Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
Yn unol â'r cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol, dyma roi gwybod i Aelodau'r Senedd fy mod wedi mynychu cyfarfod Gweinidogol i drafod y cynnydd o ran yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol. Cynhaliwyd y cyfarfod yn rhithwir ar 12 Mawrth, a hynny bron yn union dair blynedd ers i’r Adolygiad gael ei gomisiynu gan Gyd-bwyllgor y Gweinidogion (Cyfarfod Llawn).
Mynychwyd y cyfarfod hefyd gan y Gweinidogion Gordon Lyons ACD a Declan Kearney ACD o Swyddfa Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon; Ysgrifennydd y Cabinet dros y Cyfansoddiad, Ewrop a Materion Allanol, Michael Russell ASA ar ran Llywodraeth yr Alban; gyda Changhellor Dugiaeth Caerhirfyn, y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS ar ran Llywodraeth y DU yn cadeirio.
Heddiw, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi dogfen sy'n rhoi'r darlun diweddaraf o’r cynnydd ar yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol fel ag y mae heddiw, gyda chromfachau sgwâr yn nodi meysydd penodol i'w trafod ymhellach. Gallaf gadarnhau bod y ddogfen yn adlewyrchiad cywir o hynt y gwaith, o safbwynt Llywodraeth Cymru.
Ar y llaw arall mae'n siom, ar ôl tair blynedd o drafod, nad oes gennym gytundeb cyffredinol o hyd, a bod tôn y cysylltiadau rhynglywodraethol wedi dirywio, a hynny’n bennaf oherwydd cyfres o ymwthiadau ymosodol gan Lywodraeth y DU i feysydd lle mae’r cymhwysedd wedi’i ddatganoli.
Yn yn cyd-destun hwn, mae’n destun siom a rhwystredigaeth fawr mai dim ond heddiw, y diwrnod cyhoeddi, y mae Llywodraeth y DU wedi rhannu Adolygiad Dunlop gyda ni – adroddiad y gwnaethom gyfrannu ato. Rydym yn nodi cyfeiriad Llywodraeth y DU at weithgarwch cysylltiadau rhynglywodraethol yn ei hadroddiad tryloywder ond yn ein barn ni nid yw hyn yn adlewyrchu’r ffaith mai gwael oedd ansawdd yr ymgysylltu ac mai hwy sy’n gyfrifol am hynny.
Mae'r cynigion drafft yn nogfen yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol yn deillio o'r egwyddorion ar gyfer cydweithio a gyhoeddwyd fis Gorffennaf 2019, yn yr ysbryd o "gynnal cysylltiadau cadarnhaol ac adeiladol, yn seiliedig ar gyd-barch at gyfrifoldebau llywodraethau ledled y DU a'u rôl gyffredin yn y gwaith o lywodraethu'r DU.”
Rydym yn cydnabod y cynnydd sydd wedi’i wneud tuag at gyflawni rhai o'n blaenoriaethau allweddol, yn enwedig proses Osgoi a Datrys Anghydfod ddiwygiedig ac ysgrifenyddiaeth annibynnol.
Mae llawer o hyn yn ganlyniad blynyddoedd o ymgysylltu rhagweithiol a chadarnhaol gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi golygu negodi dwys a chyfaddawdu.
Mae gofyn cynnal negodiadau pellach ar y ddogfen hon er mwyn diogelu buddiannau Cymru, cwblhau ar fyrder delerau gweithredu'r pwyllgor cyllid a'i rôl mewn anghydfodau; a sefydlu peirianwaith effeithiol ar gyfer ymgysylltu rhyngwladol – gan gynnwys llywodraethiant y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a'r UE. Rwy’n gobeithio y gall y llywodraethau adeiladu ar hyn ar ôl etholiadau Senedd Cymru a Senedd yr Alban.
Fodd bynnag, ochr yn ochr â’r ymdrechion parhaus i gytuno ar y materion sy'n weddill a dod â'r Adolygiad i ben, bydd angen i weithredoedd Llywodraeth y DU gyd-fynd â'r geiriau sydd ar y dudalen. Mae hwn yn brawf y maent yn ei fethu ar hyn o bryd.
Mae cyhoeddiadau’n ddiweddar gan Lywodraeth y DU yn awgrymu ymdrech i danseilio a diystyru rôl y Llywodraethau a'r deddfwrfeydd datganoledig, gan gyflwyno strwythurau sydd wedi’u cynllunio’n uniongyrchol i herio, i ddyblygu ac i gystadlu yn erbyn strwythurau Llywodraeth Cymru mewn meysydd lle mae cymhwysedd wedi’i ddatganoli. Mae'r datblygiadau hyn yn anghydnaws â dymuniad honedig Llywodraeth y DU i wella’r ffordd y mae cysylltiadau rhynglywodraethol yn gweithio ac i sicrhau dyfodol yr Undeb.
Mae angen i ni ailosod y berthynas, a hynny’n seiliedig ar weledigaeth Llywodraeth Cymru o Deyrnas Unedig wedi'i diwygio a'i chryfhau, lle mae'r holl lywodraethau'n cydweithio er budd pawb ac yn trin ei gilydd â pharch.