Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg
Mae’n hanfodol bwysig deall sut y mae pobl ar y sbectrwm awtistiaeth, a’r rheini sydd â chyflyrau niwroamrywiol eraill yn cyfathrebu ac yn ymwneud â’r byd, er mwyn creu cymdeithas fwy caredig a sensitif sy’n gallu ymateb yn gadarnhaol a chefnogi pobl awtistig, eu teuluoedd, a’u gofalwyr. Heddiw rydym wedi gosod Cod Ymarfer Statudol ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth, gan gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi’r Cod yn nhymor y Senedd hon. Bydd yn helpu i weithredu ein rhaglen wella barhaus, a ddisgrifiwyd yn ein strategaeth ar gyfer awtistiaeth a gyhoeddwyd yn 2016. Mae’r Cod yn nodi sut y dylai gwasanaethau a chymorth gael eu cynllunio a’u darparu i ddiwallu anghenion pobl awtistig, fel y mae’r anghenion hynny wedi cael eu nodi, gan sicrhau bod gwasanaethau ar gael i gymunedau lleol.
Mae’r Cod a’r canllawiau cysylltiedig wedi cael eu datblygu mewn partneriaeth â’n rhanddeiliaid, gan gynnwys cyfraniad hollbwysig gan bobl awtistig, eu rhieni, a’u gofalwyr, yn ogystal â sefydliadau trydydd sector, ymarferwyr, a gwasanaethau sy’n darparu cymorth. Cynhaliwyd dau ymgynghoriad cyhoeddus ar ein cynigion, a threfnwyd sesiynau briffio technegol i drafod manylion y Cod. Rydym wedi ceisio ymgysylltu â’r holl randdeiliaid ar draws Cymru, gan ofyn am eu sylwadau ynglŷn â’r gwasanaethau a’r cymorth y maent yn awyddus i’w gweld. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i weithio gyda Llywodraeth Cymru, gan roi cyngor ac arweiniad ar y blaenoriaethau ar gyfer y Cod.
Bydd y Cod a’r canllawiau hyn yn cryfhau’r dyletswyddau sy’n bodoli eisoes o ran cefnogi pobl awtistig, fel y’u nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf GIG (Cymru) 2006. Ei nod yw rhoi gwybod i bobl awtistig am y cymorth y gallant ddisgwyl ei gael, a chodi ymwybyddiaeth o anghenion pobl awtistig, eu rhieni, a’u gofalwyr er mwyn eu galluogi i fyw bywydau bodlon. Hefyd, mae’r Cod a’r canllawiau yn darparu cyfeiriad ar gyfer gwasanaethau statudol o ran sut y dylent gynllunio i sicrhau bod gwasanaethau awtistiaeth ar gael, a sut y dylid darparu a monitro’r gwasanaethau hynny.
Yn amodol ar ewyllys y Senedd nesaf, daw’r Cod i rym o 1 Medi 2021, a bydd yn cael ei ategu gan gynllun cyflawni sydd wedi ei ddiweddaru ar gyfer y strategaeth awtistiaeth, a fydd yn cael ei chyhoeddi yn nhymor y Senedd newydd. Bydd y cynllun cyflawni yn cydnabod y pwysau anferth a wynebir gan wasanaethau wrth iddynt fynd ati i adfer o effeithiau’r pandemig COVID-19. Bydd y blaenoriaethau cynnar yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o’r Cod, ac er mwyn cefnogi’r Byrddau Partneriaethau Rhanbarthol, rydym yn rhoi grant o £4,000 i bob rhanbarth i’w helpu i ddatblygu seilwaith awtistiaeth i’w ddefnyddio i sicrhau gwelliannau cynaliadwy. Bydd y rhanbarthau hefyd yn cael eu cefnogi gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, ac arweinwyr lleol ym maes awtistiaeth, a fydd yn gweithio ar y cyd â phobl awtistig i roi cefnogaeth uniongyrchol i’r gwaith o weithredu’r Cod, drwy ddarparu cyngor, hyfforddiant, ac adnoddau.
Bydd ein hymrwymiad cadarn i wella bywydau pobl awtistig ac eraill sydd â chyflyrau niwroamrywiol, yn parhau ac yn datblygu. Rydym hefyd yn cyhoeddi’r adroddiad blynyddol.
ar weithredu’r strategaeth ar gyfer awtistiaeth yn 2019-20, sy’n crynhoi’r cynnydd a wnaed. Er ein bod wedi sicrhau gwelliannau sylweddol, rydym yn cydnabod bod bylchau o hyd yn y ddarpariaeth, a bod angen inni gasglu unrhyw dystiolaeth ac arferion gorau newydd wrth iddynt ddod i’r golwg. Eleni felly, rydym yn cynnal adolygiad o alw a chapasiti mewn perthynas â’r holl wasanaethau niwroddatblygiadol i bob oedran. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall sut y gallwn adeiladu ar elfennau o’r gwasanaethau presennol sydd yn gweithio’n dda, a ble y bydd angen inni gymryd camau i roi sylw i’r bylchau a nodir, er mwyn creu system gynaliadwy sy’n cynnig cymorth ar draws y sectorau.
Byddwn yn cyflawni hyn drwy barhau i weithio mewn partneriaeth â phobl awtistig, eu rhieni, a’u gofalwyr ar draws Cymru yn ystod tymor y Senedd newydd.