Mae’r canllawiau hyn yn adlewyrchu’r darpariaethau yn Rhan 3 o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.
Cynnwys
DTTT/3010 Cyfraddau treth
(adran 24)
Mae modd gweld cyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer trafodiadau tir sy’n dod i rym (neu y tybir eu bod yn dod i rym) ar 1 Ebrill 2018 ar gyfer:
- trafodiadau eiddo preswyl
- trafodiadau eiddo preswyl cyfraddau uwch
- trafodiadau amhreswyl
- rhenti
i'w gweld ar ein tudalen cyfraddau a bandiau.
DTTT/3020 Y dreth sydd i’w chodi
(adran 27)
Ar gyfer trafodiadau nad ydynt yn gysylltiedig â thrafodiadau tir eraill sy’n ddarostyngedig i’r Dreth Trafodiadau Tir, sefydlir y rhwymedigaeth fel hyn:
- Cam 1 – ar gyfer pob band treth sy’n berthnasol, lluosi swm y gydnabyddiaeth drethadwy sy’n dod o fewn y band hwnnw â chanran y gyfradd sy’n berthnasol ar gyfer y band hwnnw
- Cam 2 – cyfrifo swm y gwahanol symiau sy’n deillio o gam 1. Y cyfanswm yw swm y dreth sydd i’w chodi ar gyfer y trafodiad tir.
Mae gan ACC gyfrifiannell yn y mae modd i drethdalwyr ei defnyddio i gyfrifo’u rhwymedigaeth. Sylwch y bydd y gyfrifiannell yn pennu’r rhwymedigaeth ar sail yr wybodaeth a roddir. Pan fydd angen defnyddio gwahanol ddulliau cyfrifo ar gyfer gwahanol reolau, nid oes modd defnyddio’r gyfrifiannell.
DTTT/3030 Y dreth sydd i'w chodi – trafodiadau cysylltiol
(adran 28)
Pan fydd trafodiad yn un o nifer o drafodiadau cysylltiol, dyma’r dull a ddefnyddir i gyfrifo swm y dreth:
- Cam 1 – cyfrifo’r dreth sydd i’w chodi ar gyfanswm y gydnabyddiaeth a roddir ar gyfer yr holl drafodiadau cysylltiol. Mae hyn yn golygu ymdrin â’r trafodiadau cysylltiol fel petaent yn un trafodiad
- Cam 2 – pennu’r ffracsiwn sy’n berthnasol i’r trafodiad presennol. Gwneir hyn drwy rannu’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad hwnnw â chyfanswm y gydnabyddiaeth ar gyfer yr holl drafodiadau cysylltiol
- Cam 3 – lluosi’r dreth sydd i’w chodi (a bennwyd yn ystod cam 1) â’r ffracsiwn sy’n cael ei bennu yn ystod cam 2
‘Cyfanswm y gydnabyddiaeth’ yw cyfanswm yr holl gydnabyddiaeth a delir am yr holl drafodiadau cysylltiol.
Mae’n bosibl y bydd angen ffurflen dreth neu ffurflen dreth ychwanegol mewn perthynas â’r trafodiadau cysylltiol cynharach gan fod y gwaith cyfrifo’n berthnasol i bob trafodiad cysylltiol (gan gynnwys y rheini sydd wedi cael eu trethu’n barod), bob tro y mae trafodiad cysylltiol arall.
Mae Enghraifft 2 (isod) yn esbonio sut i gyfrifo trafodiadau cysylltiol lle bu newid mewn cyfraddau a bandiau rhwng y trafodiadau. Mae'r enghraifft yn defnyddio'r cyfraddau amhreswyl, ond dylid dilyn yr un fethodoleg ar gyfer pob set arall o gyfraddau a bandiau.
DTTT/3040 Newidiadau i fandiau treth a chyfraddau treth
(adran 24)
Daw cyfraddau a bandiau treth i rym o 1 Ebrill 2018 ymlaen ar gyfer yr holl drafodiadau y mae’r Dreth Trafodiadau Tir yn berthnasol iddynt. Gall Gweinidogion Cymru gyflwyno newidiadau ar ôl hynny, drwy lunio rheoliadau sy’n cynnwys y newidiadau. Bydd y rheoliadau’n effeithiol unwaith y byddant yn cael eu rhoi gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd y cyfraddau a’r bandiau’n dod yn effeithiol ar unwaith, ond cyfraddau a bandiau dros dro fydd y rhain nes bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi’u cymeradwyo (a rhaid i hynny ddigwydd cyn pen 28 diwrnod (Cynulliad) i roi'r rheoliadau gerbron).
