Daeth yr ymgynghoriad i ben 23 Gorffennaf 2018.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r crynodeb o ymatebion bellach ar gael.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem glywed eich barn ynghylch newidiadau arfaethedig i'r modd y caiff gwaith datblygu'r seilwaith ei gymeradwyo, a hynny yn dilyn rhoi pwerau newydd i Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Cymru 2017.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Deddf Cymru 2017 yn datganoli pwerau i Weinidogion Cymru o safbwynt:
- cymeradwyo gorsafoedd cynhyrchu trydan hyd at 350MW, ar y tir ac ar y môr a llinellau trydan cysylltiedig uwchben, hyd at a chan gynnwys 132KV
- newid cyfraith bresennol a chyflwyno cyfraith newydd ar gyfer rheoli harbyrau, adeiladu harbyrau newydd a chreu awdurdodau harbwr
- trwyddedau morol
- gwarchod natur morol ar y môr.
Hoffem annog gwaith cyflenwi seilwaith cynaliadwy a thwf 'gwyrdd', yn ogystal â sicrhau bod ein hymrwymiadau'n cael eu bodloni o safbwynt cynnwys y gymuned, amrywiaeth ynni, allyriadau carbon a diogelwch cyflenwadau.
Hoffem glywed eich barn ynghylch y canlynol:
- ein cynigion ar gyfer sefydlu proses newydd o safbwynt cymeradwyo gwaith datblygu'r seilwaith yng Nghymru
- trefniadau pontio hyd nes y bydd proses newydd o gymeradwyo gwaith datblygu'r seilwaith yn ei lle
- diwygiadau i gamau prynu gorfodol yng Nghymru.