Dawn Bowden AS Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Cynnwys
Cyfrifoldebau'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Cynnwys
Cyfrifoldebau
- Diogelu
- Eiriolaeth i blant a phobl ifanc gan gynnwys cwynion, sylwadau ac eiriolaeth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- Rhannu gwybodaeth o dan Ddeddf Plant 2004
- Gwasanaethau mabwysiadu a maethu
- Cafcass Cymru
- Gofalwyr
- Polisi a goruchwylio darpariaeth holl weithgareddau gwasanaethau cymdeithasol Awdurdodau Lleol yng Nghymru, gan gynnwys dyroddi canllawiau statudol
- Goruchwylio Gofal Cymdeithasol Cymru
- Pobl Hŷn
- Rheoleiddio gofal preswyl, gofal cartref, lleoliadau i oedolion, gofal maeth, darpariaeth gofal i blant o dan 8 oed a gofal iechyd preifat
- Arolygu gwasanaethau cymdeithasol a ddarperir gan Awdurdodau Lleol, ac adrodd arnynt (drwy Arolygiaeth Gofal Cymru), gan gynnwys adolygiadau ar y cyd o wasanaethau cymdeithasol ac ymateb i adroddiadau
- Hawliau a hawlogaethau plant a phobl ifanc, gan gynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn
- Y blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae, gan gynnwys y cynnig Gofal Plant a'r gweithlu
- Dechrau'n Deg ar gyfer plant 0-3 oed
- Polisïau Teuluoedd yn Gyntaf a chwarae
- Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod
Bywgraffiad
Ganwyd Dawn Bowden ym Mryste ac fe gafodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Gatholig St Bernadette a Choleg Technegol Soundwell. Bu'n gweithio i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol rhwng 1979 a 1982, ac i Gyngor Dinas Bryste rhwng 1982 a 1983. Ym 1989, symudodd i dde Cymru i fod y Swyddog Dosbarth ieuengaf a’r Swyddog Dosbarth benywaidd cyntaf yn yr ardal. Cododd trwy rengoedd ei hundeb i ddod yn Bennaeth Iechyd UNSAIN Cymru, swydd a gynhaliodd hyd at ei hethol yn Aelod Cynulliad Merthyr Tudful a Rhymni ym mis Mai 2016. Un o'r llwyddiannau y mae hi fwyaf balch ohono yw arwain ar y trafodaethau a sicrhaodd y Cyflog Byw i staff GIG Cymru yn 2014.
Etholwyd Dawn yn Aelod o'r Senedd dros Ferthyr Tudful a Rhymni ym mis Mai 2016. Yn nhymor diwethaf y Senedd, bu Dawn yn aelod o’r pwyllgorau Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon; Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu; Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol; Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig; Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; a Chydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Bu hefyd yn Gadeirydd y Pwyllgor ar Ddiwygio'r Senedd ac yn cynrychioli Senedd Cymru yng Nghyngres Rhanbarthau Ewrop ac roedd yn Aelod o Dasglu'r Cymoedd.
Ar 13 Mai 2021 penodwyd Dawn yn Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a'r Prif Chwip.
Ar 21 Mawrth 2024, penodwyd Dawn yn Weinidog Gofal Cymdeithasol.
Ar 11 Medi 2024, penodwyd Dawn yn Weinidog Plant a Gofal Cymdeithasol.