Daeth yr ymgynghoriad i ben 16 Gorffennaf 2021.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o’r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am glywed eich barn ar y canllawiau i gefnogi ysgolion i gynllunio profiadau sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd a gwaith yn eu cwricwlwm ar gyfer pob dysgwr 3 i 16 oed.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar ganllawiau Cwricwlwm i Gymru ynghylch profiadau sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd a gwaith (CWRE), sy’n cwmpasu:
- rhoi cyd-destun i CWRE o fewn y cwricwlwm
- amlinellu’r ystod o gyfranwyr a all gefnogi CWRE
- cyfeirio at feysydd cymorth a chyngor ar gyfer sefydlu darpariaeth effeithiol o ran CWRE
- cefnogi dysgwyr i symud tuag at addysg bellach, hyfforddiant neu fyd gwaith
Cynhelir cyfres o weithdai ymgynghori ar-lein ar ganllawiau Profiadau sy’n Gysylltiedig â Gyrfaoedd a Gwaith yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf 2021. Mae angen eich barn arnom i lunio'r canllawiau i gefnogi ysgolion a lleoliadau ar gyfer y cwricwlwm newydd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu'r gweithdai, cysylltwch â Nick Morgan ar: nick.morgan@miller-research.co.uk