bob annedd a gynhwysir yn yr hawliad am MDR fodloni'r prawf o fod yn annedd annibynnol.
Dylai pob annedd fod â:
- chegin (rhywle i storio, paratoi a choginio bwyd, ac i olchi llestri)
- ystafell ymolchi (toiled, sinc, a bath neu gawod)
- lle i fyw a chysgu
- mynedfa annibynnol
Dylai pob annedd fod yn breifat ac yn ddiogel. Mae hynny'n golygu na ddylech allu symud yn rhydd o un annedd i'r llall, er enghraifft, drwy gyntedd cyffredin.
Os oes drysau cydgysylltiol rhwng yr anheddau, dylai fod yn bosibl eu cloi ar y dyddiad y byddwch yn prynu'r eiddo.
Gan y byddwch yn prynu mwy nag un annedd, bydd angen i chi ystyried a oes rhaid i chi dalu cyfraddau uwch y Dreth Trafodiadau Tir.
Sut i hawlio'r rhyddhad
Rydych yn hawlio MDR ar eich ffurflen dreth.
Os na wnaethoch ei hawlio, a’ch bod yn sylweddoli’n ddiweddarach y dylech fod wedi gwneud hynny, gallwch ddiwygio eich ffurflen dreth a hawlio ad-daliad o’r dreth ychwanegol a dalwyd gennych. Dim ond o fewn 12 mis i ddyddiad ffeilio ar eich ffurflen dreth wreiddiol y gallwch chi ddiwygio eich ffurflen er mwyn hawlio MDR.
Sut i gyfrifo treth gyda'r rhyddhad
Mae MDR yn rhyddhad rhannol. Mae hyn yn golygu, pan gaiff ei hawlio, y bydd bob amser rhywfaint o TTT yn ddyledus.
Gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell MDR i’ch helpu i gyfrifo faint o dreth i’w thalu.
I weithio allan faint o TTT sy'n daladwy gyda hawliad am MDR, dilynwch y 3 cham hyn:
- Cymerwch gyfanswm y pris prynu ar gyfer yr holl anheddau a'i rannu â nifer yr anheddau rydych wedi'u prynu.
- Cymerwch y ffigur o gam 1 a chyfrifo'r dreth sy'n ddyledus ar sail y swm hwn. Gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell TTT i’ch helpu i gyfrifo hyn.
- Cymerwch y ffigur o gam 2 a'i luosi â nifer yr anheddau a ddefnyddiwyd yng ngham 1. Mae hyn yn rhoi cyfanswm y TTT sy'n daladwy.
Gallwch hefyd wylio ein fideos esboniadol byr i gael mwy o wybodaeth am sut i gyfrifo'r dreth sy'n ddyledus.
Rheol isafswm treth
Pan fyddwch yn hawlio MDR, mae’n rhaid i chi dalu o leiaf 1% o bris prynu'r eiddo mewn TTT.
Mae hyn yn golygu os byddwch yn dilyn y 3 cham uchod er mwyn cyfrifo ac yn cael ffigur sy’n llai nag 1% o bris prynu'r eiddo, bydd angen i chi gynyddu'r swm ar eich ffurfflen dreth i 1% o'r pris prynu.
Pan nad yw'r rhyddhad yn berthnasol
Mewn rhai achosion, ni ellir hawlio MDR lle gellir hawlio rhai rhyddhadau eraill, hyd yn oed os byddwch yn penderfynu peidio â’u hawlio neu’n tynnu'n ôl.
Nid yw MDR ar gael ar gyfer trafodiadau lle mae'r rhyddhadau hyn yn cael ei hawlio:
- rhyddhad grŵp
- rhyddhad atgyfansoddi a chaffael
- rhyddhad i elusennau
- personau sy'n arfer hawliau ar y cyd
Nid yw'r rhyddhad ar gael ar gyfer rhai trafodiadau sy'n ymwneud buddiannau lesddaliad.
Mwy o wybodaeth
Am esboniad manylach, neu os ydych yn ansicr sut mae'r rhyddhad yn berthnasol:
- efallai y byddwch am holi cyfreithiwr neu drawsgludwr
- defnyddiwch ein canllawiau i weithwyr treth proffesiynol