Mae'r gwerthusiad yn adrodd ar ba mor dda y cafodd y Peilot ei weithredu, beth weithiodd yn dda, a sut yr oedd yn cyd-fynd â mentrau eraill.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o Raglen Beilot Mewngymorth y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS)
Nod y rhaglen oedd meithrin gallu (gan gynnwys sgiliau, gwybodaeth a hyder) mewn ysgolion cynradd ac uwchradd i gefnogi iechyd meddwl a lles disgyblion a staff. Roedd hefyd yn anelu at wella mynediad ysgolion at wasanaeth cyswllt arbenigol, ymgynghoriaeth, cyngor a hyfforddiant pan fo'u hangen.
Mae'r adroddiad gwerthuso’n crynhoi pa mor dda y cafodd y Peilot ei weithredu, beth weithiodd yn dda, a sut yr oedd yn cyd-fynd â mentrau eraill. Mae'n nodi argymhellion ar gyfer sut y gellid cyflwyno'r rhaglen ledled Cymru fel rhan o ddulliau system gyfan rhanbarthol i hybu iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc.
Ariannwyd y rhaglen gan Lywodraeth Cymru i'w chynnal o fis Medi 2018 tan fis Gorffennaf 2021.
Adroddiadau
Gwerthusiad o Raglen Beilot Mewngymorth y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS): adroddiad terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Gwerthusiad o Raglen Beilot Mewngymorth y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS): adroddiad terfynol (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Helen Shankster
Rhif ffôn: 0300 025 9247
E-bost: ymchwilysgolion@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.