Cyfarfod Cyd-bwyllgor Gweithredol Cyngor Partneriaeth y Gweithlu: 13 Gorffennaf 2020
Cofnodion cyfarfod rhithiol Cyd-bwyllgor Gweithiredol Cyngor Partneriaeth y Gweithlu a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2020.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Agenda
Eitem | Eitem yr agenda | Perchennog | Math |
---|---|---|---|
1 |
COVID 19 – Ymateb a Blaenoriaethau I’w trafod |
TUC Cymru | Papur |
2 |
Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg I’w trafod |
Llywodraeth Cymru | Llafar |
3 |
Cyfnewid Pobl Cymru I’w benderfynu |
Cyd-ysgrifenyddiaeth | Papur |
4 |
Y Diweddaraf am Raglen Waith WPC Er gwybodaeth |
Cyd-ysgrifenyddiaeth | Papur |
5 |
Adolygiad o gofnodion y Cyd-bwyllgor Gweithredol/Materion yn Codi Er gwybodaeth |
Cyd-ysgrifenyddiaeth | Papur |
6 | UFA |
Cadeirydd – Ochr y Cyflogwyr, Peter Kennedy
Eitem 1: COVID-19 ymateb a blaenoriaethau
Penderfyniadau
1. JEC mis Medi i gynnwys eitemau agenda ar brofi, olrhain, diogelu COVID a rheoli achosion lleol o COVID yn y gweithle.
2. Cymeradwyodd a chytunodd aelodau JEC i gefnogi adolygiad o drefniadau partneriaethau cymdeithasol.
Gweithredu
1. Cyd-ysgrifenyddiaeth WPC i wahodd Jo-Anne Daniels i fynychu cyfarfod nesaf JEC ym mis Medi 2020 i drafod profi, olrhain, diogelu COVID a rheoli achosion lleol o COVID yn y gweithle.
2. Helen Arthur i ddarparu'r animeiddiad ar yr offeryn asesu i Gyd-ysgrifenyddiaeth WPC i'w ddosbarthu i aelodau JEC WPC.
Eitem 3: Cyfnewid Pobl Cymru (PEC)
Penderfyniadau
1. Cydnabu'r JEC gau PEC ym mis Medi 2020 a chytunodd â'r cynnig i ddarparu tudalen gyflwyno LLYW.CYMRU fel mesur dros dro, tra hefyd yn cychwyn proses i edrych a oes cefnogaeth a digon o alw am un newydd.
Gweithredu
1. Y JS i drefnu tudalen gyflwyno ar LLYW.CYMRU i hysbysu ymwelwyr â PEC bod y safle wedi cau ac i gyfeirio at adnoddau eraill.
2. Y JS i ddatblygu a chychwyn cynllun cyfathrebu i gefnogi cau PEC.
3. Y JS i gychwyn ymarfer gyda phartneriaid cymdeithasol i edrych a oes galw am ddisodli PEC.
Eitem 4: Diweddariad Rhaglen Waith WPC
Penderfyniadau
1.Cytunodd JEC i'r JS ddatblygu'r eitemau gwaith teg a gynigiwyd ar gyfer gweddill Rhaglen Waith WPC ar gyfer 2019/2020.
2. Cytunodd y JEC i drafod rhaglen waith ar gyfer y WPC yn y dyfodol yng nghyfarfod nesaf JEC ym mis Medi 2020.
Gweithredu
1. Y JS i gyflwyno papur ar Argymhellion Grŵp Cyfeirio Arbenigol Symudedd y Gweithlu i'w cyflwyno i WPC ym mis Tachwedd 2020.
2.Y JS i roi rhaglen waith WPC yn y dyfodol ar gyfer 2020/21 ar yr agenda ar gyfer y JEC nesaf ym mis Medi.