DTTT/3041 Darpariaethau trosiannol ar gyfer newid Hydref 2022 i’r prif gyfraddau preswyl
Diwygiodd Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygiad) 2022 y cyfraddau ar gyfer pryniannau sy’n ddarostyngedig i’r prif gyfraddau preswyl yng Nghymru. Daethant i rym ar 10 Hydref 2022.
1. Cymhwyso cyfraddau newydd
Rheoliad 3
Bydd trafodiadau prif gyfraddau preswyl sydd â dyddiad dod i rym ar neu ar ôl 10 Hydref 2022 yn ddarostyngedig i'r prif gyfraddau preswyl yn nhabl 1 o Reoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygiad) 2022 ('Rheoliadau 2022').
Gweler y dudalen cyfraddau a bandiau ar gyfer cyfraddau cyfredol a blaenorol TTT.
2. Darpariaethau trosiannol
Rheoliad 4
Ni fydd Rheoliadau 2022 mewn grym (a bydd y cyfraddau cyn 10 Hydref 2022 yn berthnasol) ar gyfer unrhyw drafodiad pan fo:
- contractau wedi'u cyfnewid ac mae’r trafodiad wedi’i gwblhau cyn 10 Hydref 2022.
- contractau wedi’u cyfnewid cyn 10 Hydref 2022 ond nad yw’r trafodiad wedi’i gwblhau tan neu ar ôl 10 Hydref 2022 a bod dewis yn cael ei wneud i drethu’r trafodiad ar y cyfraddau sy’n dod i rym cyn 10 Hydref 2022 (fel yr eglurir isod)
2.1 Dewis cymhwyso darpariaethau trosiannol
Rheoliad 6
Pan fo’r prif gyfraddau preswyl cyn 10 Hydref 2022 yn gymwys o dan Reoliad 4, mae’n bosibl o dan Reoliad 6 dewis bod y cyfraddau hyn yn gymwys. Pan na wneir dewisiad, bydd y prif gyfraddau preswyl sy’n dod i rym o 10 Hydref 2022 yn berthnasol.
Gellir gwneud y dewisiad o dan 2 amgylchiad.
- Pan fo contractau wedi’u cyfnewid cyn 10 Hydref 2022 a bod y contract wedi’i gyflawni’n sylweddol cyn y dyddiad hwnnw (cyfeiriwch at TTTD/2150 am ragor o wybodaeth am gyflawni’n sylweddol).
- Pan fo contractau wedi’u cyfnewid cyn 10 Hydref 2022, a bod y contract wedi’i gwblhau ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw. Caniateir i’r dewisiad hwn gael ei wneud ar yr amod nad oes unrhyw ddigwyddiad ar neu ar ôl 10 Hydref 2022, o’r math a restrir yn Rheoliad 5, sy’n golygu bod effaith y contract ar gwblhau yn wahanol i effaith y contract pan ymrwymwyd iddo gyntaf.
Rhaid gwneud y dewis hwn o dan Reoliad 6:
- mewn ffurflen Treth Trafodiadau Tir (TTT), neu
- mewn diwygiad i ffurflen dreth o'r fath
Dim ond lle na fydd yn arwain at godi mwy o dreth o ganlyniad i ddefnyddio’r cyfraddau cyn 10 Hydref 2022 y gellir gwneud dewisiad.
Mae canllawiau pellach ar gwblhau'r ffurflen dreth TTT a chyfrifiad LTT ar gael yn y canllawiau ar gyfer llenwi ffurflen Treth Trafodiadau Tir.
