Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020: asesiad effaith integredig
Crynodeb o sut y bydd y rheoliadau'n effeithio ar deithio rhyngwladol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Manylion
Teitl
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020
Crynodeb o amcanion y polisi a’r canlyniadau y dymunir iddo eu cyflawni
Cyflwyno nifer o fesurau iechyd cyhoeddus brys ar y ffin i'w cymryd mewn perthynas â phobl sy'n cyrraedd Cymru ar ôl bod y tu allan i'r Ardal Deithio Gyffredin yn y 10 diwrnod cyn iddynt gyrraedd. Nod y rhain yw lleihau'r risgiau i iechyd y cyhoedd a achosir gan ledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) ("coronafeirws") yng Nghymru sy'n achosi'r clefyd COVID-19.
Cyfarwyddiaeth
Grŵp yr Ysgrifennydd Parhaol
Cyflwyniad
Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r Gweinyddiaethau Datganoledig eraill, wedi cyflwyno mesurau iechyd cyhoeddus brys ar ffiniau’r DU, er mwyn lleihau'r risgiau i iechyd y cyhoedd a achosir gan y coronafeirws, drwy gyfyngu ar ledaeniad pellach y clefyd.
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 fel y’u diwygiwyd (“y Rheoliadau”) felly’n cynnwys y darpariaethau canlynol:
- Gofyniad ynghylch Profion cyn Ymadael: rhaid i bob teithiwr i Gymru gael prawf COVID negatif o fewn 72 awr cyn ymadael ar gyfer pob teithiwr 11 oed a hŷn. Os bydd canlyniad eich prawf yn bositif, rhaid ichi beidio â theithio.
- O 15 Chwefror ymlaen, ni chaniateir i neb sydd wedi bod mewn gwlad rhestr goch yn y 10 diwrnod blaenorol ddod i Gymru. Rhaid i deithwyr sy'n dychwelyd i'r DU o wlad rhestr goch gyrraedd drwy un o'r pyrth mynediad dynodedig i'r DU yn Lloegr neu'r Alban. Yna, rhaid iddynt ynysu am 10 diwrnod mewn cyfleuster cwarantîn a reolir. Rhaid i deithwyr fod wedi rhagarchebu pecyn cwarantin a reolir a phecyn prawf cyn ymadael. Mae hyn yn ychwanegol at y gofyniad i gael prawf cyn ymadael.
- Rhaid i bob teithiwr i Gymru o wlad rhestr oren (unrhyw wlad y tu allan i'r Ardal Deithio Gyffredin nad yw ar y rhestr GOCH) fod wedi rhagarchebu profion cyn ymadael ar gyfer eu hunain a phawb yn eu grŵp gan gynnwys plant 5 oed neu hŷn. Mae hyn yn ychwanegol at y gofyniad i gael Prawf cyn Ymadael.
- Rhaid i bob teithiwr i Gymru o wlad rhestr oren (unrhyw wlad y tu allan i'r Ardal Deithio Gyffredin nad yw ar y rhestr GOCH) ynysu am 10 diwrnod.
Nid oes unrhyw ddarpariaethau lle byddai prawf negatif a gymerwyd cyn teithio neu a gymerwyd yn Lloegr drwy'r Cynllun Profi i Ryddhau, neu wrth gyrraedd Cymru, yn osgoi neu'n lleihau'r gofynion i ynysu yng Nghymru. Nid oes Cynllun Profi i Ryddhau yng Nghymru.
Ers cyflwyno'r Rheoliadau hyn, gwnaed diwygiadau i'r mesurau sydd wedi'u gosod drwy Offerynnau Statudol yn Senedd Cymru. Roedd y diwygiadau’n cynnwys ychwanegu a hepgor gwledydd penodol sy’n esempt rhag y gofyniad i hunanynysu ac esemptiadau sectorol rhag y gofyniad hwnnw.
Cwmpas yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb
Roedd angen gwneud a gosod y Rheoliadau hyn ar fyrder i geisio lleihau'r risgiau i iechyd y cyhoedd a achosir gan y coronafeirws gan y rhai sy'n teithio i Gymru, er mwyn lleihau'r risg o gyflwyno heintiau newydd o COVID-19 i'r gymuned.
Bernir bod angen y mesurau hyn er mwyn parhau i gydymffurfio â chanllawiau iechyd y cyhoedd a chyfyngu ar ledaeniad pellach y clefyd. Mae'r Rheoliadau wedi'u gwneud ar fyrder yng Nghymru fel rhan o ddull pedair gwlad o gyflwyno mesurau iechyd cyhoeddus newydd ar ffiniau’r DU er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach.
O ganlyniad, prin fu'r cyfle i gasglu tystiolaeth ar effeithiau posibl y Rheoliadau. Fodd bynnag, o ystyried pwysigrwydd asesu'r effaith ar bob un o'r nodweddion gwarchodedig, mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried y mesurau yn erbyn anghenion y ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol fel y’i nodir yn adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth, hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai nad ydynt, a meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai nad ydynt. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ystyried a allai'r mesurau wahaniaethu yn uniongyrchol a/neu’n anuniongyrchol.
