Rydym yn ystyried manylion y cyhoeddiadau a wnaed heddiw gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) a’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) ond nid ydym yn rhag-weld oedi i’n rhaglen frechu yng Nghymru.

Mae brechlyn Prifysgol Rhydychen-AstraZeneca yn ddiogel ac yn effeithiol o hyd ac mae eisoes wedi achub miloedd o fywydau.
Mae Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a GIG Cymru yn gweithio gydag asiantaethau eraill i fonitro diogelwch y brechlynnau’n barhaus a byddant yn parhau i gadw llygad gofalus ar y mater hwn. Yng Nghymru, diogelwch pobl a ddaw gyntaf bob amser ac ni fyddwn yn defnyddio brechlynnau ond pan fo hynny’n ddiogel a phan fo’r manteision yn drech na’r risgiau.
Brechlynnau yw’r ffordd orau allan o’r pandemig hwn gan eu bod yn darparu amddiffyniad cryf rhag COVID-19. Pan fydd pobl yn cael eu gwahodd, mae’n bwysig eu bod yn dod i gael eu brechu. Hyd yma, mae dros 1.5 miliwn o bobl yng Nghymru wedi cael dos cyntaf o frechlyn ac mae 475,000 hefyd wedi cael ail ddos.
Bydd pawb sydd eisoes wedi cael dos cyntaf o frechlyn Prifysgol Rhydychen-AstraZeneca yn gallu cael ail ddos o’r un brechlyn, ni waeth beth fo’i oedran.