2.2 Eithriadau i'r darpariaethau trosiannol
Rheoliad 5
Bydd trafodiadau lle cafodd contractau eu cyfnewid cyn 10 Hydref 2022 ond a gwblhawyd ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, yn ddarostyngedig i'r prif gyfraddau preswyl sydd mewn grym o 10 Hydref 2020 os bydd unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:
- bod unrhyw amrywiad i'r contract, neu aseiniad hawliau o dan y contract, ar neu ar ôl 10 Hydref 2022
- bod y trafodiad yn cael ei effeithio o ganlyniad i'r ymarfer ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw o unrhyw opsiwn, hawl rhagbrynu neu hawl debyg
- ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw y ceir aseiniad, iswerthiant neu drafodiad arall sy'n ymwneud â chyfanrwydd neu ran o bwnc y contract o ganlyniad i'r ffaith bod person heblaw'r prynwr o dan y contract yn datblygu’r hawl i alw am drosglwyddiad
Ar gyfer trafodiadau cysylltiol
Pan fo trafodiad yn ddarostyngedig i'r prif gyfraddau preswyl yn gysylltiedig â thrafodiad arall yn ddarostyngedig i gyfraddau blaenorol y prif gyfraddau preswyl, dilynwch esiampl 2 yn DTTT/3030 er mwyn cyfrifo swm y dreth sy'n daladwy.
DTTT/3050 Newidiadau i fandiau treth a chyfraddau treth – rheoliadau’n peidio â chael effaith
(adran 26)
Os bydd y rheoliadau’n peidio â chael effaith oherwydd nad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi pleidleisio ar y rheoliadau, neu wedi pleidleisio i’w gwrthod, ymdrinnir â’r rheoliadau fel ‘rheoliadau a wrthodir’. Bydd y rheoliadau a wrthodir wedi bod mewn grym am gyfnod a elwir yn ‘gyfnod interim’. Y cyfnod interim yw’r cyfnod o’r dyddiad y daeth y rheoliadau a wrthodir i rym ac sy’n dod i ben ar y dyddiad y mae’r rheoliadau’n peidio â chael effaith.
Os bydd y dyddiad y mae trafodiad yn cael effaith o fewn y cyfnod interim, y cyfraddau a oedd yn dod o dan y rheoliadau a wrthodir sy’n gymwys i'r trafodiad. Mae 3 eithriad i’r rheol honno. Os bydd un o’r eithriadau’n gymwys, y cyfraddau a’r bandiau sy’n gymwys yw’r rhai a fyddai wedi bod mewn grym pe na bai’r rheoliadau a wrthodir wedi’u gwneud.
Eithriad 1
Os oes rhaid i’r prynwr ddychwelyd ffurflen dreth sy’n cynnwys dyddiad ffeilio sydd yn y cyfnod interim, ac nad yw’n dychwelyd y ffurflen honno cyn diwedd y cyfnod interim.
Eithriad 2
Os oes rhaid i’r prynwr ddychwelyd ffurflen dreth am y tro cyntaf am drafodiad trethadwy yn un o’r amgylchiadau hyn:
- dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth pan fydd cydnabyddiaeth yn dod i ben neu pan fydd cydnabyddiaeth yn cael ei chanfod
- ffurflen dreth o ganlyniad i drafodiad cysylltiol diweddarach
- ffurflen dreth o ganlyniad i les yn parhau ar ôl cyfnod penodol neu am gyfnod amhenodol
- ffurflen dreth yn ofynnol o ganlyniad i ddyddiad ailystyried les
Eithriad 3
Os bydd y prynwr yn hawlio ad-daliad o dan S63A TCMA, ymdrinnir â’r hawliad hwnnw fel diwygiad i’r ffurflen dreth, ac mae ffurflen dreth ychwanegol yn ofynnol oherwydd:
- un o’r rhesymau yn eithriad 2
- mae ffurflen dreth ychwanegol yn ofynnol yn sgil tynnu rhyddhad yn ôl
- ffurflen dreth ar gyfer trafodiad cyfradd uwch.
