Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Ar ddechrau mis Mawrth 2020, gwnaethom gyhoeddi'r adroddiad Cynnydd Tuag at Ddatblygu Tirwedd Caffael Newydd yng Nghymru. Roedd yr adroddiad yn nodi'r cynnydd a wnaed i gyflawni Datganiad Ysgrifenedig Caffael 2018 ac ymrwymiadau maniffesto'r Prif Weinidog, yn ogystal ag amlinellu'r siwrnai yr oedd y proffesiwn caffael arni. Pan wnaethom gyhoeddi'r adroddiad hwnnw, ni allem fod wedi rhagweld y flwyddyn a oedd o'n blaenau - canlyniadau pellgyrhaeddol ymadawiad y DU â'r UE a phandemig Covid-19.

Mewn ymateb, bu'n rhaid i'r proffesiwn caffael ymateb i heriau newydd a digynsail. Ni fu cyflwyno caffael effeithiol, cynaliadwy ac yn aml ar frys i ddarparu gwaith, nwyddau a gwasanaethau hanfodol erioed yn fwy pwysig. Bu'n rhaid i ni addasu ac rydym wedi gorfod blaenoriaethu adnoddau. Rwy’n falch o faint rydym i gyd wedi’i gyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wrth ymateb i’r pandemig, er enghraifft trwy ddosbarthu nwyddau achub bywyd hanfodol fel Cyfarpar Diogelu Personol a nwyddau sy’n gwella bywyd fel podiau i ymwelwyr mewn cartrefi gofal.

Yr allwedd i gyflawni hyn i gyd fu trwy gydweithio â'n rhanddeiliaid a'n partneriaid. Rydym wedi datblygu ar berthnasoedd oedd yn bodoli’n barod ac wedi datblygu rhai newydd hefyd. Rydym wedi derbyn awgrymiadau a wnaed mewn adborth i gynhyrchu Datganiad Polisi Caffael Cymru (DPCC) 2021 newydd, a gyhoeddwyd gennym yn gynharach y mis hwn. Mae'r DPCC yn gosod y weledigaeth strategol ar gyfer caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae'n cydnabod y rôl ganolog y gallai caffael cyhoeddus ei chwarae wrth gyflawni amcanion lles a blaenoriaethau polisi blaengar fel datgarboneiddio, gwerth cymdeithasol, buddion cymunedol, gwaith teg, yr economi gylchol a'r economi sylfaenol.

Yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE, rydym yn ystyried sut y byddwn yn diwygio'r rheoliadau caffael cyfredol. Byddwn yn anelu at symleiddio'r fframwaith cymhleth o reoliadau sy'n llywodraethu caffael cyhoeddus ar hyn o bryd. Byddwn bob amser yn ceisio dylanwadu ar y dirwedd gaffael i gyflawni ar gyfer ein cymunedau a'n busnesau.

Gobeithio y bydd y ddogfen hon yn rhoi gwybodaeth i chi a'i bod yn eich helpu i ddeall y daith yr ydym arni, a sut y gallwn gyda'n gilydd gyflawni ein gweledigaeth gyffrous ar gyfer pobl Cymru.

Rebecca Evans AS
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Penawdau

Ymateb i Covid-19

1. Arweiniodd argyfwng Covid-19 ym mis Mawrth 2020 at y ffaith fod y proffesiwn caffael ar draws sector cyhoeddus Cymru wedi cynyddu ei ymdrechion cydweithredol ac wedi ailffocysu adnoddau o ran darparu offer a gwasanaethau hanfodol fel Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) ac Olrhain Cysylltiadau. Trwy gydweithrediad effeithiol ac effeithlon, darparodd ein dull gweithredu werth am arian i'r trethdalwr a sicrhau bod cyflenwadau hanfodol yn cael eu darparu mewn modd amserol.

2. Mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC) sydd o fewn cyfarwyddiaeth Caffael Masnachol Llywodraeth Cymru, yn rheoli dau fframwaith ar gyfer cynhyrchion hanfodol - Cyfarpar Diogelu Personol a deunyddiau glanhau. Mewn ymateb i'r argyfwng, defnyddiwyd y cytundebau hyn yn helaeth i gyflenwi cyflenwadau hanfodol i bob sector gan gynnwys Llywodraeth Leol, y GIG a'r Trydydd sector. Yn ystod yr amser hwn, gweithiodd y tîm yn ddiflino gyda dros 20 o gyflenwyr i nodi ac asesu’r stoc oedd ar gael a thynnu sylw’r sector cyhoeddus gan gynnwys y GIG atynt.

3. Mae'r adborth gan randdeiliaid wedi bod yn gadarnhaol. Mae enghreifftiau yn cynnwys un aelod o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn nodi bod y rhybuddion stoc wedi bod yn hanfodol i'w gallu i gael Cyfarpar Diogelu Personol, gan roi sicrwydd nad oeddent wedi cael eu hanghofio; tra ysgrifennodd Cyngor Sir Gaerfyrddin at ddarparwr yn y GCC, yn diolch iddynt am helpu eu cartref gofal trwy'r argyfwng, gan nodi eu bod fel y 'pedwerydd gwasanaeth brys'.

4. Mewn enghraifft arall, mae cydweithredu rhwng y GCC, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a gwneuthurwr o Gymru wedi sicrhau bod gorchuddion wyneb y gellir eu hailddefnyddio a weithgynhyrchir yng Nghymru wedi cael eu dosbarthu dros dymor hir i ysgolion yng Nghymru trwy ddosbarthwr fframwaith y GCC. Helpodd yr ymyrraeth hon i ffurfio perthynas gref rhwng y gwneuthurwr a'r dosbarthwr a'u partner strategol sydd â'r potensial i greu hyd at 250 o swyddi yng Nghymru. Mae mwy o fanylion am hyn yn yr astudiaeth achos yn Atodiad 3.

5. Sefydlwyd y Tîm Peirianneg Gofynion Cyfarpar Hanfodol (CERET) - grŵp traws-lywodraeth a diwydiant - yn gynnar yn y pandemig i gynorthwyo i ymdrin â phrinder mewn ystod o gynhyrchion gan gynnwys Cyfarpar Diogelu Personol yn y GIG. Roedd Caffael Masnachol yn gyfranogwyr gweithredol yn y tîm Peirianneg Gofynion Cyfarpar Hanfodol ehangach a hyrwyddodd weithio ar y cyd ochr yn ochr â Hwb Gwyddorau Bywyd Llywodraeth Cymru (HGBLlC) wrth adolygu cynigion i ddod o hyd i adnoddau ar gyfer y GIG. Roedd gwaith pellach rhwng y GCC, Hwb Gwyddorau Bywyd Llywodraeth Cymru a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) i ddatblygu papur opsiynau caffael Cyfarpar Diogelu Personol ar y cyd hefyd yn cryfhau perthnasoedd gwaith. Rydym wedi parhau i ddatblygu’r perthnasoedd hyn wrth symud ymlaen â meysydd gwaith pellach.

6. Yn fwy eang, cymerodd timau o fewn y gyfarwyddiaeth Caffael Corfforaethol gamau ar unwaith i adolygu holl weithgaredd caffael Llywodraeth Cymru yng ngoleuni'r achosion, gan ddarparu cyngor ac arweiniad ar weithgaredd caffael gan gynnwys cefnogi cydweithwyr gyda cheisiadau am derfynu contractau yn gynnar ar gyfer contractau yr effeithiwyd arnynt gan Covid-19 ac wrth gymhwyso'r broses rhyddhad i gyflenwyr at gontractau presennol yr effeithiwyd arnynt gan y pandemig.

