Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Roedd Robert Owen yn wneuthurwr tecstilau Cymreig, dyngarwr ac yn ddiwygiwr cymdeithasol a chafodd ei eni yn y Drenewydd, Powys 250 o flynyddoedd yn ôl. Mae syniadau Owen am weithgynhyrchu egwyddorol, addysg ieuenctid a gofal plant cynnar, a phwysigrwydd cymuned yn taro deuddeg gyda ni ddwy ganrif a hanner yn ddiweddarach. Fodd bynnag, o safbwynt syniadau’r ugeinfed ganrif ar hugain, mae'n bwysig bod pobl yn cael cyfle priodol i ddeall ei gysylltiad gyda’r fasnach gaethwasiaeth – dyma ddyn a elwodd ar y sefyllfa, ond a ddaeth yn ymwybodol o’i erchylltra yn y pen draw.
Gan fod 2021 yn nodi 250 o flynyddoedd ers geni Robert Owen, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried coffáu'r diwygiwr cymdeithasol hwn o ganolbarth Cymru. Ar y cyd ag Oriel Davies yn y Drenewydd, ceisiodd y prosiect ymgysylltu â'r gymuned a chychwyn sgwrs gyda thrigolion lleol am natur coffáu.
Yn dilyn cystadleuaeth agored, comisiynwyd yr artist Lisa Heledd Jones i ddatblygu'r prosiect ymgysylltu. Ymgymerodd â'r prosiect ymchwil ac ymgysylltu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a chafodd ei hadroddiad terfynol ei gyflwyno i'r grŵp llywio lleol yn gynharach eleni.
O ganlyniad, mae'n bleser gennyf gadarnhau y bydd pedwar prosiect penodol yn cael eu datblygu i goffáu bywyd Robert Owen.
Y prosiectau y byddwn yn eu cefnogi yw:
• Cerflun parhaol i'w gomisiynu a'i greu gan artist proffesiynol i'w godi yn y Drenewydd;
• Cystadleuaeth cerfluniau lleol i bobl ifanc archwilio bywyd a gwaith Robert Owen;
• Llwybr rhithwir yn y Drenewydd a fydd yn adrodd hanes Robert Owen; A
• Cymorth i ddiweddaru Amgueddfa Robert Owen gan gynnwys arddangosfeydd wedi'u hadnewyddu sy'n rhoi cyfrif eang o'i fywyd, a rhaglen allgymorth i ysgolion gyda swyddog allgymorth penodedig i gyflwyno'r rhaglen.
O ystyried yr archwiliad helaeth i gerfluniau, enwau strydoedd ac adeiladau a gomisiynwyd gan y Prif Weinidog, mae'n bwysig, pan fyddwn yn edrych ar blaciau coffa newydd a phrosiectau hanesyddol yng Nghymru, eu bod yn adlewyrchu pob agwedd o hanes unigolyn waeth pa mor anodd. Mae gwrthwynebiad Robert Owen i ryddfreiniadaeth, a'r defnydd o nwyddau o blanhigfeydd Americanaidd, yn dangos, er gwaethaf y llwyddiannau yn ei hanes, bod ei gyfnod yn un dadleuol. Nid yw ein gwaith yn y Llywodraeth yn ceisio ailysgrifennu hanes, ond ceisio sicrhau ei fod yn cael ei adlewyrchu'n briodol. I ddangos unigolion fel yr oeddent, y da gyda'r drwg
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid o £55,000 i gefnogi'r gwaith hwn.