Pryd i ddefnyddio fideos a sut i’w cyhoeddi ar LLYW.CYMRU.
Cynnwys
Pryd i ddefnyddio fideos
Mae’n well gennym ddefnyddio testun ar LLYW.CYMRU. Fel arfer, nid ydym yn argymell defnyddio fideos i egluro syniadau neu brosesau oherwydd eu bod:
- yn aml yn dyblygu cynnwys ysgrifenedig
- yn ei gwneud yn fwy anodd i ddefnyddwyr edrych yn sydyn er mwyn dod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt
- yn ddrud ac yn araf i’w cynhyrchu
- yn fwy anodd eu diweddaru, felly mae’r cynnwys yn dyddio a gall fod yn anghywir
- perfformio’n waeth na thestun wrth wneud chwiliad
Defnyddiwch fideos ar gyfer Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Fel arfer cyhoeddir fideos BSL ar YouTube a'u mewnblannu ar dudalen ar LLYW. CYMRU.
Os ydych wedi creu fideo marchnata neu ymgyrchu, mae’n well ei gyhoeddi ar:
- sianeli’r cyfryngau cymdeithasol, wedyn rhoi dolen i ddefnyddwyr at y cynnwys ar LLYW.CYMRU
- Gwefan ymgyrchu LLYW.CYMRU (os oes un wedi’i chreu)
Wrth gynhyrchu fideos, rhaid i chi sicrhau eich bod yn cynhyrchu fideos Cymraeg a Saesneg ar wahân, neu fideo dwyieithog. Rhaid i bob fideo fodloni Safonau’r Gymraeg.
Gwneud fideos yn hygyrch
Teitlau a disgrifiadau
Gwnewch yn siŵr bod teitl y fideo YouTube yn disgrifio’r pwnc neu’r diben. Caiff y teitl ei ddefnyddio fel teitl y dudalen o fewn yr iFrame, ac ar gyfer pennawd a gaiff ei ddangos pan nad yw’r fideo yn gallu llwytho.
Ychwanegwch ddisgrifiad cryno.
Capsiynau a thrawsgrifiadau
Ni fydd gan bob defnyddiwr fynediad at sain. Gwnewch yn siŵr bod fideos yn hygyrch drwy ychwanegu capsiynau caeedig a thrawsgrifiadau. Mae’r rhain yn galluogi defnyddwyr sy’n edrych ar y fideo heb sain i ddarllen y cynnwys.
Rhaid defnyddio capsiynau er mwyn sicrhau hygyrchedd ac nid i ddarparu cyfieithiad.
Gwnewch 2 fersiwn o fideos BSL, un gyda thestun Cymraeg ac un gyda thestun Saesneg.
Gallwch ychwanegu neu olygu capsiynau yn eich fideos YouTube yn YouTube Studio. Bydd YouTube yn darparu capsiynau awtomatig. Peidiwch â dibynnu ar gapsiynau awtomatig i gael popeth yn gywir. Ar gyfer y Gymraeg, dylech greu eich trawsgrifiad eich hun bob amser.
Ewch drwy’r capsiynau awtomatig a sicrhewch bod y canlynol yn gywir:
- mae’r capsiynau yn cydamseru â’r person yn siarad
- ni cheir unrhyw wallau sillafu
- mae wedi cyfleu’r geiriau cywir, gan roi sylw arbennig i eiriau neu frawddegau anghyffredin
- ni fydd y capsiynau’n fwy na dwy linell
Yn ogystal â deialog, dylai capsiynau wneud y canlynol:
- dangos pwy sy’n siarad
- cynnwys gwybodaeth nad yw’n rhan o’r elfen lafar sy’n cael ei chyfleu drwy sŵn, gan gynnwys effeithiau sain ystyrlon
Os bydd y fideo’n byw ar safle sy’n gofyn am gael capsiynau mewn ffeil .srt, .vtt, neu .sbv, gallwch lawrlwytho’r ffeil capsiynau yn YouTube.
Ar ôl i chi gwblhau’r capsiynau caeedig, rhaid i chi:
- arbed a chyhoeddi’r capsiynau
- dileu’r fersiwn awtomatig
Bydd trawsgrifiad yn cael ei ychwanegu at eich fideo. Gallwch gael gafael ar y trawsgrifiad drwy ddewis y 3 dot o dan y fideo a dewis Agor trawsgrifiad.
Awtochwarae
Peidiwch â gosod fideos i awtochwarae. Gall achosi problemau hygyrchedd, ac mae'n amharu gyda sut mae defnyddwyr yn pori'r safle.
Gwneud fideos yn gyhoeddus
Nid yw fideos yn rhestredig pan cânt eu lanlwytho i YouTube i ddechrau. Pan fyddwch yn barod i ddefnyddio’r fideo, gwnewch y fideo yn gyhoeddus.
Ychwanegwch fideo i graidd LLYW.CYMRU
Ewch ati i greu neu olygu math o gynnwys a all arddangos fideo.
Nodwch URL y fideo o YouTube:
- o’r fideo dewiswch Share ac yna Embed
- copïwch yr URL yn unig. Bydd yn cynnwys y gair ‘embed’ a bydd yn debyg i https://www.youtube.com/embed/yhP0P4jT74w
O’r adran paragraphs dewiswch Add iFrame.
Pastiwch URL y fideo i’r maes SRC.
Ychwanegwch ddisgrifiad byr i'r maes Teitl.
Gosodwch y lled (canran) i 100.
Gosodwch yr uchder (pixel) i 550 (yna bydd yn mynd i raddfa yn awtomatig).
Peidiwch â nodi Include responsive JS?