Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Cyhoeddwyd Mwy nag Ailgylchu – strategaeth i wneud economi gylchol Cymru yn realiti yn gynharach y mis hwn. Mae’n rhan o’n hymrwymiad i gymryd camau pendant ac uchelgeisiol i wneud Cymru’n economi ddiwastraff a charbon isel ac yn wlad sy’n defnyddio ond ei chyfran deg o adnoddau’r ddaear. Mae’n rhan allweddol hefyd o’n hymateb i argyfwng yr hinsawdd a natur a’n hymrwymiad i Gymru decach a gwyrddach wrth i ni ymadfer o’r pandemig.
Wrth roi’r diweddariad hwn i Aelodau heddiw, rwyf am esbonio rhai o’r camau rydym fel Llywodraeth eisoes yn eu cymryd i sbarduno newid yn ein cymunedau wrth roi’r strategaeth ar waith.
Fel y dywedon ni yn Mwy nag Ailgylchu, mae cysylltiad sylfaenol rhwng yr economi gylchol a’n gallu i’n gwneud ein hunain yn fwy cydnerth a gwella yr un pryd ein canlyniadau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol. Rydym eisoes wedi cefnogi 180 o brosiectau arloesol ym mhob rhan o Gymru trwy Gronfa’r Economi Gylchol, gan ddod â chymunedau ynghyd, diogelu a chreu swyddi a gwella’r amgylchedd. Yn y flwyddyn ariannol nesaf, caiff mwy o help ei neilltuo i ateb y galw eithriadol rydym yn ei weld. Bydd hynny’n golygu bod dros £80m wedi’i neilltuo i fusnesau, mentrau cymdeithasol a chyrff cyhoeddus yng Nghymru i gefnogi’r newid i economi gylchol.
Bydd pobl yn dechrau gweld gwahaniaeth go iawn y mis hwn yn y ffordd y bydd eu gwastraff a’u deunydd ailgylchu’n cael eu casglu, gyda cherbydau allyriadau isel iawn yn casglu sbwriel domestig yng Nghasnewydd, Caerdydd a Phowys. Yn ogystal â lleihau allyriadau a gwella ansawdd aer, mae’r cerbydau’n rhatach i’w rhedeg ac yn gwneud llai o sŵn. Gallent hefyd greu cyfleoedd i gynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol ac maent yn garreg filltir bwysig yn ein hymdrechion i ddatgarboneiddio’r sector cyhoeddus erbyn 2030 ar ein ffordd i wneud Cymru’n wlad sero-net. Ar ôl buddsoddi mewn tri cherbyd llynedd, rydym yn cyd-fuddsoddi nawr ag awdurdodau lleol mewn pymtheg cerbyd arall, gan drwy hynny buddsoddi mwy mewn rhywbeth a wnaiff gwahaniaeth go iawn ar ein taith at fod yn wlad sero-net carbon.
Yn ogystal â gweithredu nawr trwy fuddsoddi mewn meysydd newydd fel cerbydau trydan, rydym yn cynllunio hefyd at y tymor hir trwy osod y sylfeini ar gyfer gweddnewid Cymru fel ymateb i argyfwng yr hinsawdd.
Dros yr 20 mlynedd diwethaf, rydym wedi bod yn ddiwyro, clir a chyson ynghylch ein hamcan i fod yn ddiwastraff a thros ddefnyddio yn unig ein rhan deg o adnoddau’r blaned. Wrth inni ystyried adeiladu nawr ar ein sylfeini cadarn fel arweinydd byd ym maes ailgylchu, mae hynny’n golygu cymryd y camau nesaf at fod yn wlad ddiwastraff.
