- Parhau i ddarparu cymorth drwy hyfforddiant sgiliau ac ymwybyddiaeth sy'n gwella gwasanaethau digidol wrth gyflwyno dysgu ac yn nodi cyfleoedd i wneud mwy.
- Parhau i gynnig darpariaeth TG a phrentisiaethau digidol helaeth yng Nghymru ar lefel is-radd a gradd.
- Adolygu gwaith presennol y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, megis adroddiadau Covid-19, ar gyfer gwybodaeth am ofynion sgiliau digidol yng Nghymru.
- Parhau i gyflwyno’r rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol sy’n darparu cyrsiau digidol i unigolion cyflogedig sydd am ennill mwy o sgiliau neu rai newydd er mwyn gwella eu cyfleoedd o ran gyrfa ac yn gysylltiedig â gwaith.
- Parhau i gefnogi ysgolion i ddarparu cymhwysedd digidol fel sgil drawsgwricwlaidd sydd wrth galon y cwricwlwm i Gymru ac i baratoi dysgwyr i fod yn ddinasyddion digidol effeithiol a da, gan wella eu cyfleoedd o ran gyrfa ac yn gysylltiedig â gwaith.
- Parhau i gefnogi ysgolion gyda'r Daith Dysgu Proffesiynol Digidol a helpu arweinwyr, athrawon a dysgwyr i ddatblygu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ymddygiadau, gan gynnwys eu cadw'n ddiogel ar-lein.
|
- Ystyried y materion a'r blaenoriaethau allweddol ar gyfer dysgu digidol a dysgu cyfunol yn y sectorau Addysg Bellach a Dysgu Oedolion yn y Gymuned a chyfleoedd i adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn ystod pandemig Covid-19.
- Datblygu cefnogaeth ar gyfer cynlluniau bŵt-camp digidol drwy gyllid arloesi.
- Cynnal peilot ar gyfer prosiect Prentisiaeth a Rennir digidol newydd a gwerthuso deilliannau.
- Gweithio gyda Phartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol i lunio eu gwaith ar sgiliau digidol wrth iddynt ddatblygu atodiad sgiliau digidol i'w cynlluniau cyflogaeth a sgiliau tair blynedd sydd ar y gweill, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â gofynion polisi.
- Ehangu’r ystod o gymwysterau digidol newydd ar gyfer darparu drwy Gyfrifon Dysgu Personol.
- Adolygu a datblygu’r fframwaith cymhwysedd digidol i sicrhau y gall dysgwyr ledled Cymru ffynnu mewn byd sy’n newid drwy’r amser.
- Adolygu ac esblygu effeithiolrwydd y Daith Dysgu Proffesiynol Digidol i sicrhau bod gan arweinwyr, athrawon a dysgwyr y sgiliau, yr wybodaeth a'r agweddau a fydd yn eu galluogi i ddefnyddio digidol a thechnoleg yn hyderus ac yn greadigol.
|
- Adolygu ac ystyried cynnwys prentisiaethau i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol i anghenion cyflogwyr. Bydd hyn yn cynnwys ystyried ehangu'r cynnwys i ddiwallu anghenion sefydliadau'r sector cyhoeddus.
- Parhau i weithio gyda Phartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol i gryfhau ymhellach eu dull o gasglu gofynion sgiliau digidol a chynyddu buddsoddiad cyflogwyr mewn sgiliau digidol.
|