Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

  1. Mae’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) ('y Bil') yn rhestru pedair elfen mandadol y mae'n rhaid eu cynnwys mewn cwricwlwm a'u haddysgu o dair i un ar bymtheg oed:
    1. Cymraeg
    2. Saesneg
    3. Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
    4. Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg
  2. Fodd bynnag, er mwyn galluogi ysgolion cyfrwng Cymraeg i barhau i ymarfer trochi yn y Gymraeg – lle nad oes llawer neu ddim Saesneg yn cael ei addysgu na’i ddefnyddio fel cyfrwng cyn saith oed – rhoddodd y Bil bŵer i ysgolion a meithrinfeydd nas cynhelir a ariennir benderfynu datgymhwyso'r elfen fandadol Saesneg ar gyfer plant tair i saith oed.
  3. Yn dilyn cyhoeddi'r Bil, codwyd pryderon ynghylch statws mandadol y Saesneg a'i effaith ar drochi yn y Gymraeg. Y prif bryder oedd bod ei gwneud yn ofynnol i'r Saesneg gael ei datgymhwyso er mwyn ymarfer trochi yn y Gymraeg mewn gwirionedd yn creu rhwystr. Mae'r pryder hwn yn seiliedig ar y farn bod y Bil, fel y'i gosodwyd, yn gwneud i drochi yn y Gymraeg ymddangos fel pe bai’n gwyro oddi wrth trefn arferol ddwyieithog. Nid yw hyn yn wir ym mhob ysgol nac yn yr holl rannau o Gymru lle mai trochi yw’r drefn arferol. Pryderon eraill a godwyd oedd bod gan y datgymhwyso hwn y potensial i fod yn destun anghytundebau lleol ac roedd awdurdodau lleol o’r farn ei fod yn anghydnaws â'u dyletswyddau o dan reoliadau Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.
  4. Cododd y pryderon gwestiwn ynghylch a fyddai'r Bil fel y'i drafftiwyd yn bodloni ein hamcanion polisi ar gyfer y Gymraeg, sef:
  • ei gwneud yn bosibl i’r arfer o drochi dysgwyr yn y Gymraeg barhau fel y mae
  • cydnabod statws y Gymraeg fel iaith leiafrifol
  • cynyddu canfyddiad o’r Gymraeg a dealltwriaeth o’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg
  • dangos y trywydd rydym yn ei ddilyn i gefnogi’n fwy egnïol ymdrechion i feithrin dinasyddion dwyieithog yn unol â Cymraeg 2050 – ein strategaeth ar gyfer yr iaith Gymraeg
  1. Dywedodd y Gweinidog Addysg y byddai'n gwrando ar bryderon yn ystod hynt y Bil yn y Senedd ac, yng ngoleuni hynny, cynigiodd ystyried diwygio'r Bil.
  2. Y gwelliant arfaethedig fyddai gwneud Saesneg yn elfen fandadol o saith oed ymlaen. Byddai hyn yn golygu mai mater i ysgolion fyddai penderfynu a ddylid addysgu Saesneg cyn yr oedran hwnnw a sut i wneud hynny. Byddai trochi yn y Gymraeg yn parhau fel sy'n digwydd ar hyn o bryd heb fod angen i ysgolion neu leoliadau cyfrwng Cymraeg wneud penderfyniad ychwanegol i ddatgymhwyso Saesneg fel elfen mandadol hyd at 7 oed.
  3. Byddai'r newid hwn hefyd yn alinio'r cwricwlwm newydd yn well â sail y Cyfnod Sylfaen presennol mewn ymchwil i ddatblygiad plant, ac yn adlewyrchu'n well yr hyn a wyddom am hynny: mai'r oedran gorau i gyflwyno pynciau ffurfiol yw 7 oed fel yn y Cyfnod Sylfaen presennol. Mae hyn yn gyson â’r camau a gymerwyd i ddiwygio'r cwricwlwm ar lefel ysgol. Bydd hyn hefyd yn adlewyrchu polisi Llywodraeth Cymru ynghylch y Gymraeg a throchi yn y Gymraeg yn well. Mae parhau i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei haddysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg o 3 oed yn adlewyrchu sefyllfa fregus yr iaith. Nid yw gwneud Saesneg yn orfodol o 7 oed yn atal ysgolion rhag addysgu Saesneg, a byddai Llywodraeth Cymru yn ystyried darparu canllawiau anstatudol ategol ar gyfer ysgolion cyfrwng Saesneg ar ddysgu Saesneg pe bai ysgolion o'r farn bod hyn yn ddefnyddiol.