DTTT/3060 Cyfrifo’r dreth – darpariaethau rhyddhad sy’n effeithio ar y dull cyfrifo
(adran 29)
Mae’r rhyddhadau canlynol yn effeithio ar y dull o gyfrifo’r dreth sy’n ddyledus:
- rhyddhad ar gyfer caffaeliadau sy’n ymwneud ag anheddau lluosog
- rhyddhad ar gyfer trafodiadau yr ymrwymir iddynt gan bersonau sy’n arfer hawliau ar y cyd
- rhyddhad caffael
DTTT/3070 Rhyddhadau
(adran 30)
Mae’r rhyddhadau sydd ar gael naill ai’n rhyddhadau llawn sy’n arwain at ryddhau’r holl dreth sy’n daladwy ar y trafodiad, neu’n rhyddhad rhannol pan na fydd rhywfaint o’r gydnabyddiaeth a roddir yn cael ei rhyddhau, gan gynnwys rhai pan fydd y dull cyfrifo’n amrywio. Mewn rhai achosion, fel rhyddhad i elusennau, gall fod naill ai’n rhyddhad llwyr neu’n rhyddhad rhannol. Wrth hawlio rhyddhad, mae’n bwysig bod y trethdalwr yn dewis y rhyddhad cywir, ac os yw’n bosibl i’r rhyddhad hwnnw fod yn llwyr neu’n rhannol, ei fod yn dewis yr opsiwn cywir.
Rhaid hawlio pob rhyddhad, ac eithrio rhyddhad lluoedd arfog sy’n ymweld a rhyddhad pencadlysoedd milwrol rhyngwladol, ar y ffurflen dreth gyntaf a ddychwelir mewn perthynas â’r trafodiad hwnnw neu mewn diwygiad i'r ffurflen honno. Os na fydd y trethdalwr yn cadw at y cyfnod a ganiateir ar gyfer diwygio’r ffurflen dreth gyntaf, bydd hynny’n golygu na fydd yn gallu gwneud cais i gael cymhwyso’r rhyddhad.
O ran rhyddhad lluoedd arfog sy’n ymweld a rhyddhad pencadlysoedd milwrol rhyngwladol, mae’n bosibl cyflwyno’r hawliad yn y ffurflen dreth ar gyfer y trafodiad tir hwnnw, neu mewn diwygiad i'r ffurflen honno, neu drwy hawlio ad-daliad am unrhyw dreth a ordalwyd. Nid yw’r cyfyngiad amser ar gyfer cyflwyno hawliad o’r fath yn berthnasol i hawlio ad-daliad.
Mae’r rhyddhadau wedi’u cynnwys yn atodlenni 9 i 22 DTTT ac maent yn darparu ar gyfer:
- Rhyddhad gwerthu ac adlesu
- Rhyddhad cyllid eiddo arall
- Rhyddhad ar gyfer bondiau cyllid arall
- Rhyddhad ar gyfer ymgorffori partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig
- Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau sy’n ymwneud ag anheddau lluosog
- Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau penodol o anheddau
- Rhyddhad ar gyfer trafodiadau penodol sy’n ymwneud â thai cymdeithasol
- Rhyddhad grŵp
- Rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael
- Rhyddhad elusennau
- Rhyddhad i gwmnïau buddsoddi penagored
- Rhyddhad ar gyfer caffaeliadau gan gyrff cyhoeddus a chyrff iechyd
- Rhyddhad prynu gorfodol a rhyddhad rhwymedigaethau cynllunio
- Rhyddhadau amrywiol
DTTT/3080 Rhyddhad: gwrthweithio osgoi trethi – y rheol wedi’i thargedu yn erbyn osgoi trethi
(adran 31)
Mae unrhyw hawliad am ryddhad yn ddarostyngedig i reol wedi’i thargedu yn erbyn osgoi trethi (‘TAAR’). Mae’r TAAR yn gweithredu fel na all y trethdalwr hawlio rhyddhad pan fydd y trafodiad yn ‘drefniant osgoi talu trethi’ neu’n rhan o drefniant o’r fath. Mae trefniant yn drefniant osgoi talu trethi pan mai cael ‘mantais drethiannol’ ar gyfer unrhyw berson yw’r prif ddiben, neu un o’r prif ddibenion, pam y mae rhywun yn ymrwymo i’r trefniant, ac nad oes sylwedd economaidd na masnachol dilys i’r trefniant (ac eithrio cael
mantais drethiannol).
Mae ‘trefniadau’ yn cynnwys unrhyw drafodiad, unrhyw gynllun, unrhyw gytundeb, unrhyw ddealltwriaeth, unrhyw addewid, neu unrhyw gyfres o drefniadau o’r fath.