Yn benodol, mae'r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn asesu unrhyw effeithiau yn sgil cymhwyso polisi neu arfer newydd neu ddiwygiedig arfaethedig yn erbyn yr anghenion sy'n berthnasol i ddyletswydd awdurdod cyhoeddus i fodloni dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
Dyma'r anghenion:
- Dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth
- Hyrwyddo cyfle cyfartal, a
- Meithrin cysylltiadau da.
Mae cyflymder y gwaith wedi cyfyngu ar yr ymgynghori â rhanddeiliaid allanol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae'r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi ceisio defnyddio gwybodaeth, tystiolaeth a dadansoddiadau sy'n bodoli eisoes ac sy'n dod i'r amlwg, fel rhan o'r broses benderfynu.
Cafwyd trafodaeth a deialog rhwng Llywodraeth Cymru ac Awdurdod yr Heddlu yng Nghymru, Llu'r Ffiniau yng Nghymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, gan lywio'r ffordd y caiff y polisi yng Nghymru ei weithredu. Wrth ddatblygu'r Rheoliadau hyn, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ceisio barn sefydliadau allanol eraill lle bo hynny'n bosibl.
Ystyriwyd lles ein dinasyddion mewn trafodaeth ymgynghori â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol. Rôl y Comisiynydd yw gwarchod lles cenedlaethau'r dyfodol, drwy helpu cyrff cyhoeddus a'r rhai sy'n llunio polisi yng Nghymru i feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried y dystiolaeth a gasglwyd a'r cyfraniadau a ddaeth i law, wrth weithredu'r Rheoliadau ac fel rhan o'n hadolygiad o effaith y Rheoliadau. Bydd y rhain yn eu tro yn helpu i ystyried yr effeithiau presennol a'r effeithiau posibl – negyddol a chadarnhaol – y gallai'r Rheoliadau hyn eu cael ar bob un o'r nodweddion gwarchodedig. Cydnabyddir nad yw'r ddyletswydd cydraddoldeb yn ymwneud ag atal neu liniaru effeithiau negyddol yn unig, gan fod gennym hefyd ddyletswydd gadarnhaol i hyrwyddo cydraddoldeb. Felly, dylid cydnabod nad yw camau lliniaru yn cael eu cymryd ar eu pen eu hunain a’u bod yn rhan o'r ystyriaeth ehangach honno o'r ddyletswydd.
Asesiad o effaith y mesurau ar gydraddoldeb
Mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod y coronafeirws ei hun yn effeithio ar gydraddoldeb mewn ffordd anghymesur. Mae pobl hŷn, dynion, pobl sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig, a Phobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn fwy tebygol o ddioddef salwch difrifol ac yn fwy tebygol o farw. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bydd rheoli’r feirws a lleihau ei drosglwyddiad yn effeithio’n gadarnhaol ar gydraddoldeb ar gyfer y grwpiau hyn. Mae'r Llywodraeth yr un mor ymwybodol y bydd mesurau i reoli lledaeniad y feirws yn anochel yn cael effaith anghymesur ar gydraddoldeb, hil, crefydd, plant a theuluoedd incwm isel er enghraifft, fel y nodir isod. Felly, dylai lleihau'r effaith ar grwpiau o’r fath fod yn rhan annatod o'r dull a fabwysiadir i reoli'r pandemig wrth iddo fynd rhagddo.
Fe'n gorfodir i oddef rhai effeithiau niweidiol oherwydd y risg i iechyd y cyhoedd a'r angen i reoli trosglwyddiad y feirws ond mae rhoi Ymyriadau Anfferyllol ar waith dros amser – a chan eu bod yn cael eu tynhau o bryd i'w gilydd ac yna eu llacio – yn golygu bod yr effeithiau niweidiol hyn yn dwysáu dros amser.
Mae’n bosibl lliniaru rhai o effeithiau niweidiol y rheoliadau hyn drwy esemptiadau i’r rhai â rhwymedigaethau cyfreithiol neu i gynnal ymweliadau gan riant er enghraifft, ond ni fydd modd mynd i’r afael â’r holl effeithiau anghymesur a niweidiol. Mae'r effeithiau hynny'n rhai tymor byr a byddant yn cael eu hadolygu'n gyson.
Byddwn yn parhau i ystyried tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg, fel y mae'n berthnasol i bob un o'r nodweddion gwarchodedig, a byddwn yn gwneud addasiadau pellach, fel y bo'n briodol. Yn olaf, dylid nodi y daw’r Rheoliadau hyn i ben – oni chânt eu hestyn – ar ddiwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y deuant i rym, sy’n golygu 7 Mehefin 2021. Er y gellir eu hestyn, y bwriad o hyd yw i'r rhain fod yn fesurau dros dro i fynd i'r afael â risgiau iechyd penodol a dim ond cyhyd â'u bod yn parhau'n gymesur y cânt eu cadw.
