Y lle gorau i gefnogi a gwylio Cymru yn chwarae yr haf hwn fydd o’ch soffa, eich tafarn leol neu o’ch gardd.
Wrth i Gymru baratoi i chwarae ei gêm gyfeillgar gyntaf cyn gemau’r grwpiau yng nghystadleuaeth Ewro 2020 a gafodd ei gohirio y llynedd, mae Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Cymru heddiw wedi annog cefnogwyr i aros gartref yn hytrach na theithio dramor.
Bydd Cymru yn chwarae Ffrainc mewn gêm gyfeillgar nos Fercher (2 Mehefin), cyn herio’r Swistir (12 Mehefin) a Thwrci (16 Mehefin) yn Baku, a’r Eidal (20 Mehefin) yn Rhufain yng ngrwpiau’r twrnament a oedd i fod i gael ei gynnal y llynedd.
Mae Ffrainc, Azerbaijan a’r Eidal i gyd ar y rhestr oren o wledydd ar gyfer teithio rhyngwladol i’r DU, ac o’r DU.
Mae Llywodraeth y DU yn cynghori yn erbyn teithio i wledydd ar y rhestrau oren a choch er mwyn lleihau’r risg o ddod ag amrywiolynnau COVID newydd i’r DU.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:
“Bydd mis Mehefin yn fis cyffrous i dîm pêl-droed cenedlaethol dynion Cymru ac i’n cefnogwyr gwych. Mae pob un ohonon ni am weld tîm Cymru yn cael yr un llwyddiant ag a gafodd yn 2016 – mae cystadlu yn Ewro 2020 yn gamp ardderchog, a byddwn i gyd am ddilyn hynt a helynt y tîm.
“Mae pawb wedi cyd-dynnu’n wych yn ystod y pandemig, wrth ofalu am ei gilydd a chadw Cymru yn ddiogel. Yn anffodus, dyw’r pandemig ddim ar ben eto, ac mae hynny’n golygu bod yn dal rhaid inni wneud rhywfaint o newidiadau i’n bywydau er mwyn cadw’n ddiogel.
“I gefnogwyr pêl-droed, y ffordd orau o ddangos cefnogaeth i Gymru yw aros yng Nghymru a chefnogi’r tîm o gartref.
“Ein cyngor pendant yw na ddylech deithio – mae Ffrainc, Azerbaijan a’r Eidal ar y rhestr oren oherwydd bod y feirws yn cylchredeg yno”.
Dywedodd Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Kieran O'Connor:
“Rydyn ni wedi gweithio’n galed i ennill ein lle yn y twrnament hwn, a gwyddom fod ein holl gefnogwyr wedi bod yn edrych ymlaen ato hefyd.
“Rydyn ni i gyd wrth ein boddau bod y twrnament hwn yn gallu digwydd o’r diwedd, ond yn amlwg, mae chwarae mewn gwahanol leoliadau yn ystod pandemig byd-eang yn dod â heriau a chyfrifoldebau penodol.
“Felly, rydym yn gofyn eto am gydweithrediad y Wal Goch, a pheidio â theithio i Baku, Paris na Nice ym mis Mehefin, er mwyn sicrhau bod ein cefnogwyr a’n cymunedau yn aros mor ddiogel â phosibl wrth i bob un ohonom chwarae ein rhan i lywio ein ffordd allan o’r pandemig hwn.”