Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg tracio teimladau defnyddwyr er mwyn ceisio deall hyder, bwriad a rhwystrau i fynd ar wyliau byr dros nos a gwyliau yn y DU a Chymru ar gyfer tonnau 28 i 30.

Bwriadau tripiau sydd ar ddod

  • Mae 14% o breswylwyr y DU yn bwriadu mynd ar drip dros nos yn y gwanwyn (mis Mai i fis Mehefin), ychydig yn is ymhlith preswylwyr Cymru (ar 11%). Mae bron i draean (32%) o breswylwyr y DU yn bwriadu mynd ar drip dros nos yn yr haf, gan godi i 38% o breswylwyr Cymru
  • Yn gadarnhaol, mae'r mwyafrif helaeth o dripiau gwanwyn eisoes wedi'u cynllunio ac mae dros hanner eisoes wedi'u harchebu.
  • De Orllewin Lloegr yw'r gyrchfan fwyaf dewisol ar gyfer trip gwanwyn neu haf, gan barhau â thueddiad sydd wedi bod ar waith ers dechrau'r pandemig. Cymru yw'r ail gyrchfan fwyaf dewisol ar gyfer trip gwanwyn a'r seithfed fwyaf ar gyfer trip haf (er mai dim ond ychydig y tu ôl i’r trydydd cyrchfan).
  • Mae tri chwarter y Bwriadwyr Cymru yn yr haf yn byw y tu allan i Gymru, gyda Gogledd-orllewin Lloegr a Gorllewin Canolbarth Lloegr yn cyfrif am y gyfran uchaf o bobl sy'n teithio.
  • Teuluoedd yw'r gyfran uchaf o bobl sy'n bwriadu ymweld â Chymru yn y gwanwyn a’r haf, gan gynnwys 4 o bob 10 ymwelydd yn yr haf.

Bwriadau hamdden a thripiau dydd sydd ar ddod 

  • Ar ddechrau mis Mai 2021, mae bron i 7 o bob 10 o breswylwyr Cymru yn bwriadu mynd ar drip dydd erbyn yr haf hwn.
  • Mae bwriadau tripiau dydd ar eu huchaf ar gyfer ardaloedd cyrchfan llai poblog fel ‘tref arfordirol/glan môr traddodiadol’ a ‘cefn gwlad neu bentref’.

Adroddiadau

Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth COVID-19 (proffil Cymru): 6 Ebrill i 9 Mai 2021 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 9 MB

PDF
9 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

David Stephens

Rhif ffôn: 0300 025 5236

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.