7. Cefnogodd y tîm caffael Digidol a TGCh sawl gweithgaredd caffael yn uniongyrchol mewn ymateb i Covid-19. Roedd y rhain yn cynnwys caffael Gwasanaeth Presgripsiwn Cenedlaethol, a hwylusodd ddarparu trwyddedau a phresgripsiynau ar gyfer pobl agored i niwed na allent adael eu cartrefi yn ystod pandemig Covid-19. Cefnogodd y tîm hefyd y gwaith o gaffael dangosfwrdd i fonitro achosion ac effeithiau Covid-19 a rhoddodd gefnogaeth i ddod o hyd i liniaduron a dyfeisiau cysylltiedig ar gyfer sefydliadau a oedd angen symud yn gyflym i weithio gartref.

8. Cydweithiodd y tîm Gwasanaethau Caffael Corfforaethol (GCC) â chydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru i gaffael eitemau brys, hanfodol gan gynnwys blychau bwyd ar gyfer y rhai oedd yn cysgodi ledled Cymru, darparu cefnogaeth Iechyd Meddwl i holl weithwyr y GIG, gan gontractio gyda'r Post Brenhinol ar gyfer dosbarthu presgripsiynau, darparu cymorth o ran caffael i dîm CERET, prynu Podiau Ymwelwyr ar gyfer Cartrefi Gofal (mwy o fanylion yn atodiad 7) a chefnogi cydweithwyr i sefydlu gofynion cytundebol Llywodraeth Cymru ar gyfer Teithio Rhyngwladol a Chwarantîn.

Datganiad Polisi Caffael Cymru

9. Ym mis Mawrth 2021 gwnaethom gyhoeddi Datganiad Polisi Caffael Cymru (DPCC) diwygiedig. Dyma'r trydydd DPCC sy'n gosod y weledigaeth strategol ar gyfer caffael y sector cyhoeddus yng Nghymru ac mae wedi'i ysgrifennu mewn partneriaeth â'n rhanddeiliaid.

10. Bydd DPCC yn helpu i ddiffinio ein cynnydd yn erbyn y nodau llesiant yr ydym yn anelu atynt ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan roi Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth galon yr holl benderfyniadau caffael a'n cefnogi i gyflawni'r 'Gymru yr ydym yn dymuno ei gweld' . Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i sicrhau ein bod yn atal problemau ac yn meddwl am y tymor hir, wrth wneud y mwyaf o gyfleoedd i ddarparu lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.

11. Yr allwedd i gyflawni'r DPCC fydd trwy gydweithio parhaus. Byddwn yn adolygu ac yn adnewyddu'r Datganiad yn rheolaidd gyda phartneriaid i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn adlewyrchiad cywir o'n huchelgais a rennir ar gyfer caffael cyhoeddus yng Nghymru.

12. Byddwn yn datblygu cynllun gweithredu i danategu cyflawni hyn yn erbyn egwyddorion y Datganiad a gyhoeddir ar ein gwefan. Rydym yn annog sefydliadau prynu, naill ai'n unigol neu fel rhan o gydweithrediad, i ddatblygu a chyhoeddi eu cynlluniau gweithredu eu hunain gan fanylu ar sut y byddant yn cefnogi cyflwyno blaenoriaethau ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.

13. Bydd canllawiau statudol arfaethedig Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn ystyried y Datganiad a'r cynlluniau gweithredu cysylltiedig, gan roi dyletswydd ar awdurdodau contractio i gyflawni canlyniadau sy’n gyfrifol o safbwynt cymdeithasol trwy gaffael sy'n gosod gwaith teg a gwerth cymdeithasol yn y canol yn hytrach na chanolbwyntio'n llwyr ar sicrhau arbedion ariannol.

Ymadael â’r UE 

14. Rydym wedi gwneud gwaith sylweddol dros y tair blynedd diwethaf i baratoi ar gyfer gadael yr UE, yn enwedig mewn perthynas â'r posibilrwydd o Brexit heb fargen. Roedd hyn yn cynnwys gweithio gyda Llywodraeth y DU, sector cyhoeddus Cymru ac adrannau ar draws Llywodraeth Cymru i fonitro a rheoli risgiau sy'n gysylltiedig â chyflenwad. Roedd hyn yn cynnwys helpu i sicrhau parhad cyflenwad cynhyrchion critigol fel meddyginiaethau a chynhyrchion meddygol i bob rhan o'r DU.

