Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog
Bydd tymor y Senedd hwn yn dod â heriau a chyfleoedd newydd i’n rhan.
Dros y 15 mis diwethaf, rydym wedi neilltuo ein holl egni a’n sylw i ymateb i’r pandemig – argyfwng iechyd y cyhoedd ac economaidd sydd wedi taflu cysgod mor fawr ar ein bywydau ni i gyd.
Diolch i waith caled ac ymdrechion pawb ym mhob cwr o Gymru, a’r ymdrech aruthrol i frechu pobl rhag y feirws dychrynllyd hwn, mae ein dyfodol yn edrych yn llawer mwy disglair heddiw.
Adfer sy’n cael blaenoriaeth gennym yn awr – yr adferiad yn dilyn y pandemig ac ailadeiladu Cymru yn wlad gryfach, gwyrddach a thecach i bawb.
Mae fy Llywodraeth Cymru newydd yn dod â phrofiad a thalent newydd ynghyd ar gyfer siapio ein dyfodol a chreu’r swyddi a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnom wrth inni symud i’r bennod nesaf yn ein hanes.
Bydd yr amgylchedd wrth wraidd ein holl benderfyniadau. Nid yw’r argyfwng newid hinsawdd wedi diflannu tra’r ydym wedi bod yn delio â’r pandemig. Mae Cymru’n wlad odidog sydd ag asedau naturiol helaeth a fydd yn helpu i sbarduno ein hadferiad a chreu swyddi’r dyfodol.
Yn fy llywodraeth newydd, bydd gan faes yr amgylchedd nid yn unig sedd wrth fwrdd y Cabinet, bydd yn cael ei ystyried ym mhopeth a wnawn.
Mae’r Cabinet newydd yn barod i ddechrau arni i arwain Cymru ar y daith tuag at adferiad wedi’r pandemig hir hwn, sydd wedi bwrw cysgod mor fawr ar ein bywydau ni i gyd. Mae’r tîm hwn yn un dawnus ac ymroddedig sy’n benderfynol o wneud gwahaniaeth cadarnhaol er lles Cymru.
Bydd ein holl ymdrechion ac egni yn mynd i greu Cymru gryfach, tecach a gwyrddach, lle nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl na’i adael ar ôl.
Y Llywodraeth Cymru newydd
Mark Drakeford Y Prif Weinidog
Mick Antoniw Darpar Gwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Rebecca Evans Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Vaughan Gething Gweinidog yr Economi
Dawn Bowden Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip
Lesley Griffiths Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Jane Hutt Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Hannah Blythyn Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol
Julie James Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Lee Waters Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Jeremy Miles Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Eluned Morgan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Julie Morgan Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Lynne Neagle Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant