Hannah Hopkins
Teilyngwr
Mae Hannah yn arloesi mewn Dyniaethau Cyfnod Allweddol 3 fel Maes Dysgu a Phrofiad ar gyfer Llywodraeth Cymru, ac mae ei gwaith wedi cael effaith sylweddol ar y cwricwlwm ehangach ac mae’n dylanwadu ar brosesau mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru.
Mae disgyblion yn ei dosbarth yn bywiogi trwyddynt pan fyddant yn son amdani fel eu hathrawes, gan hyd yn oed ei disgrifio fel “ail fam sydd yno bob amser pan fyddwn ei hangen hi”. Nid yw o bwys pa mor brysur yw hi, mae’r disgyblion bob amser yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Mae brwdfrydedd Hannah am ddysgu dyniaethau’n amlwg i bawb ac mae’n fodlon mynd y filltir ychwanegol i arwain ar gyfrifoldeb ysgol gyfan, datblygu athrawon eraill a chynnal canlyniadau uchel mewn arholiadau.