Yr hyn yr ydym yn ei wneud i nodi unrhyw risgiau i ddiogelwch y cyhoedd o tomenni glo.
Cynnwys
Cefndir
Mae tomenni glo yn waddol o orffennol glofaol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ein cymunedau’n ddiogel.
Ym mis Chwefror 2020, gwelwyd rhagor o stormydd gaeafol gyda glawiad eithafol o ganlyniad i effeithiau newid yn yr hinsawdd. Arweiniodd hyn at dirlithriad ar domen lo nas defnyddir yn Tylorstown, Rhondda Cynon Taf.
Mae gennym domenni glo yma yng Nghymru o ganlyniad i’n hanes glofaol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ein cymunedau’n ddiogel.
Mewn ymateb i’r tirlithriad yn Tylorstown sefydlodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU Dasglu Diogelwch Tomenni Glo ar y cyd. Nod y Tasglu oedd asesu statws presennol tomenni glo nas defnyddir yng Nghymru.
Rhaglen waith
Mae Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid yn cyflawni rhaglen waith. Mae’r rhaglen hon yn cynnwys archwilio a chynnal a chadw tomenni glo. Mae hefyd yn cynnwys datblygu polisi a deddfwriaeth newydd.
Categorïau tomenni glo
Mae tomenni glo nas defnyddir yn cael categorïau dros dro. Mae’r categorïau’n dangos pa domenni y gallai fod angen eu harchwilio'n amlach er mwyn asesu draenio a sefydlogrwydd.
Mae’r categorïau’n ystyried llawer o wahanol ffactorau sy’n cael eu hasesu gan arbenigwyr technegol. Mae’r ffactorau hyn yn cynnwys:
- Maint a geometreg
- Peryglon posibl
- Derbynleoedd posibl
- Hanes y safle
- Unrhyw seilwaith cysylltiedig
- Gofynion archwilio a monitro
Categori D
Tomen â’r potensial i effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd – i’w harchwilio o leiaf ddwywaith y flwyddyn
Categori C
Tomen â’r potensial i effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd – i’w harchwilio o leiaf unwaith y flwyddyn
Categori B
Tomen nad yw’n debygol o effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd
Categori A
Tomen y mae’n annhebygol iawn y bydd yn effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd
Categori R
Tomen y mae’n annhebygol iawn y bydd yn effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd. Mae’n bosibl ei fod wedi cael ei symud neu fod rhywbeth wedi’i adeiladu drosti
Archwiliadau a gwaith cynnal a chadw
Mae llawer o waith wedi cael ei wneud ers mis Chwefror 2020 i nodi statws pob tomen a gwneud gwaith cynnal a chadw.
Gofynnwyd i'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio archwilio tomenni glo categori C unwaith y flwyddyn a chategori D ddwywaith y flwyddyn. Yn 2024, cwblhaodd yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio yr archwiliadau o bob tomen Categori B. Yn 2025, yn ogystal â'r archwiliadau o domenni Categori C a D, bydd yn dechrau rhaglen o archwilio pob tomen Categori A. Disgwylir iddi gymryd tua dwy flynedd i gwblhau'r rhaglen hon. Mae archwiliadau yn helpu i nodi unrhyw waith cynnal a chadw sydd angen ei wneud.
Awdurdodau Lleol sy'n gwneud y gwaith cynnal a chadw a nodir gan yr archwiliadau. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid cyfalaf gwerth mwy na £44.4 miliwn ar gyfer cynnal a chadw tomenni glo rhwng 2022 a 2024. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £34 miliwn arall er mwyn helpu 10 awdurdod lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud gwaith hanfodol ar 130 o domenni glo ledled Cymru yn ystod 2025.
Treialon technoleg
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu treialon technoleg mewn tomenni glo gradd uwch addas. Nod y rhain yw nodi technolegau a allai gyfrannu at reoli tomenni glo nas defnyddir yn ddiogel ac yn effeithiol.
Mae'r treialon yn cwmpasu mwy na 70 o safleoedd yng Nghymru. Byddwn yn adolygu canlyniadau'r treialon wrth iddynt gael eu cwblhau.
