Mick Antoniw AS, Gwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU gyflwyno adroddiad i Senedd y DU o bryd i'w gilydd ar faterion sy'n ymwneud â Fframweithiau Cyffredin a’r defnydd y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud, os o gwbl, o bwerau o dan adran 12 o'r Ddeddf (y 'pwerau rhewi' fel y'u gelwir) dros dro i gynnal cyfyngiadau presennol cyfraith yr UE ar gymhwysedd datganoledig. Rwy'n hysbysu'r Aelodau bod yr unfed adroddiad ar ddeg o'r fath wedi'i osod yn Senedd y DU ar 20 Mai 2021, ar gyfer y cyfnod rhwng 26 Rhagfyr 2020 a 25 Mawrth 2021.
Mae'r adroddiad yn dweud bod gwaith cadarnhaol yn parhau ar Fframweithiau Cyffredin, ac yn cadarnhau nad yw Llywodraeth y DU wedi defnyddio'r 'pwerau rhewi'. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, daeth y Cytundeb Masnach a Chydweithredu a Phrotocol Gogledd Iwerddon i rym. Mae gwaith ar y gweill i ymdrin â'r materion sy'n codi o'r rhyngweithio rhwng y cytundebau hyn a Fframweithiau Cyffredin y DU.
Cafodd Deddf Marchnad Fewnol y DU ei deddfu'n fuan cyn i'r cyfnod adrodd ddechrau. Mae Llywodraeth Cymru yn dal i bryderu'n fawr am botensial y Ddeddf hon i danseilio'r rhaglen Fframweithiau Cyffredin gydweithredol.