Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi dyfarniad grant o ychydig dros £5.2 miliwn o gyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru i 70 o brosiectau Dechrau'n Deg ledled Cymru i helpu i wella, datblygu neu ymestyn y lleoliadau lle cynigir darpariaeth Dechrau'n Deg.
Mae'r cyllid hwn yn rhan o fuddsoddiad sylweddol a pharhaus yn seilwaith ein rhaglen arloesol ar gyfer y blynyddoedd cynnar a bydd yn galluogi Awdurdodau Lleol i greu cyfleusterau newydd, gwneud gwelliannau i adeiladau a gwneud gwaith atgyweirio hanfodol. Bydd y grant hefyd yn cefnogi gwasanaethau Dechrau'n Deg i ddod yn fwy diogel o ran Covid yn ystod 2021-2022 drwy ariannu'r adnoddau cyfalaf angenrheidiol sydd eu hangen i gefnogi ymbellhau cymdeithasol, i greu gwell mynediad ac i gynorthwyo cyfathrebu rhithwir gyda phlant a theuluoedd.
Mae'r arian ychwanegol hwn yn dod â chyfanswm ein buddsoddiad cyfalaf am ein rhaglen Dechrau'n Deg i bron £76m ers 2006.
Mae Dechrau'n Deg yn cefnogi teuluoedd sy'n byw yn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig ledled Cymru. Mae'n cynnig deuddeg awr a hanner yr wythnos o ofal plant o ansawdd uchel sy'n cael ei ariannu'n llawn i blant 2-3 oed; cefnogaeth i ddatblygu lleferydd, iaith a chyfathrebu plant; cymorth rhianta; a gwasanaeth ehangach gan ymwelwyr iechyd.
Dyfernir cyllid i'r 19 Awdurdod Lleol yng Nghymru a wnaeth gyflwyno cais am y grant eleni.
Edrychaf ymlaen at weld y datblygiadau a’r gwaith i gefnogi'r darpariaeth gwasanaethau i blant a theuluoedd yn yr ardaloedd y mae Dechrau'n Deg yn eu gwasanaethu.