Data tomenni glo
Ym mis Tachwedd 2023 gwnaethom gyhoeddi mapiau yn cynnwys lleoliad tomenni glo nas defnyddir categori C a D. Yna, gwnaethom gyhoeddi mapiau yn cynnwys lleoliad tomenni glo categori A, B ac R ym mis Mawrth 2024. Ym mis Mai 2025, cafodd y mapiau hyn eu cyfuno er mwyn creu un map sy'n dangos yr holl domenni glo nas defnyddir o bob categori yng Nghymru.
Gweld lleoliadau tomenni glo nas defnyddir yng Nghymru
Awdurdod lleol | Categori D | Categori C | Categori B | Categori A | Categori R | Cyfanswm |
Blaenau Gwent | 6 | 14 | 37 | 63 | 9 | 129 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 6 | 37 | 36 | 96 | 6 | 181 |
Caerffili | 7 | 44 | 67 | 81 | 8 | 207 |
Caerdydd | 1 | 2 | 14 | 8 | 0 | 25 |
Sir Gaerfyrddin | 0 | 1 | 58 | 58 | 53 | 170 |
Sir y Fflint | 0 | 0 | 19 | 40 | 6 | 65 |
Ynys Môn | 0 | 0 | 3 | 7 | 0 | 10 |
Merthyr Tudful | 15 | 44 | 29 | 31 | 1 | 120 |
Sir Fynwy | 2 | 10 | 7 | 8 | 0 | 27 |
Castell-nedd Port Talbot | 13 | 29 | 161 | 385 | 30 | 618 |
Sir Benfro | 0 | 1 | 6 | 54 | 0 | 61 |
Powys | 0 | 1 | 20 | 6 | 3 | 30 |
Rhondda Cynon Taf | 29 | 54 | 107 | 93 | 48 | 331 |
Abertawe | 0 | 5 | 36 | 125 | 42 | 208 |
Torfaen | 6 | 29 | 81 | 49 | 10 | 175 |
Wrecsam | 0 | 4 | 20 | 107 | 85 | 216 |
Cyfanswm y categori | 85 | 275 | 701 | 1211 | 301 | 2573 |
- Nid oes unrhyw domenni glo nas defnyddir wedi'u cofnodi yng Ngheredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Casnewydd na Bro Morgannwg.
- Gall ffigurau newid o ganlyniad i archwiliadau a gwaith asesu parhaus.
Diweddariadau i ddata tomenni glo
Mae angen cyhoeddi gwybodaeth wedi'i diweddaru er mwyn adlewyrchu newidiadau a nodir gan yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio pan fydd yn archwilio'r tomenni glo nas defnyddir. Gall gwybodaeth wedi'i diweddaru gynnwys:
- tomenni glo nas defnyddir sydd wedi'u cofnodi am y tro cyntaf
- diwygiadau i ffiniau rhai tomenni sydd eisoes wedi'u cofnodi
- rhai tomenni y mae eu sgôr categori wedi newid
- rhai tomenni y nodwyd nad ydynt yn bodoli mwyach neu a ddosbarthwyd yn anghywir fel tomenni glo nas defnyddir.
Caiff diweddariadau o'r set ddata tomenni glo nas defnyddir eu cyhoeddi ddwywaith y flwyddyn. Cyhoeddir Diweddariad y Gwanwyn ar ôl i'r rhaglen o archwiliadau a gynhelir yn ystod y gaeaf (tomenni Categori C a D) gael ei chwblhau a chyhoeddir Diweddariad yr Hydref ar ôl i archwiliadau a gynhelir yn ystod yr haf (tomenni Categori D) gael eu cwblhau.
Rhoddir manylion y tomenni lle mae newidiadau wedi'u nodi yn y llyfryn o ddiweddariadau.
Mae'r tabl isod yn rhoi crynodeb o'r newidiadau a nodwyd yn ystod cyfnod Archwiliadau'r Gaeaf 2024-2025.
