Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflymu elfennau o'i rhaglen i lacio’r cyfyngiadau COVID-19, wrth i’r gostyngiad mewn heintiadau newydd barhau ledled Cymru.
![Llacio cyfyngiadau COVID-19 yng Nghymru yn gynt](/sites/default/files/styles/600x400/public/announcements/2021-04/fm-presser_0.jpg?itok=RJAqfDm0)
Bydd pobl yn gallu creu aelwyd estynedig, ymweld â'r gampfa neu gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu wythnos ynghynt na'r disgwyl, wrth i’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd – a’r cyfraddau brechu – barhau i wella.
Yr wythnos diwethaf, amlinellodd y Prif Weinidog amserlen fanwl ar gyfer symud Cymru'n bendant i lefel rhybudd 3. Ond bellach bydd rhai o'r mesurau hyn yn cael eu cyflwyno'n gynt na'r disgwyl gan fod yr achosion wedi gostwng yn sylweddol, o 37 achos ym mhob 100,000 o bobl i lai na 21 ym mhob 100,000 yr wythnos hon.
Mae'r pwysau ar ysbytai yn dal i leihau hefyd. Mae achosion wedi’i cadarnhau mewn cleifion sydd mewn gwelyau ysbyty yn parhau i ostwng. 89 yw’r nifer erbyn hyn, sef 26% yn is na dydd Iau diwethaf. Dyma'r ffigurau isaf ers 22 Medi 2020.
Bydd y dyddiad agor ar gyfer gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu a derbyniadau priodas yn yr awyr agored yn digwydd yn gynt, sef ddydd Llun 26 Ebrill yn lle 3 Mai.
Yn ogystal, o ddydd Llun 3 Mai, sef wythnos yn gynt na’r hyn a nodwyd yn wreiddiol, bydd campfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd yn cael ailagor ar gyfer hyfforddiant unigol neu un-i-un. Bydd hawl unwaith eto hefyd i ffurfio aelwyd estynedig, a fydd yn galluogi dwy aelwyd i gwrdd a chael cyswllt o dan do.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
Mae’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn parhau i wella, diolch i bopeth rydych chi'n ei wneud i'n helpu i reoli'r feirws ofnadwy hwn. Mae achosion o'r feirws yn gostwng ac mae ein rhaglen frechu anhygoel yn dal i fynd o nerth i nerth.
Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom amlinellu ein rhaglen i agor yr economi a llacio’r cyfyngiadau rydym wedi bod yn byw gyda nhw cyhyd, fel rhan o’n dull gofalus a graddol sydd â’r nod o gadw pawb yn ddiogel. Yr wythnos hon, oherwydd y gwelliannau rydym yn parhau i'w gweld, rydym yn gallu rhoi rhai o’n cynlluniau ar waith yn gynt.
Fyddai hyn ddim yn bosibl heb yr ymdrech y mae pawb yn ei gwneud i ddiogelu eu hunain a’r rhai sy’n annwyl iddynt.
O ddydd Llun 12 Ebrill, bydd y camau llacio canlynol yn cael eu rhoi ar waith:
- Bydd plant yn dychwelyd i’r ysgol yn llawn ar gyfer addysg wyneb yn wyneb, bydd pob dysgwr ôl-16 yn dychwelyd i ganolfannau addysg bellach a hyfforddiant, a bydd campysau prifysgolion yn gallu agor ar gyfer cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb/ar-lein i bob myfyriwr
- Bydd gweddill y siopau yn ailagor, gan gwblhau’r broses raddol o ailagor busnesau sy’n gwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol
- Bydd gweddill y gwasanaethau cysylltiad agos yn ailagor, gan gynnwys gwasanaethau symudol
- Bydd y cyfyngiadau ar deithio i mewn ac allan o Gymru yn cael eu codi. Fodd bynnag, mae’r cyfyngiadau ar deithio i wledydd y tu allan i'r Ardal Deithio Gyffredin heb esgus rhesymol yn parhau. Mae’r Ardal Deithio Gyffredin yn golygu’r Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon
- Bydd hawl i fynd i weld lleoliadau priodas, drwy apwyntiad
- Bydd y cyfyngiadau ar ganfasio gwleidyddol yn cael eu codi, ond bydd gofyn i ganfaswyr wneud hynny mewn modd diogel
Bydd rhagor o lacio ar y cyfyngiadau yn ystod yr wythnosau nesaf, cyhyd ag y bo’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn parhau'n ffafriol. Bydd hyn yn cael ei gadarnhau yn yr adolygiad teirwythnosol nesaf o’r rheoliadau coronafeirws ar 22 Ebrill.
Ddydd Llun 26 Ebrill:
- Byddai atyniadau awyr agored, gan gynnwys ffeiriau a pharciau thema, yn cael ailagor
- Bydd lletygarwch awyr agored yn cael ailddechrau, gan gynnwys mewn caffis, tafarndai a bwytai. Bydd lletygarwch o dan do yn parhau i fod ar gau, heblaw ar gyfer bwyd i’w gludo oddi yno
- Gellir cynnal gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu ar gyfer hyd at 30 o bobl (y dyddiad gwreiddiol oedd dydd Llun 3 Mai)
- Gellir cynnal derbyniadau priodasau yn yr awyr agored, ond byddant hefyd wedi’u cyfyngu i 30 o bobl (y dyddiad gwreiddiol oedd dydd Llun 3 Mai)
Ddydd Llun 3 Mai (ddydd Llun 10 Mai yn wreiddiol):
- Caiff campfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd ailagor. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant unigol neu un-i-un ond nid dosbarthiadau ymarfer corff
- Bydd modd ffurfio aelwydydd estynedig unwaith eto, a fydd yn galluogi dwy aelwyd i gwrdd a chael cyswllt o dan do
Fel y nodwyd yn y Cynllun Rheoli’r Coronafeirws diwygiedig, mae nifer fach o gynlluniau peilot ar gyfer digwyddiadau awyr agored i rhwng 200 a 1,000 o bobl yn cael eu cynllunio hefyd.