Wrth ystyried effeithiau'r cynigion ar gydraddoldeb, mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried yr effeithiau a'r mesurau lliniaru a nodir isod (restrir gan nodwedd warchodedig neu grŵp).
Oedran
Effeithiau
Mae mesurau a allai helpu i gyfyngu ar ledaeniad y coronafeirws wedi'u llunio i effeithio'n gadarnhaol ar y boblogaeth gyfan, ond byddant o bosibl o fudd penodol i unigolion hŷn.
Gall cyfnodau hunanynysu ar gyfer myfyrwyr effeithio’n negyddol ar bobl ifanc, megis myfyrwyr rhyngwladol sy’n dod i Gymru i astudio neu ar raglenni cyfnewid tymor byr, boed hynny am y tro cyntaf neu wrth ddychwelyd. O dan amgylchiadau eithriadol, gallai fod yn rhwystr i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n dewis astudio yng Nghymru, gan leihau eu hopsiynau.
Wrth i fyfyrwyr baratoi i gyrraedd/dychwelyd i brifysgolion/colegau, mae hyn yn parhau i fod yn fater cyfredol i brifysgolion a cholegau sy'n ystyried y ffordd orau o gefnogi myfyrwyr rhyngwladol.
Rhesymau
Amh.
Lliniaru
Mae prifysgolion yng Nghymru wedi bod wrthi'n cefnogi myfyrwyr yn ystod eu cyfnod hunanynysu.
Anabledd
Effeithiau
Ddim yn disgwyl effaith wahaniaethol.
Rhesymau
Amh.
Lliniaru
Amh.
Ailbennu rhywedd
Effeithiau
Ddim yn disgwyl effaith wahaniaethol.
Rhesymau
Amh.
Lliniaru
Amh.
Beichiogrwydd a mamolaeth
Effeithiau
Ddim yn disgwyl effaith wahaniaethol.
Rhesymau
Amh.
Lliniaru
Amh.
Hil
Effeithiau
Mae'n debygol y bydd effaith anghymesur ar Bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig gan fod gan lawer o unigolion o'r cymunedau hyn deulu sy'n byw'n rhyngwladol y maent yn ymweld â hwy’n rheolaidd.
Mae'r mesurau hunanynysu a chwarantin mewn gwesty yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn codi materion yn ymwneud â gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail cenedligrwydd oherwydd yr effaith anghymesur debygol ar wladolion y gwledydd o dan sylw.
Rhesymau
Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn gwahardd gwahaniaethu wrth arfer swyddogaethau cyhoeddus ar sail cenedligrwydd, hil neu grefydd ac mae'n ei gwneud yn ofynnol ichi fel penderfynwr roi sylw dyledus i'r angen i ddileu gwahaniaethu o'r fath, hyrwyddo cyfle cyfartal a lleihau anfanteision i'r rhai sy'n rhannu cenedligrwydd penodol. Mae gwahaniaethau anuniongyrchol yn anghyfreithlon oni bai ei fod yn ffordd gymesur o gyflawni nod dilys. Y nod dilys yw diogelu iechyd y cyhoedd yng Nghymru.
Rhaid ystyried gofynion deietegol hefyd wrth edrych am lety addas lle bo angen.
Lliniaru
Er y cydnabyddir bod effaith anghymesur ar Bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar hyn o bryd, mae’r nod o ddiogelu iechyd y cyhoedd yn cael y flaenoriaeth ar hyn o bryd.
Bydd y safbwynt hwn yn cael ei adolygu’n gyson.
Crefydd, cred a diffyg cred
Effeithiau
Teithio Rhyngwladol Negyddol: Yn ystod y flwyddyn mae llawer o bobl yn teithio'n rhyngwladol i fynychu gwyliau a phererindodau crefyddol amrywiol.
Rhesymau
Bydd y gwaharddiad teithio rhyngwladol yn effeithio ar wyliau a phererindodau crefyddol amrywiol.
Lliniaru
Camau lliniaru – Gwaharddiad Teithio Rhyngwladol: Er y cydnabyddir bod effaith anghymesur ar rai crefyddau, mae’r nod o ddiogelu iechyd y cyhoedd yn cael y flaenoriaeth ar hyn o bryd.
Bydd y safbwynt hwn yn cael ei adolygu’n gyson.
Rhyw / rhywedd
Effeithiau
Ddim yn disgwyl effaith wahaniaethol.
Rhesymau
Amh.
Lliniaru
Amh.
Cyfeiriadedd rhywiol
Effeithiau
Ddim yn disgwyl effaith wahaniaethol.
Rhesymau
Amh.
Lliniaru
Amh.
Priodas a phartneriaeth sifil
Effeithiau
Ddim yn disgwyl effaith wahaniaethol.
Rhesymau
Amh.
Lliniaru
Amh.
Plant a phobl ifanc hyd at 18 oed
Effeithiau
Gall cyfnodau hunanynysu ar gyfer myfyrwyr effeithio’n negyddol ar bobl ifanc, megis myfyrwyr rhyngwladol sy’n dod i Gymru i astudio neu ar raglenni cyfnewid tymor byr, boed hynny am y tro cyntaf neu wrth ddychwelyd. O dan amgylchiadau eithriadol, gallai fod yn rhwystr i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n dewis astudio yng Nghymru, gan leihau eu hopsiynau.
