Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn dilyn yr adolygiad tair wythnos ar gyfyngiadau teithio rhyngwladol, rydyn ni’n dilyn yr un system golau traffig ar gyfer teithio rhyngwladol â gweddill y DU.
Er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd yn erbyn amrywiolion sy’n peri pryder, mae Portiwgal wedi’i symud o’r rhestr werdd i’r rhestr oren.
Mae saith gwald – Afghanistan, Swdan, Sri Lanka, Bahrain, Trinidad a Thobago, Costa Rica a’r Aifft – hefyd wedi’u hychwanegu i’r rhestr goch. Bydd yr holl newidiadau i’r rhestrau yn dod i rym o 04:00 dydd Mawrth 8 Mehefin.
Mae ein penderfyniad i symud Portiwgal (gan gynnwys Madeira a’r Azores) i’r rhestr oren yn dilyn cynnydd mewn pryderon am ledaeniad amrywiolion o’r coronafeirws sy’n peri pryder, gan gynnwys mwtaniad o amrywiolyn Delta, a’r risg o ddychwelyd â’r rhain i’r DU pe na fyddai angen i bobl dreulio amser mewn cwarantin.
Mae ein neges yn glir – dyma'r flwyddyn i gael gwyliau gartref. Rydyn ni'n galw ar bobl i deithio dramor am resymau hanfodol yn unig. Rydyn ni i gyd wedi aberthu cymaint i reoli'r pandemig yng Nghymru, dydyn ni ddim eisiau gweld y feirws yn cael ei ail-fewnforio – neu amrywiolion newydd yn dod i mewn i'r wlad - o ganlyniad i deithio dramor.