Diweddariad am yr uned ystadegau cydraddoldebau / uned 'gwahaniaethau ar sail hil'
Cafodd y gwaith maes ar gyfer y gwaith cwmpasu eu cwblhau ar ddiwedd mis Mawrth 2021, a oedd yn cynnwys cyfres o gyfweliadau, grwpiau ffocws a gweithdai gyda grwpiau rhanddeiliaid amrywiol: mewnol ac allanol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Mae'r gwaith cwmpasu ar gyfer yr Uned yn adeiladu darlun i ddeall strwythurau a'r rhwystrau presennol a wynebir o fewn Unedau a chanolfannau cydraddoldeb Adrannau Llywodraeth y DU, anghenion rhanddeiliaid ehangach drwy Fforymau Llywodraeth Cymru a'r heriau ymarferol o fewn Llywodraeth Cymru i swyddogion polisi a dadansoddwyr.
Mae'r ymchwil wedi bod yn dwyn ynghyd themâu allweddol i dynnu sylw at yr ystyriaethau allweddol ar gyfer yr Uned(au). Mae'r dadansoddiad thematig bron wedi'i gwblhau, mae'r camau nesaf yn nodi anghenion adnoddau cychwynnol a sut y bydd yr Uned yn ategu'r gwaith arfaethedig presennol.
Unwaith y bydd y llywodraeth newydd wedi’i ffurfio, bydd papur yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet fel blaenoriaeth sy'n amlinellu'r strwythur a'r argymhellion cychwynnol i lywio'r broses o weithredu'r Uned(au).
Ellie Brodie, Llywodraeth Cymru