Prosiect i helpu i ddatblygu sectorau allweddol yn ardal forol Cymru mewn modd cynaliadwy
Mae datblygu canllawiau lleoliadol ar gyfer sectorau wedi canolbwyntio ar:
- ynni ffrwd lanw
- ynni’r tonnau
- dyframaethu
Rydym wedi canolbwyntio ar y rhain am y rhesymau canlynol:
- nodwyd yn y cynllun morol fod gan y rhain gyfleoedd sylweddol ar gyfer twf
- gallant elwa ar sail dystiolaeth hygyrch, gymhwysol a strwythuredig sy’n addas i’r diben
- mae modd coladu a dehongli’r setiau data perthnasol
Mae’r adroddiadau sector ar gael yma:
- Canllawiau lleoliadol ar gyfer sectorau: ynni ffrwd lanw
- Canllawiau lleoliadol ar gyfer sectorau: ynni’r tonnau
- Canllawiau lleoliadol ar gyfer sectorau: dyframaethu
Mae data gofodol ar gael ym Mhorthol Cynllunio Morol Cymru.
Gallwch weld adroddiadau sector cychwynnol yma:
- Adroddiad cychwynnol canllawiau lleoliadol sector ffrwd llanw: Mawrth 2021
- Adroddiad cychwynnol canllawiau lleoliadol y sector ynni tonnau: Mawrth 2021
- Adroddiad cychwynnol canllawiau lleoliadol y sector Dyframaethu: Mawrth 2021
Mae rhyngweithio rhwng rhanddeiliaid wedi bod yn hanfodol i’r gwaith o ddatblygu canllawiau lleoliadol ar gyfer sectorau. Os ydych yn gweithio yn un o’r sectorau o dan sylw a hoffech roi adborth cysylltwch â ni yn: Marineplanning@llyw.cymru.