Y fethodoleg

  1. Er mwyn cael barn pobl ar y gwelliant arfaethedig, cynhaliwyd arolwg clyfar ar-lein dros gyfnod o bedair wythnos ynghyd â sesiynau ar gyfer rhai â diddordeb. Gofynnwyd saith cwestiwn ac mae copi o'r arolwg wedi'i atodi i'r adroddiad hwn yn Atodiad A.
  2. Er mwyn sicrhau cymaint o ymatebion â phosibl, hysbysebwyd yr arolwg ar holl sianelau perthnasol cyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru, dosbarthwyd bwletin rhanddeiliaid i'r Gweithgor Cyfathrebu ar gyfer Addysg ac i CLlLC, a chyhoeddwyd erthyglau yng nghylchlythyr Dysg. Anfonwyd y ddolen i'r arolwg at randdeiliaid allweddol hefyd, fel y’u rhestrir yn Atodiad B.
  3. Yn ogystal â'r arolwg trefnwyd nifer o sesiynau rhanddeiliaid ar gyfer y grwpiau canlynol:
  • rhanddeiliaid y Gymraeg
  • awdurdodau lleol a chonsortia
  • Y Comisiynwyr Plant, Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Gymraeg
  • ysgolion arloesi sy'n ymwneud â datblygu'r Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • ysgolion ac undebau'r gweithlu
  1. Mae cyfyngiadau posibl ar y gwaith hwn gan y gallai'r cyfnod o bedair wythnos olygu mai dim ond gan unigolion sydd â mynediad i'r rhyngrwyd a'r sgiliau a'r cymhelliant i ymateb y derbyniwyd yr ymatebion i'r arolwg, ac roedd rhai ymatebion yn awgrymu efallai nad oedd rhai cwestiynau wedi'u deall yn llawn ac mae’n bosib fod hyn wedi cael effaith fach ar y canlyniadau.
  2. Fodd bynnag, roedd hwn yn fater â phroffil uchel yn ystod cyfnod yr ymgynghori a gwnaed pob ymdrech i gynyddu nifer yr ymatebion i’r eithaf. Fel mae’n digwydd, roedd y nifer yn debyg i’r hyn a welwyd mewn ymgynghoriadau a gynhaliwyd dros gyfnod hwy o amser.

Canlyniadau'r arolwg

Ymatebion a dderbyniwyd

  1. Derbyniwyd tua 200 o ymatebion ac roedd ychydig o dan chwarter ohonynt yn ddienw. Roedd llawer ohonynt yn unigolion ac roedd nifer o ysgolion, cynradd yn bennaf, a meithrinfeydd hefyd wedi ymateb, fel y gwnaeth nifer o lywodraethwyr.
  2. Ymhlith y sefydliadau wnaeth ymateb roedd Estyn, y Mudiad Meithrin, Comisiynydd y Gymraeg, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, consortia, Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd a rhai awdurdodau lleol. Ymatebodd rhai â diddordeb yn y Gymraeg yn ogystal â dau undeb gweithlu addysgol a dwy ganolfan Addysg Gychwynnol Athrawon.

Cefnogaeth i'r cynnig

  1. O'r rhai a ymatebodd, roedd dros ddwy ran o dair (68%) o blaid y gwelliant arfaethedig. Mae'n bosibl bod y gefnogaeth yn uwch gan fod rhai o'r rhai a nododd nad oeddent yn cefnogi'r cynnig wedi rhoi tystiolaeth yn awgrymu eu bod mewn gwirionedd yn ei gefnogi ond eu bod, o bosibl, wedi camddeall y cwestiwn. Er enghraifft, ymatebodd yr ysgol gynradd hon nad oeddent yn cefnogi'r cynnig, ond er mwyn cefnogi eu barn, nodwyd:

Mae angen amser ar ysgolion i sicrhau bod plant wedi dysgu Cymraeg yn dda yn gyntaf. Mae bywydau'r rhan fwyaf o blant trwy gyfrwng y Saesneg ac felly mae digon o gefnogaeth i'r Saesneg beth bynnag. Mae’r rhan fwyaf o blant yn cael Cymraeg yn yr ysgol yn unig ac felly mae angen gwarchod yr amser hwnnw.

Tystiolaeth i gefnogi safbwyntiau

  1. Gofynnwyd i ymatebwyr am dystiolaeth i gefnogi eu barn ynghylch a oeddent yn cytuno â'r gwelliant arfaethedig ai peidio. Mae'r rhai a oedd yn cytuno â'r cynnig o’r farn mai trochi yn y Gymraeg yw’r unig ffordd effeithiol o sicrhau rhuglder yn y Gymraeg. Y rheswm am hyn, meddent, yw bod dysgu iaith yn digwydd yn fwyaf cyflym cyn saith oed ac nad yw trochi'n cael unrhyw effaith ar berfformiad TGAU mewn Saesneg, a bod Saesneg yn cael ei ddysgu beth bynnag oherwydd ei fod mor amlwg yn ein cymunedau.

This is a second language for the majority of pupils and having Welsh as a primary focus during these significant learning years provides children with the opportunity to be fully immersed in the language. The learning of a minority language is much more successful when it is the only focus.

  1. Ystyrir bod y system bresennol yn gweithio'n dda ac ystyrir bod y gwelliant arfaethedig yn cyfateb yn llawer gwell na'r broses ddatgymhwyso ac yn cyd-fynd yn well ag amcanion Cymraeg 2050. Ystyriwyd bod gan y broses ddatgymhwyso ganlyniadau anfwriadol a fyddai wedi arwain at leihau nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg ac, yn y pen draw, nifer y siaradwyr.

