Canllawiau ar ddefnyddio’r DTTT a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) gydag unigolion a chyrff penodol.
Cynnwys
DTTT/5010 Cwmnïau
(adran 33)
Caiff cwmni ei ddiffinio fel unrhyw gorff corfforaethol neu gymdeithas anghorfforedig. Nid yw’n ymestyn i bartneriaethau na phartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig ac eithrio fel y darperir fel arall, er enghraifft, at ddibenion rhyddhad grŵp mae corff corfforaethol yn cynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.
Rhaid cyflawni holl weithredoedd cwmni at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir (gan gynnwys gweithredoedd sy’n ofynnol gan y DCRhT pan fydd y gweithredoedd hyn yn ymwneud â thrafodiadau tir) drwy swyddog priodol y cwmni (ysgrifennydd y cwmni fel rheol) neu berson arall, swyddog fel rheol, sydd wedi’i awdurdodi gan y cwmni i weithredu ar ran y cwmni mewn perthynas â’i faterion Treth Trafodiadau Tir. Mae’r awdurdod hwnnw’n gallu bod yn ddatganedig, yn ymhlyg neu’n ymddangosiadol.
Y person yma ddylai awdurdodi cyflwyno ffurflen dreth y Dreth Trafodiadau Tir neu ffurflen dreth wedi’i diwygio neu sy’n llofnodi’r datganiad ar ffurflen trafodiad tir neu ffurflen wedi’i diwygio.
Yn ymarferol, dylid derbyn bod ffurflen electronig wedi’i hawdurdodi i’w chyflwyno gan swyddog priodol neu berson sydd â’r awdurdod priodol. Yn yr un modd, dylid derbyn ffurflen bapur neu ffurflen wedi’i diwygio, ar yr amod ei bod yn cynnwys llofnod ac nad oes dim rheswm dros gredu awdurdod y sawl sy’n ei llofnodi.
Ar y sail hon, mae modd derbyn llofnod unrhyw swyddog neu gyflogai cwmni. Mae hyn yn cynnwys aelod o dîm cyfreithiol mewnol.
Fel rheol dylai’r trysorydd neu’r trysorydd gweithredol lofnodi ffurflen trafodiad tir neu ffurflen ddiwygiedig o gymdeithas anghorfforedig.
Cwmni sydd wedi’i ddiddymu neu yn nwylo gweinyddwyr
Pan fydd cwmni wedi’i ddiddymu neu yn nwylo gweinyddwyr, mae rheolau gwahanol yn berthnasol. Rhaid i’r diddymwr neu’r gweinyddwr, fel sy’n berthnasol, lofnodi unrhyw ffurflenni neu ffurflenni diwygiedig.
Rheolau arbennig ar gyfer cwmnïau
Mae rhai rheolau sy’n berthnasol yn arbennig i drafodion pan mai’r cwmni ydy’r prynwr:
- Rheolau gwerth marchnadol tybiedig, ac
- Eithriadau i’r rheol gwerth marchnadol tybiedig.
DTTT/5020 Cynlluniau ymddiriedolaeth unedau
(adran 34)
Pan fydd cynllun ymddiriedolaeth unedau yn caffael tir, caiff ymddiriedolwyr cynllun ymddiriedolaeth unedau eu trin fel petaent yn gwmni at ddibenion ffeilio ffurflenni a thalu'r Dreth Trafodiadau Tir.
Fodd bynnag, nid ydy rhai rheolau sy’n berthnasol i gwmnïau yn berthnasol i gynlluniau ymddiriedolaeth unedau ac nid oes modd i gynllun ymddiriedolaeth unedau hawlio rhai mathau o ryddhad y mae modd i gwmnïau eu hawlio:
- y rheol gwerth marchnadol tybiedig, a
- rhyddhad grŵp, rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael.
Mae hawliau deiliaid unedau yn cael eu trin fel petaent yn gyfranddaliadau yn y cwmni. Felly nid ydy cyhoeddi, ildio na throsglwyddo unedau yn y cynllun o fewn cwmpas y Dreth Trafodiadau Tir.
Mae gan gynllun ymddiriedolaeth unedau yr un ystyr ag yn Neddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (gweler adran 237 yn benodol) ac mae deiliad unedau yn golygu person sy’n gyfranogwr yn y cynllun ymddiriedolaeth unedau ac felly mae ganddo hawl i gyfran o’r buddsoddiadau yn amodol ar ymddiriedolaethau cynllun ymddiriedolaeth unedau.
