Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg
Heddiw, rwy’n cyhoeddi Cynllun Gweithredu Cymraeg 2050 ar gyfer 2021-22. Mae’r ddogfen hon yn disgrifio sut y byddwn yn parhau i weithredu amcanion strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr yn ystod 2021-22.
Mae’r Cynllun Gweithredu yn adlewyrchu hefyd y camau sydd wedi’u cynnwys yn Rhaglen Waith 2017-2021 Cymraeg 2050, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r strategaeth ac sy’n amlinellu’r camau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd yn ystod pedair blynedd cyntaf y strategaeth. Y bwriad yw i’r rhaglenni gwaith sy’n deillio o Cymraeg 2050 gyd-fynd â thymhorau’r Senedd, felly â ninnau’n agosáu at ddiwedd y Senedd bresennol, dyma fydd y cynllun gweithredu blynyddol olaf ar gyfer y cyfnod cychwynnol hwn.
Mae Rhaglen Waith 2017-2021, a’r cynlluniau gweithredu blynyddol perthnasol, wedi gwneud llawer i osod y sylfeini a symud y tir wrth i ni weithio ar y ddau brif darged a ganlyn:
-
Nifer y siaradwyr Cymraeg i gyrraedd 1 miliwn erbyn 2050.
-
Canran y boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd, ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg, i gynyddu o 10 y cant (yn 2013–15) i 20 y cant erbyn 2050.
Ond mae tipyn wedi newid ers lansio Cymraeg 2050 – nid yn unig y pethau amlwg, dramatig fel y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a COVID-19 yn torri mor sydyn ar draws bywyd pob dydd, ond hefyd y cyd-destun ieithyddol. Yr her i’r Llywodraeth nesaf fydd parhau i adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yma, ymateb i’r newidiadau o’n cwmpas ac achub ar pob cyfle newydd wrth fynd â’r gweithredu i’r lefel nesaf.
Un o dasgau cyntaf y Llywodraeth nesaf felly fydd ymgynghori’n helaeth ar y Rhaglen Waith ddrafft nesaf ar gyfer 2021-26, gan wahodd safbwyntiau mor eang â phosib ar y cynlluniau. Tan hynny, bydd y Llywodraeth yn parhau i weithredu’n unol â’r egwyddorion a nodwyd yn Cymraeg 2050, a’r camau sydd yn y Cynllun Gweithredu diweddaraf hwn.