Mae cynnwys Saesneg fel elfen fandadol ar gyfer plant 3 i 7 oed yn mynd yn gwbl groes i hanfod addysg cyfrwng Cymraeg ac yn tanseilio strategaeth addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru a'r uchelgais o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050.

  1. Roedd bron pob sefydliad o blaid y cynnig.
  2. Dadleuodd y rhai yn erbyn y cynnig fod Saesneg yn iaith fyd-eang ac yn iaith bwysicach, ac felly y dylai fod yn orfodol o dair oed.

The attainment of higher level of literacy in English is of far greater benefit to the majority of school pupils than Welsh. And whilst it may be a difficult reality to face, abilities within the English language offer far more benefits in the wider world

  1. Roedd rhai'n pryderu y byddai'n anoddach i ddisgyblion ddal i fyny heb y Saesneg tan saith oed, yn enwedig y rhai o gefndiroedd difreintiedig. Dadleuodd eraill dros gydraddoldeb ac y dylid addysgu'r ddwy iaith o dair oed.

English should also be mandatory from aged 3. The later we leave it, the harder it will be for those from less well-to-do backgrounds to catch up.

  1. Gwnaed y pwynt yn y sesiynau rhanddeiliaid isod fod y disgwyliadau gan y sector cyfrwng Saesneg yn uwch na’r sector cyfrwng Cymraeg oherwydd bod ganddynt iaith ychwanegol i'w haddysgu.
  2. Yn ddiddorol, roedd rhai yn erbyn y cynnig oherwydd eu bod yn credu na ddylai'r Saesneg fod yn fandadol o gwbl yn y Bil, roedd y rhain yn cynnwys rhai rhanddeiliaid Cymraeg. Roedd eraill a oedd â safbwyntiau tebyg yn cefnogi'r cynnig.

Effeithiau'r cynnig ar y Gymraeg

  1. Roedd y rhai a oedd yn cefnogi'r cynnig o’r farn ei fod yn cynyddu cyfleoedd i bobl siarad Cymraeg gan ei fod yn galluogi trochi yn y Gymraeg, sy'n rhoi sylfaen gadarn ar gyfer datblygu dwyieithrwydd ac sy'n rhoi blaenoriaeth i'r Gymraeg ar adeg allweddol yn natblygiad ieithyddol plentyn.

Mae derbyn addysg uniaith Gymraeg tan 7 oed yn rhoi cyfle teg i blant caffael yn yr iaith Gymraeg, ac i fod yn hollol ddwyieithog – sgil bydd yn cyfoethogi eu cyfleoedd n y byd gwaith a chyfleoedd yng ngweddill eu bywydau.

  1. Ystyrir bod y newid pwyslais yn codi proffil y Gymraeg a gall arwain at weld mwy o staff yn defnyddio'r iaith. Efallai y bydd staff sy'n modelu ymddygiad cadarnhaol tuag at y Gymraeg ynddo’i hun yn ennyn agweddau mwy cadarnhaol ymhlith disgyblion, ac mae hyn yn arbennig o bwysig i'r rhai y mae'r Gymraeg yn ail iaith iddynt.

Mi ddylai'r newid pwyslais fod yn gyfle da i fwy o staff ysgol ddefnyddio Cymraeg yn y gweithle. Byddai hyn yn codi proffil y Gymraeg ymysg plant sydd ddim yn clywed y Gymraeg y tu allan i furiau'r ysgol.

  1. I'r rhai a gefnogodd y cynnig, ystyrir ei fod yn caniatáu i'r sefyllfa bresennol o drochi yn y Gymraeg barhau ac yn welliant mawr ar y drafft gwreiddiol gan fod hwnnw fel pe bai’n trin trochi Cymraeg yn llai ffafriol nag addysg ddwyieithog, o ganlyniad i'r broses ddatgymhwyso.

Mae gwneud Saesneg yn fandadol o 7 oed yn Bil y Cwricwlwm newydd yn ein caniatáu ni i gyd i barhau â'r sefyllfa bresennol. Mae llwyddiant addysg cyfrwng Gymraeg yn llwyr ddibynol ar y dull trochi yn enwedig i blant yn yr oedran cyn ysgol.

  1. Roedd rhai o'r rhai a oedd yn erbyn y cynnig yn ailddatgan eu barn bod Saesneg yn bwysicach neu y dylid trin y ddwy iaith yn gyfartal a dechrau yn dair oed, gyda rhai yn gweld y driniaeth gyfartal hon yn gadarnhaol i'r Gymraeg:

Parity would mean that there was no disadvantage to one language. The aim would be stated early that both languages are equal right from the start. It would greatly help parents who are not Welsh who could then encourage their children in Welsh.

  1.  Mae nifer fach yn gweld trin y Gymraeg yn fwy ffafriol na'r Saesneg fel cam negyddol ac ymrannol o bosibl.
  2. Unwaith eto, nid yw nifer fach yn cefnogi bod Saesneg yn orfodol o gwbl gan eu bod yn dadlau y bydd disgyblion yn dysgu'r iaith beth bynnag.

