Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas, wedi cyhoeddi penodiad pum Ymddiriedolwr newydd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Bydd yr aelodau sydd newydd eu penodi yn gwasanaethu am dermau rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2025, ac fe'u dewiswyd yn dilyn ymgyrch recriwtio ar y cyd rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru.
Meddai’r Arglwydd Elis-Thomas:
“Rwy'n falch iawn o gyhoeddi penodiad David Hay, Janet Wademan, Lydia Rumsey, Elaine Treharne a Susan Davies fel ymddiriedolwyr newydd y Llyfrgell. O gefndiroedd gwahanol iawn, bydd yr unigolion hyn yn dod â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth arbenigol i'r Bwrdd ar adeg pan fo'r Llyfrgell yn dechrau gweithredu ei chynllun strategol uchelgeisiol ar gyfer 2021-2026, Llyfrgell i Gymru a'r Byd.”
Y mae cyfnod Meri Huws fel Llywydd dros dro'r Llyfrgell wedi'i ymestyn am hyd at ddeuddeng mis, i ganiatáu recriwtio Llywydd newydd yn dilyn yr etholiadau sydd i ddod. Dywedodd hi: “Ar adeg o her ac o gyfle aruthrol, rydym yn croesawu'r penodiadau hyn i'n Bwrdd Ymddiriedolwyr. Er mwyn ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd hyn mae angen Bwrdd a gweithlu gwydn a hyblyg arnom, ac ymgyrch i newid er gwell. Rwy'n hyderus y bydd effaith ein ymddiriedolwyr newydd ar ein gwaith yn dod â llawer o fanteision i'r bobl rydym yn eu gwasanaethu.”
David Hay
Mae David Hay yn weithiwr proffesiynol cymwysedig ym maes archifau a threftadaeth, gyda phrofiad mewn archifau, rheoli gwybodaeth, ymgysylltu â rhanddeiliaid, a digideiddio.
Janet Wademan
Mae Janet Wademan yn arbenigwr TGCh sydd â diddordeb mewn arloesi a thechnoleg, Mae ganddi ddealltwriaeth ddofn o egwyddorion llywodraethu corfforaethol ac mae wedi ymrwymo i ragoriaeth sefydliadol.
Lydia Rumsey
Mae Lydia Rumsey wedi gweithio mewn amgueddfeydd mawr ac mewn gwasanaethau llyfrgell. Mae ganddi brofiad o dechnoleg ddigidol ac arloesedd o fewn y sector treftadaeth diwylliannol, ac o sicrhau bod casgliau ar gael yn haws ac yn hygyrch.
Athro Elaine Treharne
Mae'r Athro Elaine Treharne o Brifysgol Stanford, Califfornia, yn arbenigo yn hanes technolegau gwybodaeth, yn enwedig llawysgrifau a dyniaethau digidol. Mae yn arbenigwr canoloesol ac archifydd hyfforddedig ag arbenigedd hefyd mewn gweithio gyda chasgliadau arbennig.
Susan Davies
Mae Susan Davies yn ymgynghorydd diwylliant a threftadaeth yng Nghymru. Mae'n arweinydd diwylliannol profiadol, yn addysgwr ac yn uwch reolwr y celfyddydau, ac roedd gynt yn Bennaeth Dysgu a Datblygu Cynulleidfaoedd ar gyfer amgueddfeydd ac orielau Leeds.
Gwnaed y penodiadau hyn yn unol â'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus.
Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod. Yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae'n ofynnol cyhoeddi gweithgarwch gwleidyddol y rhai a benodir (os oes rhai wedi'u datgan). Nid oes yr un o'r Ymddiriedolwyr penodedig wedi cynnal gweithgareddau gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac mae gan un Ymddiriedolwr a benodwyd benodiad Gweinidogol arall. Mae'r penodiadau am dymor cychwynnol o bedair blynedd ac nid ydynt yn cael eu talu, yn seiliedig ar ymrwymiad amser gofynnol o 12 diwrnod y flwyddyn.
Mae gan y Llywydd dros dro un penodiad Gweinidogol arall ac nid yw wedi cyflawni unrhyw weithgarwch gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae'r penodiad am gyfnod o hyd at 12 mis ar dâl o £17,591 y flwyddyn, fodd bynnag mae Meri Huws wedi penderfynu peidio â derbyn y tâl.