Wrth i fyfyrwyr baratoi i gyrraedd/dychwelyd i brifysgolion/colegau, mae hyn yn parhau i fod yn fater cyfredol i brifysgolion a cholegau sy'n ystyried y ffordd orau o gefnogi myfyrwyr rhyngwladol.
Rhesymau
Mae'r gofyniad i ddarparu gwybodaeth yn berthnasol i blant (a ddiffinnir fel unigolion o dan 18 oed) er mai oedolion â phlentyn sy’n gorfod darparu gwybodaeth am y plentyn. Dim ond plant ar eu pen eu hunain fyddai'n gorfod darparu'r wybodaeth eu hunain, ond rydym yn deall o Lu'r Ffiniau mai swyddog lles diogelu sy'n gyfrifol yn ymarferol am weithio gydag unrhyw blant ar eu pen eu hunain.
Bydd yn ofynnol i blant ac oedolion hunanynysu, a byddant yn agored yn unigol i droseddau am fethu â gwneud hynny. Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros gredu bod plentyn yn methu â chydymffurfio â’r gofyniad yn rheolaidd, mae darpariaeth ychwanegol sy’n caniatáu i’r cwnstabl gyfarwyddo unrhyw unigolyn a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn i sicrhau, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, fod y plentyn yn cydymffurfio â’r gofyniad.
Lliniaru
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 10(4)(ea) yn gwneud darpariaeth ar gyfer ymweliadau mynediad ar gyfer rhieni hyd yn oed os oes angen i'r naill neu'r llall ynysu.
Aelwydydd incwm isel
Effeithiau
Hunanynysu/Cwarantin ar ôl Teithio Rhyngwladol:
Negyddol: Am nad oes dewis a ddylech fod mewn cwarantin ai peidio ar ôl dychwelyd o'r gwledydd 'rhestr goch' neu a ddylech gadw at y rhaglen brofi ai peidio. Byddai hyn yn effeithio’n anghymesur ar y rhai o aelwydydd incwm isel, nid yn unig oherwydd yr angen i dalu am gost y cwarantin ond hefyd yr anallu i ddychwelyd i'w gwaith (os yw'n berthnasol) naill ai tra maent yn y gwesty cwarantin neu oherwydd cyfyngiadau’r gofynion hunanynysu.
Rhesymau
Amh.
Lliniaru
Mae cynllun caledi ar lefel Llywodraeth y DU wedi’i agor, ac mae’r rhai sy’n derbyn budd-daliadau wedi’u heithrio’n awtomatig rhag talu am y cwarantin a reolir.
Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud mewn perthynas â theithwyr Cymreig os bydd angen sefydlu cyfleusterau cwarantin a reolir yng Nghymru.
Atodiad A: Y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol
Diwygiadau a wnaed (a restrir yn ôl teitl yr offeryn statudol diwygio).
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2020 12.00am 10 Gorffennaf 2020
Dyddiad dod i rym
12.00am 10 Gorffennaf 2020
Diwygiadau a wnaed
Esemptiad ar gyfer categorïau penodol o weithwyr (gweithredwyr Twnnel y Sianel, morwyr, criw awyrennau) rhag y gofyniad i ddarparu gwybodaeth ar y sail eu bod ar long neu awyren:
- nad yw’n cludo teithwyr neu
- bod personau o'r fath wedi'u lleoli mewn rhan o’r llong neu’r awyren nad yw teithwyr yn cael mynd iddi.
At ddibenion y gofyniad i ynysu yn rheoliadau 7 ac 8, yn lle “fan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin” rhoddwyd “wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt”.
Mewnosodwyd rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt (Atodlen 3).
At ddibenion y gofyniad i ynysu yn rheoliadau 7 ac 8, yn lle “fan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin” rhoddwyd “wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt”.
Mewnosodwyd rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt (Atodlen 3).