Cynyddu effeithiau cadarnhaol a lliniaru effeithiau negyddol ar y Gymraeg

  1. Ni atebodd llawer o ymatebwyr y cwestiwn yn uniongyrchol ond, o'r rhai a wnaeth hynny, dywedodd rhai fod y newid yn normaleiddio'r Gymraeg ac felly'n creu cynsail o driniaeth gadarnhaol ac y bydd ynddo'i hun yn effaith gadarnhaol.
  2. Awgrymiadau eraill oedd dileu'r Saesneg fel elfen orfodol; cod iaith Gymraeg yn arbennig ar gyfer gosod disgwyliadau ar gyfer y Gymraeg mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg; hyfforddiant i gynyddu hyder staff wrth ddefnyddio'r Gymraeg; mwy o adnoddau Cymraeg; mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg; a hyrwyddo'r Gymraeg yn y gweithle fel ei bod yn dod yn fwy deniadol i ddysgwyr.

Effeithiau ar yr iaith Saesneg

  1. Fel y disgwylid, nid yw'r rhai sy'n cefnogi'r cynnig yn gweld unrhyw effaith ar y Saesneg oherwydd ei bod mor gyffredin yn y gymuned ac ar sail eu profiad o’r system drochi yng Nghymru.

Gan fod Saesneg yn iaith fwyafrifol (gyda'r mwyaf dylanwadol yn y byd), ni welir fod unrhyw bryder am effaith y cynnig hwn ar yr iaith Saesneg.

  1. O'r rhai nad oeddent yn cefnogi'r cynnig, y brif thema oedd pryder y gallai effeithio ar ddatblygiad sgiliau Saesneg, yn enwedig mewn sgiliau darllen ac ysgrifennu ac o bosibl yn fwy felly lle darperir llai o gefnogaeth i'r rhain yn y cartref.

This could affect lower ability pupils who would greatly benefit from as much English language skills as possible. If little reading is occurring at home. Starting serious English language skills later could negatively effect these pupils long term.

  1. Ni fynegodd yr un ymatebydd y farn y bydd y cynnig yn effeithio'n uniongyrchol ar y Saesneg ei hun.

Sylwadau pellach

  1. Cynigiwyd cyfle i ymatebwyr ychwanegu unrhyw sylwadau pellach. Ni wnaeth y rhan fwyaf hynny. Lle gwnaethant hynny, ailddatgan eu hatebion i gwestiynau eraill a wnaeth y mwyafrif llethol. Un pwynt a wnaed oedd yr angen i gael gweithlu sydd â'r sgiliau iaith angenrheidiol i gyflwyno mwy o Gymraeg yn y cwricwlwm.

Adborth o'r sesiynau rhanddeiliaid

  1. Cymeradwyodd bron pob un o'r rhanddeiliaid y gwelliant ac roeddent yn falch bod y Gweinidog wedi gwrando ar y pryderon. Gwnaed y pwynt bod disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg i gyd yn rhugl yn Saesneg erbyn diwedd eu haddysg gynradd, waeth beth fo'u hiaith gartref, ac felly ni fyddai'r newid hwn yn effeithio ar eu gallu yn y Saesneg.
  2. Er bod rhanddeiliaid y Gymraeg a Chomisiynydd y Gymraeg yn gefnogol, roedd eu cefnogaeth yn amodol. Roeddent yn cwestiynu'r angen i'r Saesneg fod yn orfodol o gwbl gan na allent weld angen rhesymegol am hyn o gymharu â'r elfennau gorfodol eraill, bydd Saesneg yn cael ei addysgu yn y cwricwlwm newydd, waeth beth fo'n orfodol. Roeddent hefyd o'r farn y gallai'r Bil fod wedi mynd ymhellach i hyrwyddo'r Gymraeg drwy gynnwys cod iaith Gymraeg a thrwy wneud categoreiddio ieithyddol ysgolion yn statudol. Mae rhywfaint o siom nad yw'r Bil yn gwneud llawer mwy na chynnal y status quo ac fe'i gwelir fel cyfle a gollwyd yn hyn o beth.
  3. Roedd ysgolion yn gefnogol ar y cyfan ond gwnaethant y pwynt ei bod yn bwysig cyfleu'r hyn y bydd yn ei olygu'n ymarferol, yn enwedig i ysgolion a lleoliadau cyfrwng Saesneg.
  4. Lleisiodd nifer fach o randdeiliaid ysgolion ac awdurdodau lleol bryderon bod y ffaith nad yw ysgolion cyfrwng Cymraeg yn gorfod addysgu Saesneg cyn saith oed yn mynd yn groes i ysbryd Cwricwlwm Cymru gan fod y Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn ymwneud â mwy nag un iaith. Roeddent hefyd yn ei ystyried yn ymrannol gan fod disgwyl eto i ysgolion cyfrwng Saesneg fod yn atebol am fwy na rhai cyfrwng Cymraeg gan fod yn rhaid iddynt addysgu Cymraeg yn ogystal â'r Saesneg.

