Daw'r data ar hunaniaeth rywiol o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar gyfer 2019.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cyfeiriadedd rhywiol
Mae'r pwyntiau isod wedi eu tynnu o'r bwletin diweddaraf Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ogystal â'n dadansoddiad ychwanegol o set ddata cyfun sy'n cynnwys 3 blynedd o ddata'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth.
Oherwydd maint samplau bach, dylid bod yn ofalus wrth ddehongli’r ffigurau hyn.
Prif bwyntiau
- Yn 2019, nodwyd fod 94.4% o bobl yng Nghymru dros 16 oed yn heterorywiol/syth. Mae hyn yn cymharu â 1.9% a nodwyd yn hoyw/lesbiaidd, 1.0%yn ddeurywiol, a 1.0% o dan y categori ‘arall’. Roedd 1.7% naill ai ddim yn gwybod, neu heb ateb y cwestiwn.
- Dros y pum blwyddyn ddiwethaf, mae’r gyfran o’r boblogaeth Cymru a nodwyd yn lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol (LHD) wedi cynyddu’n raddol o 1.6% yn 2014 i 2.9% yn 2019.
- O’r bobl yng Nghymru a nodwyd yn hoyw/lesbiaidd/deurywiol, roedd mwy na dwy ran o dair ohonynt (71.2%) rhwng 16 a 44 mlwydd oed. Mae hyn yn cymharu â llai na hanner (42.8%) o’r boblogaeth gyfan.
- Nododd tua dwywaith cymaint o ddynion na merched eu bod yn hoyw/lesbiaidd tra bod ychydig mwy na 65% o bobl a nodwyd yn ddeurywiol yn ferched.
- Roedd unigolion a oedd yn ystyried eu hunain yn hoyw/lesbiaidd/deurywiol yn fwy tebygol o fod yn sengl nag wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil.
- O'r rheiny a oedd yn ystyried eu hunain yn hoyw/lesbiaidd/deurywiol, roedd 59.5% yn byw yn Ne-ddwyrain Cymru (o'i gymharu â 48.3% o'r boblogaeth gyfan). Roedd 14.0% yn byw yn y Gogledd (o'i gymharu â 29.3% o'r boblogaeth gyfan).
- Roedd 75.5% o bobl a oedd yn ystyried eu hunain yn hoyw/lesbiaidd/deurywiol yn byw mewn tref fawr yn hytrach na thref fach neu bentref (o gymharu â 67.8% o’r boblogaeth).
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.