Math o Newid | Categori D | Categori C | Categori B | Categori A | Categori R | Cyfanswm |
Tomenni Newydd a Nodwyd | - | - | - | - | - | 0 |
Newid Sgôr Categori* | - | - | - | - | - | 0 |
Ffin Ddiwygiedig | 1 | 1 | 1 | 1 | - | 4 |
Symud tomen | - | - | - | - | - | 0 |
*O dan y gyfundrefn bresennol o archwiliadau a gwaith cynnal a chadw, ni chaiff sgoriau categori tomenni glo nas defnyddir eu lleihau. Diben hyn yw sicrhau bod pob tomen lo nas defnyddir yn cael ei monitro yn unol â'r sgôr categori wreiddiol (lle mae'r sgôr wreiddiol honno yn uwch). Er enghraifft, caiff tomen Categori C yr ailasesir ei bod yn perthyn i Gategori B ei dangos o hyd fel tomen Categori C a bydd yn cael archwiliad blynyddol fel y byddai tomen Categori C yn ei gael.
Diwygio polisïau a deddfwriaeth
Mae diogelwch tomenni glo wedi’i ddatganoli i Gymru. Y ddeddfwriaeth ar gyfer tomenni glo nas defnyddir yw Deddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969. Mae hon yn dyddio’n ôl i’r adeg pan oedd y diwydiant glo yn weithredol.
Yn 2020, gofynnodd Gweinidogion Cymru i Gomisiwn y Gyfraith adolygu'r ddeddfwriaeth bresennol ar domenni glo nas defnyddir.
Roedd yn cynnwys ymgynghoriad o fis Mehefin i fis Medi 2021. Cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith ganlyniadau'r ymgynghoriad a'i argymhellion ym mis Mawrth 2022.
Roedd yr adroddiad yn nodi'n glir y diffygion o ran y gyfundrefn bresennol. Roedd yn cynnig fframwaith rheoleiddio modern ar gyfer tomenni nas defnyddir.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynigion ar gyfer trefn newydd ar 11 Mai 2022 yn y Papur Gwyn ar Ddiogelwch Tomenni Glo (Cymru). Mae'r cynigion yn adeiladu ar argymhellion Comisiwn y Gyfraith. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 4 Awst 2022 a gwnaethom gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion ym mis Tachwedd 2022.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb dros dro i adolygiad Comisiwn y Gyfraith ym mis Medi 2022, a'i hymateb manwl ym mis Mawrth 2023. Derbyniodd Llywodraeth Cymru y rhan fwyaf o argymhellion Comisiwn y Gyfraith, neu eu derbyn ar ffurf wedi'u haddasu. Mae'r ymateb yn rhoi trosolwg o ddull arfaethedig Llywodraeth Cymru, a'i hymateb i bob un o'r argymhellion.
Yn amodol ar gytundeb Gweinidogion, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil ar Ddiogelwch Tomenni nas defnyddir yn nhrydedd flwyddyn rhaglen ddeddfwriaethol y llywodraeth.
Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer perchnogion tir
Os ydych yn bod gennych domen glo nas defnyddir darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar gyfer perchnogion tir.
Darllen pellach
- Datganiad Llafar: Data ar Leoliadau Tomenni Glo
- Datganiad Ysgrifenedig: Ymatebion i’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn (Cymru) ar Ddiogelwch Tomenni Glo
- Datganiad Ysgrifenedig: Papur Gwyn ar Ddiogelwch Tomenni Glo (Cymru)
- Datganiad Llafar: Diogelwch Tomenni Glo
- Data newydd yn dangos gwir faint problem y tomennydd glo wrth i'r Prif Weinidog apelio am gyllid newydd (26 Hydref 2021)
- Datganiad Ysgrifenedig: Y diweddaraf am ddiogelwch tomenni glo (11 Hydref 2021)
- Datganiad Ysgrifenedig: Y diweddaraf am ddiogelwch tomenni glo (11 Chwefror 2021)
- Mark Drakeford, y Prif Weinidog, yn galw ynghyd uwch-gynhadledd ar ddiogelwch tomenni glo (23 Rhagfyr 2020)
- Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford a’r Ysgrifennydd Gwladol Simon Hart yn cadeirio’r Uwchgynhadledd Tomenni Glo (5 Awst 2020)
- Simon Hart, yr Ysgrifennydd Gwladol, a Mark Drakeford, y Prif Weinidog, yn cadeirio cyfarfod i drafod diogelwch tomennydd glo (25 Chwefror 2020)