Mewnosodwyd eithriad i’r gofynion i ynysu mewn perthynas â phersonau sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon penodol. Mae hyn yn galluogi person i adael y fangre y mae’n ynysu ynddi er mwyn cyfranogi, dyfarnu, darlledu, hyfforddi neu gymryd rhan mewn gweithgarwch newyddiadurol ar gyfer cystadleuaeth. Mae hyn hefyd yn berthnasol i athletwyr elît neu hyfforddwyr sy’n preswylio yng Nghymru sy'n dychwelyd o gystadleuaeth benodedig. Roedd y digwyddiadau penodedig yn cynnwys:
- Y Gemau Olympaidd
- Criced
- Dartiau
- Pêl-droed
- Golff
- Rasio ceffylau
- Rasio moduron
- Rygbi’r gynghrair
- Rygbi’r undeb
- Snwcer
Diwygiadau amrywiol i'r esemptiadau ar gyfer person sy'n ymwneud â gweithgareddau penodol (esemptiadau sectorol):
- gweithiwr sy’n ymgymryd â gwaith hanfodol neu waith brys sy’n gysylltiedig â rheoli’r risg o lifogydd ac erydu arfordirol
- esemptiad ar gyfer gweithwyr sy’n gwneud gwaith hanfodol neu waith brys sy’n ymwneud â gweithrediadau mwyngloddio sydd ar waith ar hyn o bryd neu a fu gynt ar waith
- hepgor esemptiad sy'n ymwneud â gweithwyr meddygol proffesiynol
- esemptiad ar gyfer pobl sy'n gweithio ar ffilmiau Prydeinig
Gwnaed diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2020
Dyddiad dod i rym
12.00am 11 Gorffennaf 2020
Diwygiadau a wnaed
Hepgorwyd Serbia o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
Dyddiad dod i rym
12.00am 26 Gorffennaf 2020
Diwygiadau a wnaed
Hepgorwyd Sbaen o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020
Dyddiad dod i rym
11.59pm 30 Gorffennaf 2020
Diwygiadau a wnaed
Ychwanegwyd y gwledydd canlynol at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt:
- Estonia
- Latfia
- Saint Vincent a'r Grenadines
- Slofacia
- Slofenia
Hepgorwyd Lwcsembwrg o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt.
Ychwanegwyd nifer o ddigwyddiadau at y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon penodedig yn y chwaraeon canlynol:
- Criced
- Pêl-droed
- Golff
- Rasio ceffylau
- Rygbi’r undeb
- Athletau (Marathon Llundain)
- Hoci maes
- Tennis
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020
Dyddiad dod i rym
11.59pm 6 Awst 2020
Diwygiadau a wnaed
Ychwanegwyd y gwledydd canlynol at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt: Brunei a Malaysia.
Hepgorwyd y gwledydd a’r tiriogaethau canlynol:
- Andorra
- y Bahamas
- Gwlad Belg
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020
Dyddiad dod i rym
4.00am 15 Awst 2020
Diwygiadau a wnaed
Hepgorwyd y gwledydd canlynol o'r rhestr esempt:
- Aruba
- Ffrainc
- yr Iseldiroedd
- Malta
- Monaco
- Ynysoedd Turks a Caicos
Ychwanegwyd nifer o ddigwyddiadau at y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon penodedig yn y chwaraeon canlynol:
- Golff
- Rygbi’r gynghrair
- Bocsio
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020
Dyddiad dod i rym
4:00am 22 Awst 2020
Diwygiadau a wnaed
Hepgorwyd y gwledydd canlynol o'r rhestr esempt:
- Awstria
- Croatia
- Trinidad a Tobago
Ychwanegwyd Portiwgal at y rhestr esempt.
Mewnosodwyd esemptiad rhag y gofynion ynysu mewn cysylltiad ag athletwyr elît sy’n preswylio yn y DU wedi iddynt ddychwelyd o gystadleuaeth elît dramor.
Ychwanegwyd esemptiadau sectorol ar gyfer Gwladwriaethau baner y Red Ensign Group (REG) mewn perthynas ag Arolygwyr a Syrfewyr Morol sydd wedi'u cydleoli yn Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau (MCA) yn Southampton ond sy'n gweithio i'r Tiriogaethau Tramor (OT).
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020
Dyddiad dod i rym
-
Diwygiadau a wnaed
Ychwanegwyd y gwledydd canlynol at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt:
- Cuba
- Singapore
Hepgorwyd y gwledydd a’r tiriogaethau canlynol:
- Jamaica
- Y Swistir
- Weriniaeth Tsiec
Ychwanegwyd y digwyddiad chwaraeon canlynol: Matchroom Fight Camp - Gornestau Pencampwriaeth Bocsio.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2020
Dyddiad dod i rym
4:00am 4 Medi 2020
Diwygiadau a wnaed
Hepgorwyd y gwledydd canlynol o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt:
- tiriogaethau Antiparos, Creta, Lesvos, Mykanos, Paros a Zakynthos yng Ngwlad Groeg
- Portiwgal (ac eithrio ynysoedd Açores a Madeira)
- Gibraltar
- Polynesia Ffrengig
Ychwanegwyd y digwyddiad chwaraeon canlynol: Hennessy Sports – Teitl Pencampwriaeth Pwysau Plu Uwch yr Undeb Bocsio Ewropeaidd.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020
Dyddiad dod i rym
4:00am 9 Medi 2020
Diwygiadau a wnaed
Hepgorwyd y gwledydd a’r tiriogaethau canlynol: tiriogaethau Santorini, Serifos a Tinos yng Ngwlad Groeg.
Cywirwyd sillafiad "Mykanos" i "Mykonos”.