Mae cynllun mantell yn gynllun ymddiriedolaeth unedau sydd â threfniadau ar gyfer cronni ar wahân gyfraniadau cyfranogwyr a'r elw neu’r incwm y caiff taliadau eu gwneud ohonynt ac oddi tanynt y mae gan gyfranogwyr hawl i gyfnewid hawliau mewn un cronfa am hawliau mewn un arall. Ystyr rhan o gynllun mantell yw’r trefniadau hynny sy’n ymwneud â chronfa ar wahân.
Lle ceir cynllun mantell, ystyrir pob rhan fel ymddiriedolaeth unedau ar wahân ac ni chaiff y cynllun yn ei gyfanrwydd ei drin fel cynllun ymddiriedolaeth unedau at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir. Felly, pan fydd cronfa ar wahân o gynllun mantell yn caffael tir, caiff y gronfa honno ei thrin fel cynllun ymddiriedolaeth unedau yn ei rhinwedd ei hun a chaiff ymddiriedolwyr y rhan honno eu trin fel cwmni. Felly, pan fydd un gronfa o gynllun mantell yn trosglwyddo tir i gronfa arall o’r un cynllun mantell mae trafodiad tir wedi digwydd at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir ac mae’n rhaid cyflwyno ffurflen os ydy’r trafodiad yn hysbysadwy.
DTTT/5030 Cwmnïau buddsoddi penagored
(adran 35)
Mae cwmnïau buddsoddi penagored yn gyrff corfforaethol ac yn gwmnïau. Felly cânt eu trin yn yr un ffordd ag unrhyw gwmni arall at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir.
LTTA/5040 Co-ownership authorised contractual schemes
(adran 36)
Pan fydd cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth yn caffael tir, bydd y cynllun yn cael ei drin fel petai’n gwmni at ddibenion ffeilio ffurflenni a thalu’r Dreth Trafodiadau Tir.
Mae cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth yn golygu ‘cynllun cyfberchnogaeth’ sydd wedi’i awdurdodi at ddibenion Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 drwy orchymyn awdurdodi sydd mewn grym o dan adran 261D o’r Ddeddf honno. Mae i ‘cynllun cyfberchnogaeth’ yr un ystyr ag yn Neddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (gweler adran 235A o’r Ddeddf).
Fodd bynnag, mae rhai rheolau sy’n berthnasol i gwmnïau nad ydynt yn berthnasol i gynlluniau contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth a rhai mathau o ryddhad y mae modd i gwmnïau eu hawlio ond nad oes modd i gynlluniau contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth eu hawlio:
- y rheol gwerth marchnadol tybiedig, a
- rhyddhad grŵp, rhyddhad atgyfansoddi a rhyddhad caffael.
Caiff hawliau'r cyfranogwyr yn y cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth eu trin fel petaent yn gyfranddaliadau yn y cwmni. Felly nid ydy cyhoeddi, ildio na throsglwyddo buddiannau cyfranogwyr yn y cynllun o fewn cwmpas y Dreth Trafodiadau Tir.
Mae cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth yn gynllun buddsoddi torfol:
- a gyfansoddir o dan gyfraith gwladwriaeth AEE (ac eithrio’r DU) drwy gontract
- a reolir gan gorff corfforaethol a gorfforir o dan gyfraith gwladwriaeth AEE, ac
- a awdurdodir dan gyfraith gwladwriaeth AEE mewn ffordd sy’n cydymffurfio â’r diffiniad o gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth.
Mae cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth mantell yn gynllun sydd â threfniadau ar gyfer cronni ar wahân gyfraniadau cyfranogwyr a'r elw neu’r incwm y caiff taliadau eu gwneud ohonynt ac oddi tanynt y mae gan gyfranogwyr hawl i gyfnewid hawliau mewn un cronfa am hawliau mewn un arall. Ystyr is-gynllun cynllun mantell yw’r trefniadau hynny sy’n ymwneud â chronfa ar wahân.