15. Yn 2020, wrth inni agosáu at ddiwedd y Cyfnod Trosglwyddo, roedd llinyn allweddol o waith yn cynnwys dod â deddfwriaeth gaffael yr UE i gyfraith y DU trwy Offeryn Statudol (OS). Buom yn gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod yr OS wedi'i osod o flaen y Senedd a'i gyflawni’n llwyddiannus ar 19 Tachwedd 2020. Mae hyn wedi helpu i ddod â sicrwydd i brynwyr a chyflenwyr.

16. Roedd maes gwaith allweddol arall yn cynnwys datblygu system e-hysbysu newydd o'r enw Gwasanaeth Canfod Tendr (FTS) i ddisodli'r OJEU / TED (lle mae cyfleoedd caffael uwchlaw'r trothwy yn cael eu hysbysebu ledled yr UE). Arweiniodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y gwaith o ddatblygu’r FTS a bu swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau y gallai GwerthwchiGymru gyhoeddi hysbysiadau i’r FTS newydd a hefyd sicrhau bod fersiwn Gymraeg o’r system FTS ar gael.

17. Mae Fframwaith Cyffredin ar gyfer caffael cyhoeddus wedi'i ddrafftio trwy drafodaethau adeiladol rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r Gweinyddiaethau Datganoledig eraill. Mae hyn yn darparu mecanwaith lle bydd pedair llywodraeth y DU yn delio â materion polisi'r DU a rhyngwladol sy'n ymwneud â chaffael cyhoeddus. Mae'r pedair llywodraeth wedi cytuno i ddilyn ysbryd y Fframwaith Cyffredin cyn ei gymeradwyo’n derfynol y disgwylir iddo ddigwydd yn 2022.

18. Daeth y DU yn aelod o Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd (WTO) ar Gaffael y Llywodraeth (GPA) ar 1 Ionawr 2021. Yn flaenorol roedd yn aelod trwy ei aelodaeth o'r UE. Bydd cynnal cyfranogiad y DU yng Nghytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gaffael y Llywodraeth yn sicrhau bod busnesau'r DU yn parhau i gael mynediad at farchnadoedd caffael llywodraethau rhyngwladol sy'n werth dros £1.3 triliwn yn flynyddol ar ôl i'r DU adael yr UE.

Diwygio caffael

19. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried diwygio’r rheoliadau caffael cyfredol yn sylfaenol er mwyn cynyddu budd caffael yn y sector cyhoeddus i economi a chymdeithas Cymru.

20. Bydd diwygio caffael yn ein galluogi, ymysg pethau eraill, i symleiddio'r fframwaith cymhleth o reoliadau sy'n llywio caffael cyhoeddus. Wrth wneud hynny, byddwn yn ceisio dylunio rhywbeth sy'n sicrhau canlyniadau ehangach i'n cymunedau a'n busnesau, yn enwedig wrth inni ddechrau dod atom ein hunain yn dilyn pandemig Covid-19.

21. Er mwyn deall y ffordd orau ymlaen ar gyfer diwygio caffael yng Nghymru, gwnaethom ymgysylltu â'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i ddeall eu hawydd am y posibilrwydd o ddiwygio caffael yng Nghymru a'r cynigion a amlinellir ym Mhapur Gwyrdd Llywodraeth y DU.

22. Yn ogystal â’r sesiynau ymgysylltu darparwyd arolwg ar-lein a oedd yn canolbwyntio ar gwestiynau oedd yn ymwneud yn benodol â thirwedd caffael yng Nghymru. Helpodd yr adborth i lywio penderfyniad Gweinidogion Cymru ynghylch y ffordd ymlaen ar gyfer diwygio caffael yng Nghymru.