Ychwanegwyd y digwyddiadau chwaraeon canlynol:
- Bwrdd Criced Cymru a Lloegr a – y T20 Blast
- Bwrdd Criced Cymru a Lloegr a – Cwpan Rachael Heyhoe Flint
- Matchroom – Twrnamaint Snwcer Cynghrair y Bencampwriaeth
- Teitl Pencampwriaeth Pwysau Bantam Uwch Ewropeaidd Sefydliad Bocsio'r Byd
- Teitl Pencampwriaeth Pwysau Ysgafn Uwch y Byd
- Gymnasteg – Gornest 4-Ffordd Dan 18 Gymnasteg Prydain
- Crefft Ymladd Cymysg – Cyfres “The Trilogy” Cage Warriors
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2020
Dyddiad dod i rym
4:00am 12 Medi 2020
Diwygiadau a wnaed
Ychwanegwyd Sweden at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt.
Hepgorwyd y gwledydd a’r tiriogaethau canlynol:
- Hwngari
- Reunion
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2020
Dyddiad dod i rym
4:00am 19 Medi 2020
Diwygiadau a wnaed
Ychwanegwyd Gibraltar a Gwlad Thai at y rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt.
Hepgorwyd Guadeloupe a Slofenia.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020
Dyddiad dod i rym
4:00am 26 Medi 2020
Diwygiadau a wnaed
Hepgorwyd Curaçao, Denmarc, Gwlad yr Iâ a Slofacia.
Diwygiadau amrywiol.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2020
Dyddiad dod i rym
4:00am 3 Hydref 2020
Diwygiadau a wnaed
Hepgorwyd Bonaire, Sint Eustatius a Saba, Gwlad Pwyl, a Thwrci.
Diwygiwyd pennawd yn y fersiwn Gymraeg.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 14) 2020
Dyddiad dod i rym
4:00am 10 Hydref 2020
Diwygiadau a wnaed
Ychwanegwyd Antiparos, Lesvos, Paros, Santorini, Serifos, Tinos a Zakynthos.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 15) 2020
Dyddiad dod i rym
4:00am 18 Hydref 2020
Diwygiadau a wnaed
Hepgorwyd: Yr Eidal, Gwladwriaeth Dinas y Fatican a San Marino.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 16) 2020
Dyddiad dod i rym
4:00am 25 Hydref 2020
Diwygiadau a wnaed
Ychwanegwyd: Denmarc, Maldives, Mykonos a’r Ynysoedd Dedwydd.
Hepgorwyd: Liechtenstein.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2020
Dyddiad dod i rym
4:00am 1 Tachwedd 2020
Diwygiadau a wnaed
Hepgorwyd: Cyprus a Lithiwania.
Ychwanegwyd at y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon.
Diwygiwyd y ffurflen lleoli teithwyr i gynnwys "rhif y goets”.
Diwygiadau amrywiol i esemptiadau sectorol.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) 2020
Dyddiad dod i rym
4:00am 6 Tachwedd 2020
Diwygiadau a wnaed
Hepgorwyd Denmarc.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020
Dyddiad dod i rym
4:00am 7 Tachwedd 2020
Diwygiadau a wnaed
Hepgorwyd: Yr Almaen a Sweden.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020
Dyddiad dod i rym
4:00am 7 Tachwedd 2020
Diwygiadau a wnaed
Denmarc:
- gofyniad i ynysu os yw P wedi cyrraedd Cymru cyn 6 Tachwedd, ac wedi bod yn Nenmarc yn y 14 diwrnod blaenorol
- mae'r gofyniad i ynysu yn cynnwys aelwyd P
- nid oes unrhyw esemptiadau sectorol yn berthnasol i P sy'n cyrraedd o Ddenmarc, neu sydd wedi cyrraedd o Ddenmarc
- nid oes unrhyw eithriadau rhag ynysu yn berthnasol i P nac aelwyd P, ac eithrio:
- i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig
- i osgoi salwch difrifol, anaf difrifol neu risg arall o niwed difrifol
- os yw cwnstabl yn dweud bod rhaid rhoi’r gorau i ynysu
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020
Dyddiad dod i rym
4:00am 14 Tachwedd 2020
Diwygiadau a wnaed
Ychwanegwyd: Bahrain, Cambodia, Chile, Corfu, Creta, yr Emiraethau Arabaidd Unedig, Gwlad yr Iâ, Kos, Laos, Ródhos, Qatar, Ynysoedd Turks a Caicos, a Zakynthos.
Hepgorwyd: Gwlad Groeg, Ardaloedd Safleoedd Sofran Akrotiri a Dhekelia ar Ynys Cyprus
Darpariaethau Denmarc: mewnosodwyd eithriad i adael y man ynysu er mwyn ymadael â Chymru.
Mewnosodwyd darpariaeth sy'n gwahardd awyrennau a llongau a chychod (“llestrau” a ddefnyddir yn y ddeddfwriaeth) rhag teithio'n uniongyrchol o Ddenmarc.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2020
Dyddiad dod i rym
4:00am 21 Tachwedd 2020
Diwygiadau a wnaed
Ychwanegwyd: Bonaire, Sint Eustatius a Saba, Cymanwlad Ynysoedd Gogledd Mariana, Dinas Jerwsalem, Gweriniaeth Namibia, Gweriniaeth Rwanda, Israel, Sri Lanka, Uruguay ac Ynysoedd y Wyryf yr Unol Daleithiau.