Lle ceir cynllun mantell caiff pob is-gynllun ei ystyried fel cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth ar wahân ac ni chaiff y cynllun yn ei gyfanrwydd ei drin fel un cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir. Felly, pan fydd is-gynllun cynllun mantell yn caffael tir, bydd yr is-gynllun hwnnw’n cael ei drin fel cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth yn ei rinwedd ei hun ac mae’n rhaid i’r gweithredwr gyflwyno unrhyw ffurflenni, ac ati. Felly pan fydd un cronfa o gynllun mantell yn trosglwyddo tir i gronfa arall o’r un cynllun mantell mae trafodiad tir wedi digwydd at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir ac mae’n rhaid cyflwyno ffurflen os ydy'r trafodiad yn hysbysadwy.
DTTT/5050 Cydbrynwyr: Rheolau cyffredinol
(adran 37)
Mae’r rheolau’n berthnasol i drafodiad tir pan fo dau brynwr neu ragor sydd neu a fydd â’r hawl ar y cyd i’r buddiant a gaffaelir. Mae’r rheolau sy’n berthnasol i gydbrynwyr yn berthnasol i bartneriaethau neu ymddiriedolwyr, yn amodol ar unrhyw ddarpariaethau arbennig sy’n ymwneud â phartneriaethau ac ymddiriedolwyr o’r fath.
Yn gyffredinol caiff unrhyw rwymedigaeth a roddir ar brynwr ei rhoi ar y prynwyr ar y cyd ond mae modd iddi gael ei chyflawni gan unrhyw un ohonynt (mae’r gofynion mewn perthynas â’r ffurflen a'r datganiad yn enghreifftiau pan nad ydy'r rheol gyffredinol hon yn berthnasol.
Mae’n rhaid i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu’r awdurdodir ei wneud gan y drefn Treth Trafodiadau Tir neu sy’n ofynnol o dan DCRhT sydd i’w wneud mewn perthynas â’r prynwyr gael ei wneud mewn perthynas â phob un ohonynt.
Mae unrhyw atebolrwydd gan brynwr ar y cyd ac yn unigol, felly bydd methu â chyflwyno ffurflen trafodiad tir a thalu’r dreth sy’n ddyledus yn arwain at log a chosbau y mae modd eu hadennill gan unrhyw rai o’r cyd-brynwyr neu bob un. Mae hyn er gwaethaf unrhyw gytundeb rhwng y cydbrynwyr unigol ynghylch talu’r Dreth Trafodiadau Tir neu gyfrifoldeb unigol am y methiant i gydymffurfio â rhwymedigaethau o dan y DTTT neu DCRhT.
Cydbrynwyr: ffurflenni treth a datganiadau
(adran 38)
Os yw’r trafodiad yn drafodiad hysbysadwy, mae angen un ffurflen trafodiad tir ac mae angen i’r holl brynwyr wneud datganiad bod y ffurflen trafodiad tir yn gyflawn ac yn gywir.
Cydbrynwyr: ymholiadau ac asesiadau
(adran 39)
Pan fydd ACC yn cyhoeddi hysbysiad ymholiad i ffurflen rhaid iddo gyhoeddi’r hysbysiad hwnnw i’r holl gydbrynwyr y mae’n gwybod amdanynt.
Pan fydd ACC yn cyhoeddi’r hysbysiadau sy’n mynnu dogfennau a gwybodaeth gan drethdalwr yn ystod cwrs ymholiad mae modd eu cyhoeddi i brynwyr unigol mewn perthynas â'r trafodiad tir yr ymrwymwyd iddo gan y prynwr unigol hynny pan mae’n un o nifer o gydbrynwyr.
Pan fydd ACC yn cyhoeddi hysbysiad cau i ffurflen rhaid iddo gyhoeddi’r hysbysiad i’r holl gydbrynwyr sy’n hysbys iddo.
Caiff unrhyw un o’r cydbrynwyr ofyn am gyfarwyddyd bod hysbysiad cau yn cael ei gyhoeddi. Fodd bynnag, ar gais o’r fath, mae gan yr holl gyd-brynwyr hawl i fod yn barti i’r cais hwnnw.
Rhaid i ddyfarniad ACC gael ei wneud gan ACC yn enw'r holl gydbrynwyr sy’n hysbys iddo, ac nid yw’n ddilys os na chaiff hyn ei wneud. Fodd bynnag, os oes mwy o brynwyr na’r rheini a nodir yn y dyfarniad nid ydy absenoldeb y bobl hynny’n golygu bod y dyfarniad yn annilys, os oeddent yn anhysbys i ACC adeg gwneud y dyfarniad.