23. Yn ddiweddar, mae Gweinidogion Cymru wedi gofyn i Lywodraeth y DU am amser ychwanegol i wneud y penderfyniad ffurfiol ynghylch a ddylent ganiatáu i Lywodraeth y DU ymgymryd â deddfwriaeth sylfaenol ar gaffael ar gyfer Awdurdodau Contractio Cymru. Bydd fy swyddogion yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddeall y Bil drafft yn well a'i oblygiadau ar Awdurdodau Contractio Cymru. Bydd Llywodraeth newydd Cymru yn gwneud penderfyniad gwybodus am y ffordd ymlaen yn gynnar yn y tymor newydd.

Mynd â Chaffael yn ei Flaen: datblygiadau parhaus

Gallu a Chapasiti

24. Wrth i'r proffesiwn geisio ymdrin â thirwedd gynyddol gymhleth, mae gallu a chapasiti o fewn y swyddogaeth caffael cyhoeddus wedi parhau i fod yn broblem. Mewn ymateb, datblygwyd rhaglen ddatblygu gynhwysfawr mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid i gynyddu cynaliadwyedd a thwf tymor hir y proffesiwn. Mae'r rhaglen integredig hon wedi cynnwys noddi staff o bob rhan o sector cyhoeddus Cymru i ymgymryd â hyfforddiant CIPS gan gynnwys:

  • Ariannu 52 o unigolion o bob rhan o sector cyhoeddus Cymru i ymgymryd â rhaglenni Ymarferwyr ac Ymarferwyr Uwch Gwobr Gorfforaethol CIPS. Mae'r unigolion i gyd wedi ymrwymo i aros yn sector cyhoeddus Cymru dros y tymor hir (mae mwy o fanylion yn atodiad 6)
  • Mae pedwar myfyriwr yn eu blwyddyn olaf ond un o'u cwrs Logisteg, y Gadwyn Gyflenwi a Chaffael ym Mhrifysgol De Cymru yn cael cynnig lleoliadau blwyddyn mewn adrannau caffael ledled Cymru gan gynnwys Llywodraeth Cymru.

25. Bydd hyn yn datblygu ar y rhaglenni hyfforddi a'r cyfleoedd sydd eisoes yn bodoli o fewn sector cyhoeddus ehangach Cymru. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru yn treialu cyfleoedd dyrchafu cyfunol, i'r proffesiwn caffael yn benodol, sy'n rhoi cyfle i weithwyr proffesiynol caffael ddatblygu a chael eu dyrchafu o fewn y maes arbenigedd allweddol hwn.

26. Mae datblygiad ehangach y proffesiwn yn cael ei ddatblygu trwy weithredu cyfres o fodiwlau e-Ddysgu masnachol craidd. Rydym hefyd wedi cynnal trafodaethau cynnar i archwilio opsiynau i sefydlu rhaglen brentisiaeth gaffael genedlaethol a'r posibilrwydd o raglen fentora gaffael i Gymru.

Gweithgareddau Caffael Masnachol

27. Mae cydweithredu yn parhau i fod wrth wraidd darparu gwasanaethau yn y sector cyhoeddus yn effeithiol sy'n adlewyrchu gofynion lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn parhau i weithio'n agos gyda sector cyhoeddus Cymru, CLlLC a GIG Cymru, i leihau nifer y fframweithiau cenedlaethol. Mae'r cynllun contractau cenedlaethol bellach yn eistedd ochr yn ochr â rhaglen ranbarthol Llywodraeth Leol ac mae gwaith bellach ar y gweill i ddatblygu cynllun cydweithredol cenedlaethol traws-sector ehangach.

28. Bydd hyn yn helpu i gynyddu gweithgaredd ar y fframwaith ar draws dulliau cenedlaethol a rhanbarthol, cael gwared ar ddyblygu a rhoi cyhoeddusrwydd gwell i gyfleoedd ar ochr gyflenwi Cymru yn y dyfodol.