Diwygiwyd y gofyniad i ddarparu gwybodaeth am deithiwr wrth gyrraedd Cymru, neu cyn cyrraedd Cymru.
Diwygiadau amrywiol eraill.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2020
Dyddiad dod i rym
4:00am 28 Tachwedd 2020
Diwygiadau a wnaed
Ychwanegwyd: Aruba, Gweriniaeth Ddemocrataidd Timor-Leste, Gweriniaeth Kiribati, Gweriniaeth Vanuatu, Gwladwriaeth Annibynnol Samoa, Gwladwriaethau Ffederal Micronesia, Mongolia, Teyrnas Bhutan, Teyrnas Tonga ac Ynysoedd Solomon.
Hepgorwyd: Estonia a Latfia.
Diwygiadau amrywiol eraill.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020
Dyddiad dod i rym
10 Rhagfyr 2020
Diwygiadau a wnaed
Lleihawyd y cyfnod ynysu i 10 diwrnod.
Mewnosodwyd eithriad i’r rheol ynysu fel y caiff plentyn symud rhwng aelwydydd pan nad oes trefniant ffurfiol ar waith ar gyfer y plentyn.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020
Dyddiad dod i rym
4.00am 12 Rhagfyr 2020
Diwygiadau a wnaed
Ychwanegwyd: Botswana a Saudi Arabia.
Hepgorwyd: Yr Ynysoedd Dedwydd.
Ni fydd yn ofynnol mwyach i deithwyr sy'n cyrraedd Cymru o'r gwledydd hyn hunanynysu am 10 diwrnod.
Diwygiwyd swm y gosb benodedig y gellir ei rhoi mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â'r gofynion i ynysu, gan roi graddfa symudol sy’n dechrau ar £500 ar gyfer trosedd gyntaf yn lle’r swm penodedig o £1000.
Y Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd:
- Diwygiwyd swm y gosb benodedig sy’n daladwy o dan amgylchiadau penodol, gan roi graddfa symudol sy’n dechrau ar £1000 am drosedd gyntaf yn lle’r swm penodedig o £4000.
- Diwygiwyd yr Atodlen i'r rheoliadau hynny i adlewyrchu newidiadau diweddar a wnaed gan Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020 i'r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i leihau'r cyfnod y mae'n rhaid i berson ynysu o 14 diwrnod i 10 diwrnod.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2020
Dyddiad dod i rym
4.00am 19 Rhagfyr 2020
Diwygiadau a wnaed
Hepgorwyd: Gweriniaeth Namibia, Uruguay ac Ynysoedd y Wyryf yr Unol Daleithiau.
Diwygiwyd y gofyniad i ynysu mewn ymateb i’r cynllun Profi i Ryddhau yn Lloegr.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, De Affrica) (Cymru) 2020
Dyddiad dod i rym
9.00am 24 Rhagfyr 2020
Diwygiadau a wnaed
Hepgorwyd De Affrica o’r rhestr:
- gofyniad i ynysu os yw P wedi cyrraedd Cymru cyn 6 Tachwedd, ac wedi bod yn Ne Affrica yn y 14 diwrnod blaenorol
- mae'r gofyniad i ynysu yn cynnwys aelwyd P
- nid oes unrhyw esemptiadau sectorol yn berthnasol i P sy'n cyrraedd o Dde Affrica, neu sydd wedi cyrraedd o Dde Affrica
- nid oes unrhyw eithriadau rhag ynysu yn berthnasol i P nac aelwyd P, ac eithrio:
- i geisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen y cynhorthwy hwnnw ar frys neu yn unol â chyngor ymarferydd meddygol cofrestredig
- i osgoi salwch difrifol, anaf difrifol neu risg arall o niwed difrifol
- os yw cwnstabl yn dweud bod rhaid rhoi’r gorau i ynysu
- i adael y man ynysu er mwyn ymadael â Chymru
Mewnosodwyd darpariaeth sy'n gwahardd awyrennau a llongau a chychod (“llestrau” a ddefnyddir yn y ddeddfwriaeth) rhag teithio'n uniongyrchol o Dde Affrica.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2021
Dyddiad dod i rym
4.00am 9 Ionawr 2021
Diwygiadau a wnaed
Hepgorwyd: Dinas Jerwsalem, Gweriniaeth Botswana, Israel, Mauritius a Seychelles.
Mesurau ychwanegol:
- Mae'r gofynion hunanynysu llymach a gyflwynwyd yn flaenorol ar gyfer teithwyr sy'n dychwelyd o Dde Affrica wedi'u cadw a'u hestyn i ardaloedd eraill lle gwyddys bod yr amrywiolyn yn cylchredeg neu lle mae cysylltiadau agos â De Affrica.
- Mae'r gofynion llymach hyn bellach yn berthnasol i Angola, Botswana, Eswatini, Lesotho, Malaŵi, Mauritius, Mozambique, Namibia, Seychelles, Zambia a Zimbabwe.
- Ni all teithwyr sy'n cyrraedd Cymru o'r gwledydd hyn hawlio esemptiad sectorol mwyach ac mae'n ofynnol iddynt hwy, ac aelodau o’u haelwyd, hunanynysu am 10 diwrnod.