Yn 2010, yn ôl ein strategaeth, Tuag at Ddyfodol Diwastraff, bydd “llawer llai o angen am gyfleusterau trin gwastraff gweddilliol fel ffatrïoedd ynni o wastraff a bydd y nifer a/neu’r cynhwysedd gofynnol yn gostwng yn gyson o 2025 i 2050.” Mae’n taith ailgylchu fel gwlad, a’r gostyngiad yn sgil hynny mewn gwastraff, yn golygu’n bod wedi cyrraedd bellach y pwynt lle nad oes angen seilwaith ynni o wastraff mawr arnom i ddelio â’r gwastraff gweddilliol a gynhyrchir yng Nghymru.
Gyda chyhoeddi Mwy nag Ailgylchu, rydym yn cyflwyno moratoriwm ar unrhyw ddatblygiadau ynni o wastraff mawr. Yn ogystal â chadw at ein hymrwymiadau tymor hir, mae’r moratoriwm hwn yn cydnabod hefyd farn dinasyddion a rhanddeiliaid a glywsom yn ystod yr ymgynghoriad ar Mwy nag Ailgylchu a chyngor Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU ar y ffordd ymlaen i ddatgarboneiddio Cymru. Law yn llaw â hyn, cyhoeddwyd asesiad strategol newydd sy’n dangos bod llwyddiant ein gwaith ailgylchu a’r gostyngiad yn y gwastraff a gynhyrchir yng Nghymru yn golygu nad oes angen gweithfeydd ynni o wastraff mawr arnom bellach, ac eithrio’r angen posib am seilwaith ynni o wastraff ar raddfa fach i ddelio â gwastraff anailgylchadwy ac ar gyfer cael gwared ar wastraff peryglus fel gwastraff clinigol yn ddiogel.
Mae gweithfeydd ynni o wastraff ar raddfa fawr yn golygu gweithfeydd 10MW neu fwy a daw’r moratoriwm ar y rheini i rym ar unwaith. Ni chaiff gweithfeydd ynni o wastraff bach o dan 10MW eu caniatáu chwaith oni gall yr ymgeisydd brofi bod seilwaith o’r fath yn angenrheidiol i drin gwastraff anailgylchadwy’r rhanbarth. Rhaid i unrhyw gyfleusterau bach newydd gynhyrchu gwres hefyd, a lle medrir, byddant yn gallu neu â’r potensial i ddal a storio carbon. Ni chaniateir gwaith ynni o wastraff bach chwaith os mai’r bwriad yw mewnforio’r gwastraff o’r tu allan i’r rhanbarth dan sylw (ac eithrio’n agos iawn i’r rhanbarth), rhag cynhyrchu allyriadau cludiant a llygredd cysylltiedig. Daw’r moratoriwm i rym trwy’r system gynllunio. Dywed Polisi Cynllunio Cymru y bydd y graddau y gall cynnig ddangos ei fod yn cyfrannu at amcanion, polisi, targedau ac asesiadau rheoli gwastraff a geir yn y polisi gwastraff cenedlaethol yn ystyriaeth berthnasol.
Mae gweithredu ar gynhyrchu ynni o wastraff yn un rhan bwysig o gyfres ehangach o waith sy’n cael ei wneud. Mae hwnnw’n cynnwys gweithredu i leihau gwastraff trwy fynd i’r afael â’r eitemau sy’n gorffen fel gwastraff heb gael eu hailgylchu.
Mae aelodau’r Senedd yn siarad yn rheolaidd am yr angen i daclo llygredd plastig ac rydym wedi bod yn cydweithio â gweinyddiaethau eraill yn holl wledydd y DU ar ddiwygiadau pwysig yn y maes hwn. Y garreg filltir fawr nesaf fydd cyhoeddi ein cyd-ymgynghoriad sydd ar ddod ar gyflwyno Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am ddeunydd pacio gwastraff ac ar y dyluniad a ffefrir ar gyfer Cynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd.
Bydd Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am ddeunydd pacio yn chwyldroi’r maes a bydd yn gymhelliant i ddylunio’n well a gwneud deunydd yn fwy ailgylchadwy. Rydym eisoes yn gweld busnesau yng Nghymru’n arloesi ar sut i wella deunydd pacio. Mae Cronfa’r Economi Gylchol eisoes wedi helpu llawer o fusnesau pecynnu fel Sarpak ym Mhort Talbot i ddefnyddio mwy o ddeunydd eildro wrth gynhyrchu deunydd pacio.