29. O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r Gwasanaethau Caffael Corfforaethol yn parhau i gefnogi gweithgaredd caffael ar draws y sefydliad gan gynnwys ein Fframwaith Dysgu a Datblygu, y Fframwaith Argraffu, Fframwaith Gwaith CADW; Fframwaith Ymgynghoriaeth Adeiladu CADW, Prentisiaethau a Thwf Swyddi Cymru, Ymchwil Polisi a Gwerthusiadau.

30. Mae'r Gwasanaethau Caffael Corfforaethol yn darparu cymorth caffael pwrpasol ar gyfer seilwaith i’r swyddi Rheoli Ffiniau, gan weithio gyda chydweithwyr ar brosiect gwerthu tir cyffrous sy'n gobeithio darparu o leiaf 50% o dai fforddiadwy, y bydd yn rhaid i isafswm o 35% ohonynt (o'r holl unedau a ddatblygir) fod yn rhai sy’n cael eu rhentu'n gymdeithasol. Maent hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr i ddrafftio canllawiau ar gyfer y model cyllido rhanbarthol newydd a'r cyfnod trosglwyddo ar ôl ymadael â’r UE.

E-Gaffael

31. Crëwyd y Cynllun Gweithredu Digidol ar gyfer e-Gaffael ym mis Hydref 2019. Roedd y gweithgareddau dechreuol yn canolbwyntio ar gyflawniadau penodol:

  • Cyflwynwyd Llofnodion Digidol ar gyfer ein contractau yn eDendro Cymru. Treialwyd hyn yn llwyddiannus ac ers hynny fe'i mabwysiadwyd gan y tîm caffael Digidol a TGCh o fewn Llywodraeth Cymru. Roedd mabwysiadu hyn wedi digwydd ar yr amser iawn ychydig cyn Covid-19 (mwy o fanylion yn yr astudiaeth achos yn Atodiad 2). Ar hyn o bryd rydym yn trafod gyda sawl sefydliad sut y gallant hwythau hefyd ddefnyddio'r swyddogaeth hon.
  • Ychwanegwyd swyddogaeth anfonebu electronig at wasanaeth eDendroCymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn ei gwneud hi'n haws i sefydliadau dderbyn a phrosesu anfonebau electronig.
  • Dechreuwyd ar waith hefyd i edrych ar sut y gellid gwella profiad y defnyddiwr rhwng GwerthwchiGymru ac eDendroCymru. Canolbwyntiodd hyn ar yr ESPD (Dogfen Caffael Sengl Ewropeaidd).

32. Cafodd gweithgaredd pellach ar y Cynllun ei oedi ym mis Mawrth 2020 oherwydd argyfwng y pandemig a chafodd ei ailgychwyn ym mis Hydref. Ers hynny, y flaenoriaeth fu ymgorffori'r cynllun gweithredu e-Gaffael yn rhan o Strategaeth Ddigidol ehangach i Gymru y mae caffael yn un elfen ohoni. Mae hyn bellach wedi'i gwblhau ac mae'r tîm yn gweithio gyda'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol sydd newydd ei sefydlu i greu iteriad nesaf y Cynllun Gweithredu Digidol e-Gaffael.

33. Mae'r tîm caffael Digidol a TGCh yn parhau i gefnogi'r cymunedau digidol a TGCh, o fewn Llywodraeth Cymru ac ar draws sector cyhoeddus Cymru. Dyfarnwyd cenhedlaeth dau o'r fframwaith Cynhyrchion a Gwasanaethau TG llwyddiannus iawn, sy'n fframwaith caledwedd a meddalwedd cenedlaethol gwerth £300m, ym mis Mehefin 2020. Ail-dendrwyd platfform dysgu ar-lein Hwb, sydd bellach wedi dod yn rhan annatod o ddysgu gartref, ynghyd â sawl contract cymorth busnes ac economaidd hanfodol. Mae'r symud i weithio gartref wedi arwain at gynnydd sylweddol yn ein defnydd o dechnoleg ddigidol sydd fel rheol yn golygu costau uwch. Llwyddwyd i wrthbwyso rhai o'n costau cynyddol yn erbyn arbediad o 15% oddi ar ein prisiau Microsoft Cloud trwy fanteisio ar Gytundeb Prisio Azure newydd.

