Phytophthora ramorum yw'r clefyd coed mwyaf difrifol sydd wedi effeithio ar ein coedwigoedd.
Cynnwys
Mae Phytophthora ramorum, neu P. ramorum, wedi cyflwyno heriau digynsail i'r canlynol:
- sector coedwigaeth
- sector defnydd tir gan gynnwys amaethyddiaeth
Mae'r effaith ar goed llarwydd wedi bod yn arbennig o arwyddocaol. Ond, mae hefyd yn effeithio ar rywogaethau lletyol eraill fel Rhododendron a Vaccinium.
Gallwch gael y diweddaraf ar:
- hysbysrwydd
- arweiniad, a
- cynllun gweithredu ar gyfer rhanddeiliaid
yn ein Phytophthora ramorum: strategaeth i reoli'r clefyd. Nod y strategaeth yw rheoli lledaeniad y clefyd. Bydd hyn yn lleihau'r effaith gymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd ar ein tirweddau.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hanes y clefyd a pha arwyddion i gadw llygad amdanynt:
Bioddiogelwch
Bydd cynnal arferion bioddiogelwch da yn lleihau'r risg o ledaenu'r clefyd.
Mae canllawiau i'r cyhoedd ar fioddiogelwch mewn coetiroedd ar gael ar Cyfoeth Naturiol Cymru.