Cyngor a gyflwynwyd i’r Prif Weinidog ar y newidiadau i’r Rheoliadau Diogelu Iechyd.
Rwyf wedi adolygu'r newidiadau arfaethedig i'r cyfyngiadau COVID-19 yng Nghymru. Y cyfyngiadau y cyfeirir atynt yw’r rheini sy'n cynnig manteision iechyd a llesiant a lle mae’r risg yn gymharol isel – a gynhelir naill ai yn yr awyr agored neu amgylcheddau a reoleiddir. Mae llacio’r cyfyngiadau fel hyn yn gyson â'n dull o ddatgloi'n ofalus er mwyn caniatáu inni fonitro ac asesu wrth lacio. Wrth ddilyn y dull hwn, ystyrir y data modelu yn ofalus. Mae’r data hynny yn rhagfynegi y gallai ailagor yn rhy gyflym arwain at fwy o drosglwyddiadau yn y gymuned a chynnydd yn nifer y bobl a gaiff eu derbyn i’r ysbyty ac mewn marwolaethau. Mae’r profiad rydym wedi’i gael yn sgil dod allan o'r cyfyngiadau ar symud cyntaf i gael eu gorfodi ar draws y DU gyfan a’r cyfnod atal byr a gafwyd yng Nghymru wedi dangos pa mor gyflym y gall y sefyllfa ddirywio.
Mae ein rhaglen frechu yn mynd rhagddi’n gyflym ond nid yw'n glir hyd yma faint o wahaniaeth y mae wedi’i wneud yn union o ran torri’r cysylltiad rhwng trosglwyddiadau yn y gymuned a niwed uniongyrchol yn sgil COVID-19. Rhaid inni ddysgu o brofiad gwledydd eraill ar draws y byd. Mae lefelau brechu yn uchel yn Israel ac mae’r cyfraddau achosion yn is yno ond mae'n rhy gynnar i ddweud o hyd yn gwbl hyderus eu bod wedi cyflawni imiwnedd torfol. Yn Chile, mae'n ymddangos bod achosion wedi dechrau codi unwaith eto yn sgil llacio ymyriadau anfferyllol a defnyddio brechlyn sydd yn llai effeithiol o bosibl.
Bydd cyfraddau trosglwyddo yn cael eu heffeithio bob tro y caiff y cyfyngiadau eu llacio. O ganlyniad, gallai’r haint ledaenu i grwpiau oedran iau gan effeithio felly ar y rheini nad ydynt wedi cael eu brechu neu nad yw brechu'n ysgogi ymateb amddiffynnol da ynddynt. Mae caniatáu i bobl ailddechrau teithio yn rhyngwladol yn rhy gyflym, pan nad yw’r daith yn hanfodol, yn risg hefyd oherwydd gallai’r haint ailgydio a gellid cyflwyno amrywiolynnau newydd sy’n gwrthsefyll brechlynnau.
Ar hyn o bryd, yng Nghymru y mae’r lefelau trosglwyddo isaf yn y DU. Mae hyn yn wir diolch i’r penderfyniadau sydd wedi'u gwneud hyd yma a'r mesurau rheoli sydd gennym ar waith.
Dr Frank Atherton
22 Ebrill 2021