Datblygu polisi 

34. Gall caffael cyhoeddus chwarae rhan ganolog wrth gyflawni blaenoriaethau polisi blaengar sy'n amrywio o ddatgarboneiddio, i werth cymdeithasol a buddion cymunedol, yr economi gylchol a'r economi sylfaenol. Mae'r polisïau hyn yn helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd, a chefnogi swyddi a hyfforddiant wrth helpu'r rhai mwyaf agored i niwed. Maent hefyd yn ein helpu i gyflawni ein nodau mewn perthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. 

35. Datblygwyd Buddion Cymunedol ar gyfer sector cyhoeddus Cymru i ymdrin â diffiniad ehangach o werth am arian yn hytrach na chanolbwyntio'n llwyr ar sicrhau arbedion ariannol a chael y pris isaf am y nwyddau, y gwasanaethau neu'r gwaith sy'n cael ei gaffael. 

36. Mae Themâu, Canlyniadau a Mesurau Cymru (TOMs) wedi'u datblygu fel esblygiad yn ein dull o sicrhau gwerth cymdeithasol ehangach. Mae'n ymgorffori holl ofynion Pecyn Cymorth y Buddion Cymunedol ac fe'i cynlluniwyd i ganiatáu i sefydliadau asesu eu cyfraniad o ran gwerth cymdeithasol i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

37. Gallai Themâu, Canlyniadau a Mesurau Cymru sicrhau buddion mesuradwy ar draws y gyrwyr polisi canlynol Gwaith Teg, Economi Sylfaenol, Buddion Cymunedol, Datblygu Cyfoeth Cymunedol, Economi Gylchol, a Datgarboneiddio. Yn ogystal, gellir eu haddasu i gofleidio gyrwyr polisi yn y dyfodol fel Partneriaethau Cymdeithasol.

38. Mae'r pecyn cymorth a gafodd ei lansio'n swyddogol ym mis Hydref 2020 ar gael am ddim i sector cyhoeddus Cymru i'w fabwysiadu a'i ddefnyddio. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn treialu'r defnydd o Themâu, Canlyniadau a Mesurau Cymru ac mae nifer o sefydliadau, yn enwedig o fewn Llywodraeth Leol, yn trosglwyddo neu'n bwriadu trosglwyddo o ddefnyddio Buddion Cymunedol i ddefnyddio Themâu, Canlyniadau a Mesurau Cymru. 

39. Mae angen defnyddio pecyn cymorth Themâu, Canlyniadau a Mesurau Cymru trwy blatfform cynnal i ddarparu'r budd mwyaf a dangos canlyniadau mesuradwy ac mae goblygiadau cost ynghlwm wrth hyn. Mae'r gyfarwyddiaeth Caffael Masnachol wedi cynnal arolwg byr gyda'r sector cyhoeddus i ddeall yn well pa gefnogaeth sydd ei hangen gan Lywodraeth Cymru i helpu'r sector cyhoeddus i sicrhau canlyniadau Gwerth Cymdeithasol. Rydym yn gwrando ar ein rhanddeiliaid ac yn datblygu arfarniad opsiynau i gytuno ar y ffordd ymlaen.

Ymgysylltu a chyfathrebu

40. Fe wnaethom ymateb yn gyflym i heriau Covid-19; yr angen i gaffael nwyddau a gwasanaethau hanfodol i Gymru a chyfleu negeseuon brys i'n rhanddeiliaid.

