Lynne Neagle AS Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Cynnwys
Cyfrifoldebau Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Cynnwys
Cyfrifoldebau
- Llywodraethiant ysgolion, trefniadaeth ysgolion a derbyniadau i ysgolion
- Safonau ysgolion, gwelliant a chyrhaeddiad disgyblion
- Polisi cyllido ysgolion gan gynnwys Grant Addysg Awdurdodau Lleol
- Trefniadau ar gyfer y cwricwlwm ac asesu
- Dysgu digidol gan gynnwys Hwb a diogelwch ar-lein
- Addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog
- Addysg plentyndod cynnar
- Anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys anghenion disgyblion sydd ag anawsterau dysgu difrifol, cymhleth a/neu benodol, disgyblion anabl
- Rhaglen Seren ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog
- Cymorth i bobl â Dyslecsia
- Tegwch mewn Addysg gan gynnwys y dull 'ysgol gyfan' o ymdrin ag iechyd meddwl, presenoldeb a diogelu, ymddygiad a chynhwysiant ac ysgolion bro
- Bwyd a diod mewn ysgolion gan gynnwys Prydau Ysgol, Brecwast a Llaeth am Ddim a Bwyta'n Iach
- Cwynion ynghylch Awdurdodau Addysg Lleol a chyrff llywodraethu ysgolion
- Cyflawni a rheoli'r rhaglen gyfalaf Cymunedau Dysgu Cynaliadwy
- Cymwysterau Cymru
- Cyllid Estyn a'i gylch gwaith
- Adnodd
- Addysgeg, Arweinyddiaeth a Dysgu Proffesiynol gan gynnwys hyfforddiant cychwynnol athrawon
- Ymgysylltu â'r Gweithlu Addysg gan gynnwys Cyflog ac Amodau (Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru), Llwyth Gwaith a Llesiant
- Gwaith Ieuenctid
- Llwybrau Dysgwyr 14 – 19
Bywgraffiad
Ganed Lynne Neagle ym Merthyr Tudful ac fe'i haddysgwyd yn Ysgol Uwchradd Cyfarthfa a Phrifysgol Reading.
Cyn iddi gael ei hethol i'r Senedd ym 1999, gweithiodd Lynne mewn nifer o swyddi o fewn y sector gwirfoddol yng Nghymru, i sefydliadau fel Shelter Cymru, Mind a CAB. Roedd hi'n Swyddog Datblygu Gofalwyr gyda Gweithredu Gwirfoddol Caerdydd a gweithiodd hefyd fel ymchwilydd i Glenys Kinnock ASE.
Lynne oedd Cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn y Bumed Senedd.
Fe'i penodwyd yn Ddirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar 13 Mai 2021. Ar 21 Mawrth 2024, penodwyd Lynne yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac ar 11 Medi 2024 fe’i hailbenodwyd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.