Mark Drakeford AS, Prif Weinidog
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud darpariaeth yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (“y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) i sicrhau bod teithwyr sy'n cyrraedd Cymru o wledydd a thiriogaethau tramor yn gorfod hunanynysu am 10 diwrnod a darparu gwybodaeth amdanynt eu hunain fel teithwyr, er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach. Daeth y cyfyngiadau hyn i rym ar 8 Mehefin 2020.
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn cael eu hadolygu’n gyson, ac ar 18 Ionawr cafodd y coridorau teithio eu hatal. Nid yw’r trefniadau presennol ar gyfer teithio o fewn yr Ardal Deithio Gyffredin (y Deyrnas Unedig, Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel) wedi newid, felly caniateir teithio o fewn yr ardal hon heb orfod ynysu.
Mae'r Rheoliadau sy'n cael eu gwneud heddiw yn cyflwyno system goleuadau traffig tair lefel o sgoriau risg ar gyfer gwledydd a thiriogaethau, ynghyd â gofynion ynysu a phrofi cysylltiedig ar gyfer pobl sydd wedi cyrraedd o'r gwahanol fannau hynny.
Ar ôl i Maldives, Nepal a Thwrci gael eu hychwanegu at y rhestr goch o 04:00 o'r gloch ddydd Mercher 12 Mai, mae'r rhestr goch a’r rhestr oren o wledydd yn parhau’n ddigyfnewid. Felly hefyd y gofynion ar gyfer cwarantin wedi’i reoli (lle bo’i angen) ac ynysu a phrofi cyn ac ar ôl cyrraedd.
Cyflwynir rhestr werdd ar gyfer gwledydd a thiriogaethau y bydd gofyn cael prawf cyn teithio iddynt ac un prawf ar ôl cyrraedd, ar Ddiwrnod 2 neu cyn hynny, ond ni fydd angen ynysu.
Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu Awstralia, Brunei, Ynysoedd Falkland, Ynysoedd Ffaröe, Gibraltar, Gwlad yr Iâ, Israel, Seland Newydd, Portiwgal, Singapore, De Georgia ac Ynysoedd De Sandwich a Saint Helena, Tristan da Cunha ac Ynys Ascension i’r rhestr werdd o wledydd a thiriogaethau.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud newidiadau cysylltiedig i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 i adlewyrchu’r ffaith fod y cyfyngiadau ar deithio rhyngwladol wedi’u llacio, ac i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir gan weithredwyr gwasanaethau perthnasol i deithwyr sy'n cyrraedd Cymru o'r tu allan i'r ardal deithio gyffredin yn ystyried y ffaith fod y trefniadau newydd wedi’u cyflwyno.
Mae diwygiad canlyniadol i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn cael eu gwneud ar wahân a fydd yn dileu'r gwaharddiad ar deithio nad yw'n hanfodol a’r gofyniad i lenwi ffurflen datganiad teithio.
Bydd y newidiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn dod i rym o 06.00 o’r gloch ddydd Llun 17 Mai.