Yn yr un modd, rhaid i ACC wneud asesiad ACC yn enw’r holl gyd-brynwyr sy’n hysbys iddo, ac nid yw’n ddilys os na chaiff hyn ei wneud. Os oes mwy o brynwyr na’r rheini a nodwyd yn yr asesiad nid ydy absenoldeb y bobl hynny’n golygu bod yr asesiad yn annilys, os oeddent yn anhysbys i ACC adeg gwneud y dyfarniad.
Cydbrynwyr: apeliadau ac adolygiadau
(adran 40)
Os bydd ACC yn gwneud penderfyniad apeliadwy, caiff unrhyw un o’r prynwyr wneud cais am adolygiad neu apêl, ond er mwyn setlo mae’n rhaid cael cytundeb yr holl brynwyr ac mae penderfyniad yn eu rhwymo i gyd.
Pan fydd ACC yn cynnal adolygiad o ganlyniad i gais am adolygiad o benderfyniad apeliadwy gan un neu fwy o’r prynwyr, ond nid gan yr holl brynwyr, mae’n rhaid i ACC:
- gyhoeddi hysbysiad o'r adolygiad i bob un o’r prynwyr nad oedd wedi gwneud y cais am adolygiad. Mae hyn yn bwysig er mwyn i’r holl brynwyr fod yn ymwybodol o’r adolygiad
- caniatáu i’r prynwyr hynny nad oeddent wedi gwneud y cais am yr adolygiad fod yn barti i’r adolygiad os ydynt yn rhoi gwybod i ACC eu bod yn dymuno bod yn barti o’r fath
- cyhoeddi hysbysiad o gasgliadau ACC i bob prynwr sy’n hysbys i ACC.
Mae effaith casgliadau ACC i adolygiad yn berthnasol i’r holl brynwyr.
Pan fydd apêl yn erbyn penderfyniad apeliadwy yn cael ei wneud i’r tribiwnlys gan un neu fwy o’r prynwyr ond nid y cwbl, mae’n rhaid i ACC:
- gyhoeddi hysbysiad apêl i’r holl brynwyr nad oeddent wedi gwneud yr apêl. Mae hyn yn bwysig er mwyn i’r holl brynwyr fod yn ymwybodol o’r apêl.
Mae gan unrhyw rai o’r prynwyr hynny nad oeddent wedi gwneud yr apêl hawl i fod yn barti i’r apêl, ac mae penderfyniad y tribiwnlys yn berthnasol i’r holl brynwyr.
Yn olaf, does ond modd dod i gytundeb setlo gyda’r holl brynwyr. Felly, os na fydd un prynwr yn fodlon ymrwymo i gytundeb setlo, bydd angen penderfynu ar y mater drwy'r broses apêl.
DTTT/5060 Personau sy’n gweithredu fel cynrychiolwyr
(adran 43)
Caiff person weithredu mewn rhinwedd cynrychiolwyr er mwyn cyflawni swyddogaethau, gan gynnwys cyflwyno ffurflenni a delio â gohebiaeth.
Cynrychiolwyr personol
Mae cynrychiolwyr personol person sy’n brynwr o dan drafodiad tir yn gyfrifol am gyflawni rhwymedigaethau’r prynwr mewn perthynas â’r trafodiad. Cânt ddidynnu unrhyw daliad a wneir ganddynt o dan y Dreth Trafodiadau Tir neu symiau a godir am log a chosbau o asedau ac eiddo’r ymadawedig.
Derbynnydd a benodir gan lys yn y DU
Bydd derbynnydd o’r fath a fydd yn cyfarwyddo ac yn rheoli unrhyw eiddo yn gyfrifol am gyflawni unrhyw rwymedigaethau mewn perthynas â thrafodiad sy’n effeithio ar yr eiddo hwnnw, fel pe na bai’r eiddo o dan gyfarwyddyd a rheolaeth y llys.
Rhiant neu warcheidwad person ifanc dan oed
Ni chaiff person ifanc dan oed wneud y datganiad ar ffurflen dreth na chynrychioli ei hun mewn materion eraill gydag ACC (ymholiadau ac ati). Felly mae rhiant neu warcheidwad yn gyfrifol am gyflawni rhwymedigaethau’r person dan oed nad ydynt yn cael eu cyflawni gan y person dan oed ei hun (er enghraifft talu’r dreth).