Casgliadau

  1. Mae'n amlwg o'r arolwg a digwyddiadau’r rhanddeiliaid fod yr ymatebion a gafwyd yn cefnogi'r gwelliant arfaethedig yn gryf. Mae'r gefnogaeth hon hyd yn oed yn gryfach pan ychwanegir y rhai sy'n cynnig cefnogaeth amodol, y byddai'n well ganddynt pe na bai'r Saesneg yn elfen orfodol.
  2. Yn gyffredinol, ystyrir bod y gwelliant arfaethedig yn galluogi'r status quo i barhau ac yn dileu'r rhwystr posibl rhag trochi yn y Gymraeg sy’n codi yn sgil y modd y drafftiwyd y Bil ar hyn o bryd. Gan fod trochi Cymraeg wedi hen brofi’i werth fel ffordd o ddatblygu dysgwyr dwyieithog, ystyrir bod ei alluogi i barhau yn fuddiol i'r Gymraeg, a hynny heb gael unrhyw effaith ar y Saesneg.

Atodiad A – cynnwys yr arolwg

Statws mandadol y Saesneg ym Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Cyflwyniad

Rydym yn casglu barn am statws mandadol Saesneg ym Mil y Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) ('y Bil') ac i ba raddau y mae'n unol â datblygiad plant, yn cyflawni ein hamcanion polisi i:

  • galluogi trochi yn y Gymraeg i barhau fel y mae
  • cydnabod statws y Gymraeg fel iaith leiafrifol
  • ac dealltwriaeth o Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg
  • arwydd o'n cyfeiriad teithio i gefnogi hwyluso dinasyddion dwyieithog yn fwy gweithredol yn unol â Cymraeg 2050 – ein strategaeth iaith Gymraeg

Mae'r arolwg yn fyw o ddydd Gwener 6 Tachwedd, a bydd yn dod i ben ddydd Gwener 4 Rhagfyr.

Mae Senedd Cymru wrthi'n craffu ar y Bil ar hyn o bryd. Os caiff ei basio, bydd y Ddeddf yn galluogi Llywodraeth Cymru a phartneriaid i sefydlu cwricwlwm newydd ar gyfer ysgolion a lleoliadau nas cynhelir a ariennir megis meithrinfeydd, yn ogystal â'r trefniadau asesu cysylltiedig, ar gyfer plant a disgyblion 3 i 16 oed.

Pam yr ydym yn bwriadu newid y Bil?

Mynegwyd pryderon nad yw'r Bil fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd yn cyflawni ein hamcanion polisi mor llawn ac clir ag y byddem yn dymuno. Codwyd nifer o bryderon penodol yn ystod gwaith craffu Cyfnod 1 ar y Bil mewn sesiynau tystiolaeth a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn Senedd Cymru, gan dynnu sylw at y canlyniadau posibl i drochi'r dull sy'n cael ei ddefnyddio yn gymraeg. Yn y Cynllun Plant a Phobl Ifanc ar 21 Hydref, ac mewn ymateb i'r pryderon a godwyd yn ystod sesiynau tystiolaeth y Pwyllgor, cadarnhaodd y Gweinidog Addysg y byddai'n ceisio gwneud Lloegr yn orfodol o 7 mlynedd, drwy welliant yng Nghyfnod 2. Byddai hyn er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd yn sesiynau tystiolaeth y Pwyllgor. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn i alluogi'r Gweinidog i benderfynu a ddylid cyflwyno gwelliant o'r fath ai peidio. 

Beth yw'r sefyllfa bresennol o ran dynodiadau ysgolion yng Nghymru?

Roedd y Cyfnod Sylfaen (3 i 7 oed) yn seiliedig ar ymchwil ym maes datblygiad plant gan ddangos bod plant yn datblygu'n gyflymach yn y blynyddoedd cynnar (0 i 7) nag unrhyw adeg arall. Roedd hefyd yn seiliedig ar waith gwahanol damcaniaethwyr addysgol sy'n dadlau bod dysgu drwy brofiadau yn hytrach na gwybodaeth ffurfiol am bynciau yn fwy priodol ar gyfer y grŵp oedran hwn, gan nad yw plant yn dechrau elwa o addysgu ffurfiol helaeth tan tua chwech neu saith oed. Yn y blynyddoedd cynnar nid yw plant yn elwa o ddysgu ar wahân ond o ddysgu sy'n eang ei gwmpas ar draws yn hytrach nag o fewn ffiniau pynciau traddodiadol.

Roedd y ffynonellau tystiolaeth hyn yn llywio datblygiad y Cyfnod Sylfaen gan arwain at hebrwng pynciau ffurfiol. Mae Fframwaith y Cyfnod Sylfaen yn nodi'r cwricwlwm statudol a'r deilliannau ar gyfer plant 3 i 7 oed ac yn amlinellu 'Meysydd Dysgu' eang yn hytrach na phynciau ar wahân yr un sy'n cynnwys rhaglen addysg, neu gwricwlwm, a deilliannau sy'n cefnogi datblygiad plant a'u sgiliau. Rhaid i'r Meysydd Dysgu hyn ategu ei gilydd a chydweithio i ddarparu dull trawsgwricwlaidd o ffurfio cwricwlwm ymarferol perthnasol. Ni ddylid mynd addynt ar eu pennau eu hunain. Rhoddir pwyslais ar ddatblygu sgiliau plant ar draws y Meysydd Dysgu, er mwyn darparu dull addas ac integredig ar gyfer dysgu plant ifanc.

