Mae Llywodraeth Cymru yn rhyddhau £1.5m i swyddogion canlyniadau i alluogi iddynt wneud gorsafoedd pleidleisio ar gyfer etholiad y Senedd yn ddiogel o ran COVID.
Mae’r cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i sicrhau’r staff a’r offer ychwanegol sydd ei angen er mwyn diogelu iechyd staff a’r cyhoedd.
Bydd pleidleiswyr sy’n mynd i orsafoedd pleidleisio yn gweld llawer o’r mesurau diogelu y maent yn awr yn gyfarwydd â’u gweld mewn lleoliadau eraill. Bydd hylif diheintio dwylo ar gael, a bydd sgriniau, marciau cadw pellter cymdeithasol a rhwystrau diogelwch yn cael eu defnyddio fel sy’n briodol.
Yn ogystal, dylai’r holl bleidleiswyr a staff wisgo gorchudd wyneb (oni bai eu bod wedi’u heithrio), a bydd rhaid cadw pellter cymdeithasol y tu mewn a’r tu allan i’r gorsafoedd pleidleisio. Er y bydd pleidleiswyr yn cael eu hannog i ddod â’u beiro neu bensil eu hunain i farcio eu papurau pleidleisio, bydd pensiliau glân ar gael.
Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James:
“Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod heriau cynnal etholiad yn ystod y pandemig presennol.
“Bydd yr £1.5m ychwanegol o gyllid yr ydym yn ei ryddhau yn helpu i sicrhau bod gorsafoedd pleidleisio yn ddiogel o ran COVID ar gyfer staff a phleidleiswyr. Mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer cyfarpar diogelu personol, marciau cadw pellter cymdeithasol, deunyddiau glanhau, a staff ychwanegol i reoli’r gorsafoedd pleidleisio.”
Ychwanegodd y Gweinidog:
“Mae pob un ohonom yn ymwybodol pa mor anodd y mae wedi bod i sicrhau parhad gwasanaethau hanfodol yr awdurdodau lleol dros y flwyddyn ddiwethaf. Nid yw gweinyddwyr etholiadol a swyddogion canlyniadau yn eithriad i hyn ac maent wedi bod yn gweithio’n ddiflino mewn amgylchedd heriol sy’n newid yn gyson i baratoi ar gyfer yr etholiadau hyn ac i sicrhau hyder y cyhoedd yn ein democratiaeth. Rwy’n ddiolchgar iawn iddynt am eu hymdrechion.”
Gall unrhyw un sy’n gwarchod eu hunain, neu unrhyw un y byddai’n well ganddynt beidio â dod i orsaf bleidleisio am unrhyw reswm, wneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy cyn yr etholiadau. Mae manylion ynglŷn â sut i wneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy ar gael ar Wefan y Comisiwn Etholiadol a bydd yr wybodaeth hefyd ar y cerdyn pleidleisio.
Dylai unrhyw un sydd wedi cael prawf coronafeirws positif, neu sydd â symptomau, hunanynysu. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi rheolau newydd ar waith i ganiatáu ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng yn y cyfnod cyn diwrnod yr etholiad a hyd at 5pm ar ddiwrnod yr etholiad ei hun. Golyga hyn y bydd pleidleiswyr sy’n hunanynysu oherwydd eu bod wedi dod i gysylltiad â coronafeirws, oherwydd eu bod yn aros am ganlyniad prawf, neu oherwydd bod ganddynt symptomau, yn cael dweud eu dweud yn yr etholiad heb orfod gadael eu cartref.