Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Heddiw, rydym wedi cyhoeddi canllawiau trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat ar gyfer awdurdodau lleol. Cynhyrchwyd 'Canllaw i Gysoni Trwyddedu Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat yng Nghymru', ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a chynrychiolwyr awdurdodau lleol ledled Cymru drwy Fwrdd Diogelu'r Cyhoedd Cymru.
Rydym yn cydnabod bod tacsis a Cherbydau Hurio Preifat yn fath hanfodol o drafnidiaeth gyhoeddus. Maent yn darparu datrysiad trafnidiaeth ymarferol, uniongyrchol ac yn darparu gwasanaeth hanfodol i bobl sy'n byw mewn cymunedau gwledig lle gallai mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus fod yn annigonol; i economi'r nos - cefnogi llawer o'n busnesau lletygarwch ac i deithwyr ag anableddau, yn ogystal â chwarae rhan bwysig yn y gwaith o hwyluso cynhwysiant cymdeithasol.
Mae'r ddeddfwriaeth trwyddedu Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat bresennol wedi dyddio gyda'r prif fframwaith yn dyddio'n ôl i 1847 a 1976. Mae'r fframwaith hwn wedi arwain at bolisïau, safonau ac amodau trwydded anghyson ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr. Mae rheoleiddio tacsis a Cherbydau Hurio Preifat yn fater datganoledig o dan Ddeddf Cymru 2017.
Mae nifer o broblemau'n gysylltiedig â'r ddeddfwriaeth drwyddedu bresennol, sy'n cynnwys pryderon diogelwch i yrwyr a theithwyr, safonau trwyddedu anghyson ar draws awdurdodau lleol, sy'n cyfrannu at broblemau llogi trawsffiniol, gwasanaeth cwsmeriaid anghyson a dryswch cyhoeddus ynghylch mathau o gerbydau a strwythurau tocynnau.
Mae angen deddfwriaeth trwyddedu tacsis newydd i fynd i'r afael â'r materion hyn ond yn y cyfamser, bydd y Canllaw rydym yn ei gyhoeddi heddiw yn dechrau cynnig atebion i rai o'r problemau hyn ac yn darparu nifer o 'atebion cyflym'. Ei nod yw annog dull mwy cyson o drwyddedu tacsis a PHV ledled Cymru gyda phwyslais ar:
• Gwella diogelwch y cyhoedd
• Darparu safonau trwyddedu mwy cyson ledled Cymru
• Hwyluso gorfodaeth effeithiol
• Gwella gwasanaeth cwsmeriaid
• Gwella hygyrchedd cwsmeriaid
Mae'r argymhellion arfaethedig yn y Canllaw yn cynnwys amodau trwydded safonol a chydweithio rhwng awdurdodau lleol ar orfodi trawsffiniol.
Roedd datblygu'r Canllaw yn ystyried y byddai angen newid deddfwriaethol pellach er mwyn mynd i'r afael yn llawn â'r heriau sy'n gysylltiedig â'r gyfundrefn drwyddedu bresennol. Er bod y Canllaw hwn yn cynnig nifer o welliannau i'r safonau trwyddedu presennol ledled Cymru, mae cyfyngiad ar y mesurau y gellid eu cynnwys oherwydd y gwahaniaethau enfawr yn y polisïau trwyddedu ledled Cymru. Mae effeithiolrwydd y Canllaw hefyd yn dibynnu ar fabwysiadu'r argymhellion yn eang, heb eu diwygio, gan awdurdodau lleol ledled Cymru, er mwyn sicrhau dull cyson.
Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar ddatblygu cynigion deddfwriaethol trwyddedu tacsis a PHV, sy'n canolbwyntio ar bedwar maes allweddol: diogelwch, cydraddoldeb, safonau amgylcheddol a phrofiad y cwsmer. Byddwn yn creu safonau trwyddedu cenedlaethol ar gyfer gyrwyr, cerbydau a chwmnïau, gyda phwyslais ar sicrhau'r diogelwch cyhoeddus mwyaf posibl a phroffesiynoli'r diwydiant. Mae'r Canllaw yn gam tuag at safonau trwyddedu cenedlaethol a phroffesiynoli'r diwydiant.
Diolchwn i CLlLC ac awdurdodau lleol am eu cyfraniad gwerthfawr i'r Canllaw. Byddwn yn parhau i gydweithio'n agos i fonitro'r broses o fabwysiadu'r argymhellion yn y Canllaw ac i wella'n barhaus y dull o drwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat ledled Cymru.