Mae'r Fframwaith yn nodi y dylai ysgolion a lleoliadau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog sy'n cefnogi plant i ddod yn ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg barhau i gymhwyso a datblygu eu polisïau iaith cyfredol. Dylent weithredu a dilyn rhaglen addysgol y Maes Dysgu Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu. Trefnir yr Ardal hon yn dri 'llinyn' - llafaredd, darllen ac ysgrifennu – ac ar y cyfan nid yw'n gwahaniaethu ar sail iaith, ac eithrio mynd i'r afael â materion o wahaniaeth fel mwtaniad yn yr iaith Gymraeg.

Mewn ysgolion a lleoliadau lle mae'r Saesneg yn brif gyfrwng cyfathrebu, datblygir medrau Cymraeg plant yn raddol drwy gydol y Cyfnod Sylfaen drwy weithredu Maes Dysgu Datblygu'r Gymraeg.

Mae'r Meysydd Dysgu a'u cynnwys – gan gynnwys Maes Dysgu Datblygu'r Gymraeg a Maes Dysgu Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu - yn orfodol yn y Cyfnod Sylfaen; Nid yw datblygiad Saesneg yn cael ei nodi ar wahân fel Maes Dysgu ond mae'r sgiliau sylfaenol ar gyfer datblygu iaith wedi'u gwreiddio drwy Maes Dysgu Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu.

Trochi yn yr iaith Gymraeg

Cynhelir addysg drochi Gymraeg mewn rhai ysgolion cynradd – fe'u gelwir fel arfer yn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Yn yr un modd, mae rhai lleoliadau cyn-ysgol, megis Cylch Meithrin, hefyd yn darparu trochi yn y Gymraeg.

Bydd ysgol neu leoliad sy'n defnyddio trochi Cymraeg yn addysgu'n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg tan 7 oed, cyn cyflwyno'r Saesneg yn raddol. Disgwylir i ysgolion cyfrwng Cymraeg addysgu Ardal LLCS yn Gymraeg.

Dengys dadansoddiad o ganlyniadau TGAU Saesneg o'r Cyfrifiad Lefel Ysgol Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) a data gan Gymwysterau Cymru fod gan ddisgyblion sydd wedi cael addysg cyfrwng Cymraeg sgiliau Saesneg sydd fel arfer ar yr un lefel â disgyblion sydd wedi mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg. Mae trochi yn y Gymraeg yn rhan bwysig o'r model yng Nghymraeg 2050.

Sut mae'r Bil fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd yn ymdrin â dysgu iaith?

Mae'r cwricwlwm newydd wedi'i drefnu'n chwe Maes Dysgu a Phrofiad:

  • Celfyddydau creadigol a dylunio
  • Iechyd a Lles
  • Y dyniaethau
  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Mathemateg a Rhifedd
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Bydd pob ysgol a lleoliad yn creu eu cwricwlwm eu hunain o fewn y fframwaith a nodir gan y Bil a chanllawiau cysylltiedig y mae'n rhaid iddynt gwmpasu pob un o'r Meysydd hyn.

Yn ogystal â'r rhain, mae'r Bil yn rhestru pedair 'elfen fandadol’ y mae'n rhaid eu haddysgu ym mhob ysgol a lleoliad o dair oed i un ar bymtheg oed. Dyma’r tri amcan:

  • Cymraeg
  • English
  • Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
  • Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

Trochi yn yr iaith Gymraeg

Mae pob ysgol a lleoliad yn datblygu cwricwlwm o fewn y fframwaith a nodir gan y Bil a chanllawiau cysylltiedig sy'n gweddu orau i'w dysgwyr a'i leoliad. Ar hyn o bryd, mae'r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i'r Gymraeg a'r Saesneg gael eu haddysgu o 3 i 16 oed.

Mae'r Bil yn galluogi trochi yn y Gymraeg drwy roi'r gallu i ysgolion a lleoliadau benderfynu a yw Saesneg yn elfen fandadol o'u cwricwlwm ai peidio hyd at 7 oed drwy broses ddatgymhwyso gan yr ysgol i gynnal neu wella rhuglder disgyblion yn Gymraeg. Nid yw'r hyn sy'n cyfateb ar gael ar gyfer dysgu Cymraeg, sy'n fandadol ym mhob ysgol a lleoliad. 

Beth rydym yn ystyried ei newid yn y Bil?