O ran y Cynllun Dychwelyd Ernes, bydd yr ymgynghoriad yn mynd â’n gwaith i annog ailgylchu poteli, caniau a deunydd pacio yn ei flaen, ond gan daclo hefyd y ffordd rydym yn defnyddio deunydd untro. A ninnau’n ymadfer o’r pandemig, rydym am dreialu cynllun ernes digidol yng Nghonwy yn ddiweddarach y Gwanwyn hwn, a fydd yn edrych ar fanteision posibl dod â’n holl gynlluniau casglu cynhwysfawr ynghyd gyda thechnoleg ddigidol.
Mae’r gwaith a’r trafod ar Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr a’r Cynllun Dychwelyd Ernes yn gwireddu’n hymrwymiad yn Mwy nag Ailgylchu i defnyddio adnoddau mor hir ag y medrir ac i osgoi gwastraff. Bydd hyn yn rhoi pwyslais clir ar ailddefnyddio ac ailgylchu ac yn cymell gwelliannau yn nyluniad deunydd pacio ac yn addysgu defnyddwyr yn well am yr hyn y gellir ei ailgylchu ac na ellir ei ailgylchu. Bydd y ddau gynllun yn adeiladu ar y gwaith sylweddol sydd eisoes wedi’i wneud yng Nghymru, gyda gwaith ailgylchu ein Hawdurdodau Lleol wedi arbed 403,000 tunnell o allyriadau CO2 yn 2019/20 yn unig. Byddan nhw’n ein helpu hefyd i gynyddu gwerth y deunydd rydym yn ei ailgylchu, gan sbarduno economi fwy cynhyrchiol a chystadleuol.
Cawsom 3,580 o ymatebion i’n hymgynghoriad diweddar ar Leihau Plastig Untro. Fodd bynnag, ers hynny, cafodd Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 ei phasio’n gyfraith gan Senedd y DU. Mae’r Ddeddf wedi creu ansicrwydd ynghylch ein gallu i gyflwyno deddfwriaeth ar gyfer gwahardd, gan ffrwyno’n gwaith yn y maes hwn. Mae Llywodraeth Cymru felly wedi cymryd camau ffurfiol yn y Llys Gweinyddol i ofyn am ganiatâd i gynnal adolygiad barnwrol o elfennau o’r Ddeddf.
Mae’n fwriad felly cyhoeddi Crynodeb o’r Ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn nhymor nesa’r Senedd, a chyhoeddi manylion y camau nesaf yn ystod rhan olaf 2021 neu fel y bydd canlyniadau’r camau cyfreithiol yn caniatáu. Yn y cyfnod hwn, caiff gwaith ei wneud i gryfhau’r dystiolaeth ac ystyried y safbwyntiau a fynegwyd, gan ddatblygu’n polisïau yn unol â’r broses fesul cam a ddisgrifir yn ein dogfen ymgynghori. Bydd hyn yn cynnwys cynnal rhagor o waith ar dros 60 o eitemau ychwanegol a nodwyd yn ystod yr ymgynghoriad ac rydym yn rhagweld y manteisiwn ar arbenigedd Grŵp Cynghori Llywodraeth Cymru ar Sbwriel i’n helpu â’r gwaith hwn.
Gyda’i gilydd, mae hyn yn dangos ein bod eisoes yn cyflawni yn unol â strategaeth Mwy nag Ailgylchu i gryfhau ein heconomi a’n cymunedau yn ogystal â mynd i’r afael â her amgylcheddol yr argyfwng yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth. Mae creu economi gylchol yn hanfodol ar gyfer gallu cyflawni’n hymrwymiad i greu Cymru decach, mwy cydnerth a gwyrddach, wrth i ni ymadfer o’r pandemig.