Mark Drakeford AS, Prif Weinidog
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 heddiw wedi cael eu diwygio mewn nifer o fannau.
Yn dilyn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 1 Ebrill, mae'r rheoliadau bellach yn darparu ar gyfer codi nifer o gyfyngiadau o 12 Ebrill. Mae'r rhain ochr yn ochr â’r newyddion i’w groesawu y bydd pob plentyn a myfyriwr yn dychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb ar yr un diwrnod.
O dydd Llun 12 April:
- Caiff pob busnes sy’n gwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol ailagor.
- Caiff pob gwasanaeth cyswllt agos ailagor, gan gynnwys gwasanaethau symudol (ar wahân i nifer fach o weithdrefnau risg uchel a nodir yn y canllawiau).
- Bydd y cyfyngiadau teithio o fewn y DU a’r Ardal Deithio Gyffredin yn cael eu codi. Bydd y cyfyngiad ar deithio rhyngwladol heb esgus resymol yn parhau.
- Bydd y cyfyngiadau ar ganfasio gwleidyddol yn cael eu codi, ar yr amod bod canfaswyr yn gwneud hynny mewn modd diogel.
- Caniateir mynd i weld lleoliadau priodas drwy apwyntiad.
Roedd fy Natganiad Ysgrifenedig ar 1 Ebrill hefyd yn nodi fy mwriad i ddarparu ar gyfer hawddfreintiau pellach o 22 Ebrill yn ystod y cylch adolygu nesaf. Gan fod cyfraddau’r coronafeirws yn y gymuned ledled Cymru yn parhau i ostwng a’r pwysau ar ysbytai'n lleihau, gallaf weithredu rhai o'n cynlluniau ni wythnos ynghynt, ar yr amod bod y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn parhau i fod yn ffafriol. Mae'r newidiadau hyn yn parhau i fod yn gyson â'r dull gofalus a graddol a nodir yng Nghynllun Rheoli’r Coronafeirws wedi'i ddiweddaru: Lefelau Rhybudd Diwygiedig yng Nghymru (Mawrth 2021).
O ddydd Llun 26 Ebrill:
- Caniateir i atyniadau awyr agored ailagor, gan gynnwys ffeiriau a pharciau thema.
- Bydd lletygarwch awyr agored yn cael ailddechrau, gan gynnwys caffis, tafarndai a bwytai. Bydd lletygarwch o dan do yn parhau i fod ar gau, heblaw am fwyd i’w gludo oddi yno
- Gellir cynnal gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu ar gyfer hyd at 30 o bobl unwaith eto
- Gellir cynnal derbyniadau priodasau yn yr awyr agored, ond byddant hefyd yn cael eu cyfyngu i 30 o bobl
O ddydd Llun 3 Mai:
- Bydd campfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd yn cael ailagor. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant unigol neu un-i-un ond nid dosbarthiadau ymarfer corff ar gyfer grŵp.
- Caniateir ffurfio aelwydydd estynedig unwaith eto (swigen unigol o ddwy aelwyd a gaiff gwrdd a chysylltu o dan do.)