Ein barn ni, yn seiliedig ar gryfder adborth rhanddeiliaid, yw bod y broses ddatgymhwyso ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg, yn hytrach na galluogi trochi yn y Gymraeg, yn cael ei hystyried yn rhwystr iddo. Gallai hyn greu canolbwynt ar gyfer anghytundebau lleol ac mae awdurdodau lleol o'r un mor anghydnaws â'u dyletswyddau o dan reoliadau Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Ein bwriad polisi yw galluogi trochi yn y Gymraeg i barhau fel y mae, a chydnabod statws y Gymraeg fel iaith leiafrifol i gefnogi Cymraeg 2050.

Mae ein hamcanion polisi ehangach o ran diwygio'r cwricwlwm yn pwysleisio'r pwysigrwydd i ysgolion wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch cynllunio'r cwricwlwm yn dibynnu ar flaenoriaethau dysgwyr a chymunedau. Mae athroniaeth bresennol y Cyfnod Sylfaen yn seiliedig ar ymchwil datblygiad plant sy'n awgrymu nad yw dysgwyr rhwng 3 a 7 oed yn elwa o ddysgu ar wahân ond o ddysgu sy'n eang ei gwmpas ar draws yn hytrach nag o fewn ffiniau pynciau traddodiadol.

Yn unol â hyn, ein cynnig yw:

Diwygio'r Bil i wneud Saesneg yn fandadol o 7 oed. Byddai hyn yn golygu mai mater i ysgolion fyddai penderfynu a ddylid addysgu Saesneg cyn yr oedran hwnnw a sut i wneud hynny. Byddai ysgolion yn gallu addysgu Saesneg mewn ffordd sy'n cefnogi dilyniant i'w dysgwyr, a gall Llywodraeth Cymru ddarparu canllawiau anstatudol i gefnogi ysgolion yn hyn o beth os ystyrir ei bod yn ddefnyddiol. Byddai'r statws hwn o ddysgu Saesneg wedyn yn gyson â'r dull presennol yn y Cyfnod Sylfaen.

Cadw'r Gymraeg yn fandadol o 3 oed. Mae hyn yn adlewyrchu ein barn ei bod yn iaith leiafrifol mewn perygl sy'n gofyn am gymorth ychwanegol, fel y nodir yn Cymraeg 2050. Unwaith eto, byddai'r dull hwn yn gyson â'r dull presennol yn y Cyfnod Sylfaen, lle mae'r Gymraeg yn orfodol mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Fodd bynnag, byddai'r gwelliant arfaethedig i'r Bil yn arwydd cliriach o'n disgwyliad y dylid hyrwyddo a galluogi dysgu Cymraeg drwy roi'r disgwyliad hwn ar wyneb y Bil ar gyfer pob ysgol.

Byddai hyn yn dileu'r angen i ysgolion sy'n dymuno darparu trochi yn y Gymraeg gael gwared ar y Saesneg fel cam ar wahân (a byddai'r darpariaethau presennol yn y Bil yn adrannau 26 a 27 yn cael eu dileu).

Pam mae hyn yn gwneud gwahaniaeth?

Byddai hyn yn alinio'r cwricwlwm newydd yn well â sail datblygiad plant y Cyfnod Sylfaen presennol ac yn galluogi trochi yn y Gymraeg i barhau fel sy'n digwydd ar hyn o bryd heb ysgolion neu leoliadau cyfrwng Cymraeg sydd angen gwneud penderfyniad ychwanegol i ddatgymhwyso Saesneg fel elfen fandadol hyd at 7 oed.

Mae hyn yn adlewyrchu'n well yr hyn a wyddom am ddatblygiad plant ac mai'r ffordd orau o gyflwyno pynciau ffurfiol yw yn 7 oed fel yn y Cyfnod Sylfaen presennol a'i fod yn gyson â dyluniad cwricwlwm lefel ysgol y diwygiadau. Bydd hyn hefyd yn adlewyrchu polisi Llywodraeth Cymru ar drochi yn y Gymraeg a'r Gymraeg yn well. Mae parhau i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei haddysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg o 3 oed yn adlewyrchu breuder yr iaith. Nid yw gwneud Saesneg yn fandadol o 7 oed yn atal ysgolion rhag addysgu Saesneg, a byddai Llywodraeth Cymru yn ystyried darparu canllawiau anstatudol ategol ar gyfer ysgolion cyfrwng Saesneg ar ddysgu Saesneg pe bai ysgolion o'r farn bod hyn yn ddefnyddiol.

Beth na fydd yn newid?

Ar ei ben ei hun, ni fydd hyn yn cynyddu nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg nac yn newid ysgolion i ysgolion cyfrwng Cymraeg. Y rheswm am hyn yw y bydd newidiadau i iaith addysgu mewn ysgol yn dal i gael eu rheoli gan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Mae newidiadau sylweddol i iaith addysgu mewn ysgol yn cael eu rheoleiddio gan y Ddeddf hon ac ni all yr ysgol, yr awdurdod lleol na Llywodraeth Cymru eu gwneud. Er mwyn gwneud newid o'r fath rhaid i gorff llywodraethu'r awdurdod lleol a'r ysgol gyflwyno cynnig y mae'n rhaid ymgynghori arno wedyn. Nid yw'r newid rydym yn bwriadu ei wneud yn effeithio'n uniongyrchol ar hyn.