Diffinnir ‘mantais drethiannol’ yn fras fel hyn:
- hawlio rhyddhad treth neu gynnydd mewn rhyddhad rhag treth
- ad-dalu treth neu gynnydd mewn ad-daliad treth
- osgoi neu leihau swm y codir treth arno, a
- gohirio talu treth neu ddwyn ymlaen ad-daliad treth
Bwriedir i’r TAAR fod yn gymwys i achosion pan fydd rhyddhad yn cael ei hawlio mewn amgylchiadau lle nad yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu rhoi’r rhyddhad hwnnw. Felly, mewn sefyllfaoedd lle mae trafodiad yn cael ei drefnu mewn modd sy’n cydymffurfio â’r arfer cyffredinol, a phan fydd y trethdalwr yn hawlio rhyddhad fel y bwriedir, yna ni fydd yr hawliad hwnnw’n dod o fewn cwmpas y rheol hon yn erbyn osgoi trethi. Fodd bynnag, pan fydd trefniadau ychwanegol yn cael eu gwneud neu gamau ychwanegol yn cael eu cymryd er mwyn creu sefyllfa lle bodlonir yr amodau i hawlio rhyddhad yn unig, bydd yr hawliad yn dod o dan y darpariaethau hyn ac ni ddylai gael ei gyflwyno.
Yn y pen draw, bydd a oes gan drefniant brif ddiben economaidd neu fasnachol dilys yn dibynnu ar ffeithiau’r trafodiad. Er enghraifft, ni ddylai’r TAAR wahardd elusen rhag hawlio rhyddhad pan fydd yn caffael eiddo at ddibenion elusennol (er enghraifft, i ddarparu cartref i bobl sy’n bodloni dibenion elusennol yr elusen) oherwydd, er efallai nad oes rheswm masnachol dros gaffael yr eiddo, mae diben economaidd gan fod yr elusen wedi cyfnewid arian parod am ased ffisegol - yr eiddo - y bydd yn ei ddefnyddio i ddatblygu ei ddibenion elusennol.
Mae ‘treth’ at ddibenion yr adran hon yn fwy eang na Threth Trafodiadau Tir yn unig, ac mae’n cynnwys rhai trethi a osodir ar lefel y DU hefyd (yn benodol - treth incwm, treth gorfforaeth, treth enillion cyfalaf, treth dir y dreth stamp, treth gadw y dreth stamp neu’r dreth stamp). Bydd hyn yn sicrhau pan ymrwymir i drafodiad tir yng Nghymru (y byddai rhyddhad ar ei gyfer yn dderbyniol fel arall) nad oes modd hawlio rhyddhad rhag y Dreth Trafodiadau Tir os yw’r trafodiad tir yn rhan o drefniadau i osgoi’r dreth arall honno, neu drethi eraill. Ni fydd gwahardd hawlio rhyddhad o dan y Dreth Trafodiadau Tir yn yr amgylchiadau hyn, yn lleihau effaith unrhyw gamau y gall CThEM eu cymryd i adennill y dreth sydd heb ei datganoli sydd wedi’i hosgoi.
DTTT/3090 TAAR a rheolau eraill yn erbyn osgoi trethi
Yn ogystal â’r TAAR, mae’r ddeddfwriaeth ar drethi datganoledig yn cynnwys darpariaethau eraill yn erbyn osgoi trethi. Y mwyaf arwyddocaol yw’r Rheol Gyffredinol yn Erbyn Osgoi Trethi (‘GAAR’).
Cynlluniwyd y GAAR i weithio yn erbyn manteision treth sy'n codi o ganlyniad i'r trefniadau osgoi treth artiffisial a ddefnyddiwyd gan y trethdalwr.
Mae'r GAAR yn annibynnol ar y rheolau eraill yn erbyn osgoi trethi, a gellid ei ddefnyddio i herio trefniant artiffisial, a ddefnyddiwyd mewn gwirionedd i fanteisio ar ddiffyg, neu ddiffyg canfyddedig, yn y rheolau eraill yn erbyn osgoi trethi.
Er y gall dadleuon lluosog fod yn seiliedig ar feysydd eraill y ddeddfwriaeth dreth ddatganoledig, gall yr Awdurdod Cyllid ddewis defnyddio her GAAR yn unig. Ni chaiff trethdalwr wrthwynebu defnyddio’r GAAR oherwydd nad yw dulliau eraill sydd ar gael i'r Awdurdod Cyllid i herio'r trefniant artiffisial wedi cael eu defnyddio.
Mae arweiniad llawn am y GAAR ar gael yn TCMA/8000.