41. Fe wnaethom sefydlu blwch post Covid-19 ar ddechrau'r pandemig a welodd draffig sylweddol trwy gydol mis Mawrth, Ebrill a dechrau Mai 2020 gyda gweithgaredd sylweddol yn cael ei gynnal i adolygu'r llu o gynigion ac ymholiadau a gododd. Rydym wedi mabwysiadu dull hyblyg o gynhyrchu ein cylchlythyr misol ac wedi ei gynhyrchu’n amlach pan fyddai angen i ni gyfathrebu negeseuon brys. Ategwyd hyn gan ddefnydd cynyddol o'n sianeli cyfryngau cymdeithasol a diweddariadau e-bost wedi'u targedu at randdeiliaid pan fo angen.

42. Yn fwy diweddar, rydym wedi bod yn ceisio gwella ein presenoldeb ar y we. Mae Nodiadau Cyngor Caffael Cymru wedi cael eu disodli gan Nodiadau Polisi Caffael Cymru ac mae'r rhain i gyd wedi'u grwpio gyda'i gilydd ar ein gwefan. Rydym hefyd wedi datblygu ardal lle gallwn rannu enghreifftiau o arfer gorau ar ein gwefan.

43. Rydym wedi adeiladu ar y perthnasoedd presennol â rhanddeiliaid yn ein hymateb i'r pandemig ac wedi parhau i ymgysylltu'n agos â hwy wrth ddatblygu Datganiad Polisi Caffael Cymru ac ar ddiwygio caffael.

Y ffordd rydyn ni'n gweithio

44. Mae ein strwythur wedi parhau i esblygu dros y flwyddyn ddiwethaf wrth i ni drosglwyddo gwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a thimau Gwerth Cymru i wasanaeth cyflenwi masnachol newydd. Bu'n rhaid i ni ymateb yn gyflym i'r gofynion a osodwyd arnom gan Covid-19 ac ailffocysu ein hadnoddau. Rydym hefyd wedi sefydlu tîm Diwygio Caffael dros dro newydd i arwain ar y maes gwaith blaenoriaeth hwn. Yn ogystal, er ein bod yn aros am benodi ein Cyfarwyddwr newydd, rydym wedi gwneud rhai mân newidiadau strwythurol i wella'r ffordd yr ydym yn gweithio ac wedi creu tîm gweithrediadau newydd.

Y dyfodol

45. Mae'r heriau a ddaeth yn sgil y pandemig wedi bod yn ddifrifol. Ond trwy weithio'n agosach ac yn fwy effeithiol gyda'n partneriaid ar draws y sector cyhoeddus, gyda'n gilydd rydym wedi cyflawni llawer yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rydym yn cydnabod, fodd bynnag, bod mwy i'w wneud o hyd i wella tirwedd caffael sector cyhoeddus Cymru ac rydym yn gwybod y gallwn gyflawni mwy trwy weithio a dysgu ar y cyd yn effeithiol.

46. Credwn fod gennym gyda'n gilydd sylfaen gadarn i adeiladu arni a pharhau i wella. Mae ein dull cydweithredol wedi sefydlu sylfeini cryf lle mae gwerth caffael fel ysgogiad strategol ar gyfer newid cadarnhaol wedi'i gydnabod. 

47. Mae Datganiad Polisi Caffael Cymru newydd yn darparu'r weledigaeth strategol ar gyfer caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Bydd yn helpu i ddiffinio cynnydd yn erbyn y nodau llesiant yr ydym ar y cyd yn eu dilyn i sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd parhau i gydweithio yn allweddol i'w gyflawni. 

48. Wrth i ni ystyried argymhellion adolygiad Adran 20 diweddar Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol o Gaffael, rydym yn awyddus i archwilio cyfleoedd pellach i ddatblygu model cydweithredol cryfach ar gyfer caffael cyhoeddus yng Nghymru, a byddwn yn archwilio sut y gallai hynny weithio gyda'n partneriaid.

Astudiaethau achos