Sut mae Cymru yn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd trwy fframwaith targedau a chyllidebau carbon.
Cynnwys
Llwybr sero net
Ym Mawrth 2021 cymeradwyodd Senedd Cymru targed sero net ar gyfer 2050. Mae sero net yn golygu cydbwyso allyriadau nwyon tŷ gwydr â’r nifer o nwyon sy’n cael eu dal o’r atmosffer.
Mae gan Gymru targedau interim hefyd, ar gyfer 2030 a 2040, yn ogystal â chyfres o gyllidebau carbon. Parodd y gyllideb garbon cyntaf o 2016 i 2020. Mae rhaid i ni osod cyllideb garbon o leiaf pum mlynedd cyn dechrau’r cyfnod cyllideb. Mae’r targedau a chyllidebau carbon yn ffurfio fframwaith statudol Cymru. Maen nhw’n cynnwys rhan Cymru o’r allyriadau sy’n dod o hedfan rhyngwladol a morgludiant rhyngwladol.
Ar gyfer pob cyllideb garbon, rydym ni’n gorfod gosod terfyn ar faint o gredydau carbon sy’n cael eu defnyddio. Mae terfyn o 0% yn golygu bod Cymru yn gorfod cyflawni’r gyllideb garbon trwy weithredu yng Nghymru.
Cyllideb/targed | Amcan |
---|---|
Cyllideb garbon 2 (2021-2025) | Lleihad ar gyfartaledd o 37% |
Cyllideb garbon 2 – terfyn credyd | 0% |
Cyllideb garbon 3 (2026-2030) | Lleihad ar gyfartaledd o 58% |
Targed 2030 | Lleihad o 63% |
Targed 2040 | Lleihad o 89% |
Targed 2050 | Lleihad o 100% o leiaf (sero net) |
Mae rhaid i ni ystyried cyngor Pwyllgor Newid Hinsawdd (CCC) cyn gosod neu newid targed neu gyllideb garbon. Mae rhaid i ni ystyried nifer o adroddiadau ac elfennau eraill hefyd, yn cynnyws gwybodaeth wyddonol am newid hinsawdd.
Rydym yn mesur targedau a chyllidebau carbon yn erbyn y flwyddyn waelodlin sy wedi cael ei gosod mewn deddfwriaeth Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae’r flwyddyn yn dibynnu ar y nwy, naill ai 1990 neu 1995.
Cyflawni’r cyllidebau carbon
Mae rhaid i ni gyhoeddi cynllun ar gyfer pod cyfnod cyllideb sy’n cynnwys ein polisiau a chynigion er mwyn cyflawni’r gyllideb garbon. Mae rhaid i ni gyhoeddi’r cynllun cyn diwedd y flwyddyn gyntaf o’r cyfnod cyllideb.
Cymru Sero Net yw'r cynllun ar gyfer yr ail gyllideb garbon.
Arolygu cynnydd
Mae data allyriadau terfynol ar gael tua 18 mis ar ôl diwedd y flwyddyn. Er enghraifft, bydd data allyriadau 2020 terfynol ar gael yn ystod yr haf 2022.
Mae rhaid i ni gyhoeddi datganiad ar gyfer pob targed cyn diwedd yr ail flwyddyn sy’n dilyn y flwyddyn targed. Mae hyn yn golygu bod rydym ni’n gorfod cyhoeddi datganiad ar gyfer y targed 2020 cyn diwedd 2022.
Mae rhaid i ni gyhoeddi datganiad ar gyfer pob cyllideb garbon cyn diwedd yr ail flwyddyn sy’n dilyn y cyfnod cyllideb. Mae hyn yn golygu bod rydym ni’n gorfod cyhoeddi datganiad ar gyfer y cyllideb garbon cyntaf (2016-20) cyn diwedd 2022.
O fewn chwe mis o’r datganiadau, mae rhaid i’r CCC gyhoeddi adroddiad cynnydd. O fewn chwe mis o’r adroddiad y CCC, mae rhaid i ni gyhoeddi ymateb i’r pwyntiau a godwyd gan yr adroddiad.