Data ar gyfer pobl ifanc yn ôl oedran, rhyw, rhanbarth a statws anabledd ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET)
Mae’r datganiad hwn yn crynhoi’r ystadegau sydd ar gael ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru. Y ffynhonnell ddiffiniol ar gyfer y wybodaeth hon yw’r datganiad ystadegol blynyddol cyntaf (SFR), Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg ac yn y farchnad lafur (a gyhoeddwyd ar 22 Medi 2021 hefyd).
Yn ogystal, mae’r datganiad hwn yn darparu ystadegau manylach, ond llai cadarn yn ystadegol, o’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol i ddefnyddwyr.
Dylid nodi mai amcangyfrifon yw pob ffynhonnell. Mae ein canllaw ar ddeall y ffynonellau gwahanol o ystadegau ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru’n darparu rhagor o wybodaeth.
Adroddiadau
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET), 2021: tablau , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 19 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.