Ni fydd yn newid gallu ysgolion cyfrwng Saesneg i addysgu Saesneg cyn eu bod yn 7 oed o'r sefyllfa bresennol. Fodd bynnag, bydd yn newid y sefyllfa o'r hyn sydd o fewn y Bil ar hyn o bryd, lle mae'r Saesneg yn fandadol o 3 oed. Yn dilyn y newid arfaethedig, bydd Saesneg yn fandadol o 7.

Gan fod y Gymraeg yn orfodol yn y Cyfnod Sylfaen ar hyn o bryd, ni fydd y newid i'r Bil yn unig yn newid ymrwymiad ysgolion cyfrwng Saesneg i addysgu Cymraeg.

Pam mai dim ond pedair wythnos sydd i ymateb?

Mae'r Gweinidog Addysg yn ymateb, ar gyflymder, i safbwyntiau rhanddeiliaid nodedig sydd wedi dod i'r amlwg ers cyflwyno'r Bil ar 6 Gorffennaf a thros sesiynau tystiolaeth y Cynllun Plant a Phobl Ifanc yn yr hydref. Mae'r Gweinidog wedi ymrwymo i ystyried cyflwyno gwelliant Cyfnod 2 ac mae amseriad yr ymgynghoriad hwn er mwyn llywio'r penderfyniad hwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda'r ystod ehangaf bosibl o randdeiliaid yn ystod y cyfnod hwn er mwyn cael dealltwriaeth mor llawn a helaeth â phosibl o farn pobl yn ystod y cyfnod hwn, yn ogystal â ffactorau cyd-destunol ehangach i'w hystyried. Er mwyn galluogi rhanddeiliaid i ymateb mor hawdd â phosibl, rydym wedi ceisio cyfyngu ar nifer y cwestiynau a'u gwneud mor syml â phosibl. Byddwn hefyd yn ystyried barn y cyhoedd am randdeiliaid fel y nodir yn nerf dystiolaeth y Pwyllgor wrth ystyried yr ymateb a byddwn yn adlewyrchu'r rhain yn ein hymateb i'r ymgynghoriad.

Er mwyn sicrhau bod pawb sydd am ddweud eu dweud yn cael cyfle rydym yn cyhoeddi hyn ar ein gwefan fel arfer ac rydym hefyd yn ei rannu ar bob un o'n sianeli cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys yn ein cylchlythyrau, yn ogystal â'i anfon at sefydliadau partner i'w rannu'n ehangach. Byddwn yn cwrdd â rhai grwpiau rhanddeiliaid ac yn cael digwyddiad rhithwir i ysgolion cyfrwng Saesneg ddeall eu hanghenion yn llawn er mwyn sicrhau bod hyn yn cael ei weithredu'n effeithiol.

Cwestiynau

1. Enw/Sefydliad:

2. A ydych yn cytuno y dylem wneud Saesneg yn fandadol o 7 oed?

le/Na

3. Pa dystiolaeth sydd gennych i gefnogi eich barn?

4. Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai'r canllawiau yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar:

i) cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg

ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

5. Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi? Sut mae cynyddu effeithiau cadarnhaol neu liniaru effeithiau negyddol?  – Eglurwch hefyd sut gellid ffurfio neu newid y polisi arfaethedig:

i) cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg

i) sicrhau nad oes effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac o ran peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

6. Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai'r canllawiau yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar:

7. A oes gennych unrhyw sylwadau eraill am y newid arfaethedig hwn?

Atodiad B – rhestr o randdeiliaid a dderbyniodd gysylltiad uniongyrchol â'r arolwg

Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru

Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau

Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro

Bwrdd Syr Ifanc

Fforwm Addysg Gymraeg Caerdydd

Gwasanaeth Addysg yr Eglwys Gatholig

Comisiynydd Plant Cymru

Yr Eglwys yng Nghymru

CYDAG

Cymdeithas yr Iaith

Dyfodol i’r Iaith

Athrawon Ymgynghorol y Blynyddoedd Cynnar

Blynyddoedd Cynnar Cymru

Cyngor y Gweithlu Addysg

Comisiynydd Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Comisiwn yng Nghymru)

Estyn

Arweinwyr y Cyfnod Sylfaen – consortia

Arweinwyr y Cyfnod Sylfaen – awdurdodau lleol

GMB

Swyddogion Llywodraethu Awdurdodau Lleol

menter iaith

Mudiad Meithrin

NAHT Cymru

Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd/National Day Nurseries Association

Y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar

NASUWT

NEU Cymru

Y Gymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar

Cymwysterau Cymru

Y Consortia Rhanbarthol

RhAG

Senedd Cymru

SNAP Cymru

Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy

Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru UCAC

Undeb Prifysgolion a Cholegau

UNSAIN

Uno

Urdd Gobaith Cymru

Llais

Comisiynydd y Gymraeg

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Darparwyr ADY

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sain (S

Prifysgol De Cymru

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Abertawe 

Prifysgol Bangor

Y Brifysgol Agored

USCET