- Mae'r gwaharddiad ar awyrennau a llongau a chychod sy'n teithio'n uniongyrchol o Dde Affrica wedi'i gadw a'i estyn i gynnwys y rhestr o wledydd uchod, ac eithrio pan fo 11 diwrnod neu ragor wedi mynd heibio rhwng eu hymadawiad a phan fyddant yn cyrraedd Cymru.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) 2021
Dyddiad dod i rym
4.00am 12 Ionawr 2021
Diwygiadau a wnaed
Hepgorwyd yr Emiraethau Arabaidd Unedig o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/46) (Cy. 10)
Dyddiad dod i rym
4.00am 16 Ionawr 2021
Diwygiadau a wnaed
Cymhwyswyd mesurau ychwanegol o dan Atodlen 3A i: Ariannin, Brasil, Bolivia, Chile, Colombia, Ecuador, Guiana Ffrengig, Guyana, Gweriniaeth Cabo Verde, Gweriniaeth Panamá, Paraguay, Periw, Portiwgal, Suriname, Uruguay, a Venezuela.
Hepgorwyd Aruba, ynysoedd Açores, Bonaire, Sint Eustatius a Saba, Chile, Madeira a Qatar o'r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/50) (Cy. 12)
Dyddiad dod i rym
4.00am 18 Ionawr 2021
Diwygiadau a wnaed
Hepgorwyd yr holl wledydd a thiriogaethau o'r rhestr o wledydd a thiriogaethau esempt er mwyn atal y coridorau teithio, i bob pwrpas.
Hepgorwyd esemptiad sectorol sy'n ymwneud â phersonau sy'n gweithio ar wneud ffilmiau a rhaglenni teledu Prydeinig, gan olygu nad yw'r categori hwn o weithiwr bellach yn esempt o'r gofyniad i hunanynysu na'r gofyniad i ddarparu gwybodaeth benodol am deithiwr pan fydd yn cyrraedd Cymru.
Hepgorwyd eithriad rhag y gofyniad i hunanynysu mewn perthynas â newyddiadurwyr a darlledwyr sy'n ymwneud â digwyddiadau chwaraeon, gan olygu nad yw'r categorïau hyn o weithwyr bellach yn cael gadael eu man hunanynysu ar ôl iddynt gyrraedd Cymru er mwyn mynychu digwyddiad o'r fath i ymgymryd â gweithgareddau sy'n ymwneud â'u gwaith.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48) (Cy. 11)
Dyddiad dod i rym
4.00am 18 Ionawr 2021
Diwygiadau a wnaed
Darpariaethau annibynnol newydd yn ymwneud ag atebolrwydd gweithredwyr. Gwnaethant gyflwyno gofyniad i bobl sy'n teithio i Gymru o'r tu allan i'r ardal deithio gyffredin feddu ar hysbysiad o brawf negatif am y coronafeirws wrth gyrraedd, gydag esemptiadau penodedig. Yn ogystal, gwnaethant gyflwyno gofyniad i bersonau sy’n gweithredu gwasanaethau rhyngwladol i deithwyr sy’n cyrraedd Cymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin sicrhau bod teithwyr ar wasanaethau o’r fath yn meddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negatif am y coronafeirws, gydag esemptiadau penodol.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/66) (Cy. 15)
Dyddiad dod i rym
4.00am 22 Ionawr 2021
Diwygiadau a wnaed
Cymhwyswyd mesurau ychwanegol o dan Atodlen 3A i: Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo a Tanzania.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021
Dyddiad dod i rym
4.00am 23 Ionawr 2021
Diwygiadau a wnaed
Diwygiwyd y Rheoliadau Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr.
Diwygiwyd y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel a ganlyn:
- lleihau faint o wybodaeth am deithiwr y mae'n ofynnol i bobl sy'n teithio i Gymru ei darparu, ac
- ychwanegu esemptiad rhag y gofyniad i griw awyren sy’n cyflawni dyletswyddau ar fwrdd awyren er budd diogelwch yr awyren, fel llwythfeistri, feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negatif am y coronafeirws.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/95) (Cy. 26)
Dyddiad dod i rym
4.00am 29 Ionawr 2021
Diwygiadau a wnaed
Cymhwyswyd mesurau ychwanegol o dan Atodlen 3A i: Gweriniaeth Burundi, Gweriniaeth Rwanda a’r Emiraethau Arabaidd Unedig.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021
Dyddiad dod i rym
4.00am 15 Chwefror 2021
Diwygiadau a wnaed
Cyflwynwyd darpariaeth i wahardd personau nad ydynt yn esempt sydd wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth Atodlen 3A (“y rhestr goch”) o fewn 10 niwrnod o gyrraedd, rhag dod i Gymru.
Cyflwynwyd gofynion profi mandadol ar gyfer pob teithiwr i Gymru o wledydd neu diriogaethau nad ydynt yn esempt.
Diwygiwyd esemptiadau sectorol, eithriadau a’r rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon.