Cherbydau hurio preifat: amodau trwyddedu
Mae'r amodau hyn yn gymwys i yrwyr cerbydau hurio preifat.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae pob cyfeiriad at ‘gyrrwr’ yn yr amodau hyn a nodir isod yn cyfeirio at y gyrrwr sy'n dal trwydded gyrrwr cerbyd hurio preifat a roddwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu hwn yn unol ag Adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.
Mae i ‘Perchennog’ yr un ystyr ag yn Adran 80 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976
Mae ‘Awdurdod Trwyddedu’ yn cyfeirio at gyngor.
Mae i ‘Swyddog awdurdodedig’ yr un ystyr ag yn Adran 80 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976
Ystyrir bod unrhyw ofynion cyfreithiol sy'n gymwys i yrwyr cerbydau hurio preifat yn amodau o'r drwydded hon, p'un a ydynt wedi'u rhestru'n benodol isod neu yn y polisi ai peidio.
1. Cyffredinol
1.1 Rhoddir y drwydded i'r person a enwir arni weithredu fel gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat yn ardal yr Awdurdod Trwyddedu yn amodol ar gydsyniad gweithredwr/perchennog y cyfryw gerbyd ac yn ddarostyngedig i'r cyfryw Ddeddfau ac Is-ddeddfau ag sydd mewn grym, neu a all fod mewn grym, o bryd i'w gilydd yn yr ardal ddywededig.
1.2 Bydd y Gyrrwr, bob amser, yn cydymffurfio â'r amodau canlynol:
a) Bydd yn cludo nifer rhesymol o fagiau;
b) Bydd yn rhoi cymorth rhesymol i lwytho a dadlwytho bagiau teithwyr;
c) Bydd yn rhoi cymorth rhesymol i symud bagiau i fynedfa unrhyw adeilad, gorsaf neu fan lle mae'n codi neu'n gollwng pobl o'r fath ac oddi yno
d) Tra bydd ar ddyletswydd, bydd yn ymddwyn mewn ffordd gwrtais a gweddus tuag at bob teithiwr, aelod o'r cyhoedd a swyddog gorfodi (yr heddlu neu'r Awdurdod Lleol);
e) Bydd yn gwisgo dillad glân addas a phriodol ac yn cydymffurfio â chod gwisg yr Awdurdod Trwyddedu ar gyfer gyrwyr cerbydau hacni/cerbydau hurio preifat.
f) Oni chaiff caniatâd penodol yr huriwr i wneud hynny, ni fydd yn bwyta nac yn yfed yn y cerbyd;
g) Oni chaiff caniatâd penodol yr huriwr i wneud hynny, ni fydd yn chwarae unrhyw radio nac offeryn na chyfarpar atgynhyrchu sain yn y cerbyd, heblaw at ddibenion anfon neu dderbyn negeseuon mewn cysylltiad â gweithredu neu hurio'r cerbyd.
h) Ni fydd yn achosi nac yn caniatáu, ar unrhyw adeg, i'r sŵn o unrhyw radio neu gyfarpar y cyfeiriwyd ato'n flaenorol sydd yn y cerbyd y mae'n ei yrru beri niwsans i unrhyw unigolyn nac aflonyddu ar unrhyw unigolyn p'un a yw y tu mewn i'r cerbyd neu'r tu allan iddo
i) Bydd yn cadw'r cerbyd trwyddedig yn lân iawn;
j) Pan gaiff cerbyd ei hurio, bydd yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau diogelwch y teithwyr a gludir pan fyddant yn mynd i mewn i'r cerbyd neu'n ei adael.
k) Bydd yn cydymffurfio â Chod Ymddygiad yr Awdurdod Trwyddedu ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hacni/Cerbydau Hurio Preifat.
l) Bydd yn cydymffurfio â phob cais rhesymol a wneir gan swyddogion awdurdodedig yr Awdurdod Trwyddedu
m) Bydd yn cydymffurfio â phob cais rhesymol a wneir gan swyddogion awdurdodedig yr Awdurdod Trwyddedu y mae'r gyrrwr yn gweithio ynddo ar y pryd (pan fydd y tu allan i'r awdurdod cartref)
1.3 Ni fydd gyrrwr cerbyd trwyddedig yn caniatáu i fwy o deithwyr, heb gynnwys y gyrrwr, na nifer yr unigolion a nodir yn y drwydded a roddwyd mewn perthynas â'r cerbyd hwnnw, gael eu cludo yn y cerbyd hwnnw;
1.4 Ni fydd y gyrrwr yn cuddio platiau adnabod allanol y cerbyd hurio preifat na'r manylion sydd wedi'u hargraffu neu wedi'u nodi arnynt, na rhifau trwydded y cerbyd hurio preifat sy'n cael eu harddangos y tu mewn i'r cerbyd, rhag cael eu gweld gan y cyhoedd a bydd yn cadw'r platiau adnabod a'r rhifau trwydded a arddangosir yn lân.
1.5 Oni chaiff caniatâd huriwr y cerbyd i wneud hynny, ni fydd y gyrrwr yn cludo unrhyw un arall yn y cerbyd nac yn caniatáu i unrhyw un arall gael ei gludo ynddo. Oni fydd yn rhan o gynllun rhannu teithiau neu rannu ceir.
1.6 Yn ôl ei ddisgresiwn, bydd y gyrrwr yn cludo anifeiliaid, sydd dan ofal yr huriwr ac, yn yr achos hwn, rhaid i'r anifail gael ei gludo yng nghefn y cerbyd. Rhaid caniatáu i gŵn sy'n cynorthwyo teithwyr ag anableddau gael eu cludo yn y cerbyd bob amser (gweler y polisi Trwyddedu Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat am ragor o wybodaeth am gludo teithwyr ag anableddau).
2. Bathodyn gyrrwr
2.1 Bydd gyrwyr yn cael dau fathodyn adnabod â llun ohonynt arnynt. Rhaid arddangos un yn ffenestr flaen y cerbyd er mwyn i ddarpar deithwyr allu ei weld yn glir. Rhaid i'r bathodyn arall gael ei wisgo fel y gellir ei weld yn glir mewn man amlwg (ar ran uchaf y corff nid yn y canol) bob amser pan fydd y gyrrwr yn cyflawni dyletswyddau trwyddedig.
2.2 Os collir trwydded neu fathodyn, bydd yn rhaid gwneud cais am un arall ar unwaith gan yr Awdurdod Trwyddedu. Os deuir o hyd i'r bathodyn gwreiddiol wedyn, bydd yn rhaid ei ddychwelyd i'r Awdurdod Trwyddedu ar unwaith.
2.3 Mae'r bathodyn(nau) yn parhau i fod yn eiddo i'r Awdurdod Trwyddedu a bydd yn rhaid ei ddychwelyd/eu dychwelyd i'r Awdurdod Trwyddedu o fewn 5 diwrnod gwaith i'r dyddiad y daeth(ant) i ben neu'r cyfryw gyfnod arall o amser ag y gall yr Awdurdod Trwyddedu ei nodi.
3. Gwiriad yr Heddlu a Rhoi Gwybod am Euogfarnau
3.1 O fewn 48 awr i gael ei arestio a'i ryddhau am unrhyw reswm, ac yna ar ôl unrhyw euogfarn ddilynol, gorchymyn rhwymo, rhybuddiad, rhybudd, cerydd neu arestiad am unrhyw fater troseddol neu foduro (p'un a gafodd ei gyhuddo ai peidio) a osodir arno yn ystod cyfnod y drwydded, bydd yn rhaid i ddeiliad y drwydded hysbysu'r Awdurdod Trwyddedu gan roi manylion llawn y mater(ion).
Yr hyn y mae'n rhaid hysbysu'r Awdurdod Trwyddedu amdano:
a. Unrhyw euogfarn (mater troseddol neu foduro);
b. Unrhyw rybuddiad (a roddwyd gan yr Heddlu neu unrhyw asiantaeth arall);
c. Unrhyw wŷs a gyflwynwyd i chi gan unrhyw Lys Ynadon;
d. Unrhyw rybudd cosb benodedig a roddwyd i chi am unrhyw fater;
e. Unrhyw rybudd neu orchymyn yn ymwneud ag aflonyddu neu unrhyw fath arall o rybudd neu orchymyn o dan y gyfraith droseddol gan gynnwys gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol neu orchmynion tebyg;
f. Unrhyw arestiad am unrhyw drosedd (p'un a gawsoch eich cyhuddo ai peidio);
g. Unrhyw ryddfarn yn dilyn achos troseddol a wrandawyd gan lys;
h. Unrhyw benderfyniad i wrthod rhoi unrhyw fath o drwydded gan unrhyw awdurdod rheoleiddio arall neu unrhyw benderfyniad i
atal unrhyw drwydded o'r fath dros dro, ei dirymu neu beidio â'i hadnewyddu.
4. Gwasanaeth Diweddaru Ar-lein y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
4.1 Rhaid i bob gyrrwr danysgrifio i Wasanaeth Diweddaru Ar-lein y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd o fewn 30 diwrnod i'r dyddiad y rhoddir tystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Rhaid i unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â chynnal y tanysgrifiad hwn gael eu talu gan ddeiliad y drwydded. Ceir rhagor o wybodaeth yn DBS Update Service.
4.2 Rhaid i'r gyrrwr roi caniatâd i'r Awdurdod Trwyddedu wirio ei statws gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd os bydd yr Awdurdod Trwyddedu o'r farn bod angen gwneud hynny. Bydd yr Awdurdod Trwyddedu yn defnyddio'r gwasanaeth diweddaru i fonitro cofnod troseddol deiliaid trwyddedau.
5. Meddygol
5.1 Rhaid i bob gyrrwr hysbysu'r Awdurdod Trwyddedu yn ysgrifenedig ar unwaith am unrhyw gyflwr meddygol a all effeithio ar ei ffitrwydd i yrru ac ni ddylai barhau i yrru ei gerbyd trwyddedig nes i'r mater gael ei ystyried gan yr Awdurdod Trwyddedu a nes i'r Awdurdod Trwyddedu gadarnhau yn ysgrifenedig fod y gyrrwr yn cael parhau i yrru.
5.2 Rhaid i'r gyrrwr, ar unrhyw adeg, neu ar y cyfryw adegau ag y gall yr Awdurdod Trwyddedu yn rhesymol eu mynnu, gyflwyno tystysgrif ar y ffurf a ragnodir gan yr Awdurdod Trwyddedu wedi'i llofnodi gan ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n nodi ei fod yn iach yn gorfforol, neu ei fod yn parhau i fod yn iach yn gorfforol, i fod yn yrrwr cerbyd hurio preifat/cerbyd hacni.
5.3 Rhaid i yrwyr y rhoddwyd tystysgrif eithrio meddygol dros dro iddynt o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ei dychwelyd i'r Awdurdod Trwyddedu o fewn un diwrnod gwaith ar ôl i'r dystysgrif ddod i ben.
6. Golwg y Gyrrwr
6.1 Os bydd gyrrwr yn newid ei olwg yn sylweddol (er enghraifft, drwy dyfu/eillio barf neu fwstash, newid lliw ei wallt ac ati), rhaid iddo ofyn am fathodyn adnabod newydd gan yr Awdurdod Trwyddedu cyn gynted â phosibl a darparu ffotograff cyfredol sy'n dangos ei olwg bresennol yn gywir.
7. Prisiau
7.2 Os bydd tacsimedr wedi'i osod mewn Cerbyd Hurio Preifat, ni fydd y gyrrwr yn achosi i'r pris a gofnodir arno gael ei ganslo na'i guddio nes i'r huriwr gael cyfle rhesymol i graffu arno a nes iddo dalu pris y siwrnai.
7.3 Ni fydd gyrrwr cerbyd hurio preifat yn mynnu bod huriwr yn talu mwy na'r pris y cytunwyd arno'n flaenorol am hurio'r cerbyd rhwng yr huriwr a'r gweithredwr neu, os bydd tacsimedr wedi'i osod yn y cerbyd ac na chytunwyd ar y pris yn flaenorol, y pris a ddangosir ar wyneb y tacsimedr.
8. Derbynebau Ysgrifenedig
8.1 Bydd pob gyrrwr cerbyd trwyddedig yn rhoi derbynneb ysgrifenedig am y pris a dalwyd i'r huriwr, os bydd yr huriwr yn gofyn am un.
9. Oriau gwaith
9.1 Ni ddylai gyrwyr yrru os bydd blinder neu'r ffaith eu bod wedi gweithio gormod o oriau yn amharu ar eu gallu i wneud hynny.
9.2 Ni chaniateir i yrwyr dreulio mwy na 10 awr y dydd wrth y llyw a rhaid i yrwyr gael seibiant sy'n para o leiaf 30 munud ar ôl gyrru am 5.5 awr. Neu, o fewn unrhyw gyfnod o 8 awr 30 munud, rhaid i yrwyr gael seibiant o 45 munud o leiaf. Rhaid i yrwyr hefyd gael seibiant o 30 munud o leiaf ar ddiwedd y cyfnod hwn, oni bai mai diwedd y diwrnod gwaith ydyw.
10. Gwybodaeth am Gwsmeriaid a Gwybodaeth Bersonol Arall
10.1 Rhaid i yrwyr sicrhau bod unrhyw wybodaeth bersonol y maent yn ei chael wrth gynnal eu busnes yn cael ei storio'n ddiogel a'i chadw dim ond cyhyd ag y bo'n gwbl angenrheidiol. Dim ond y rhai a fydd yn ei defnyddio at y diben y cafodd ei chasglu a ddylai fod â'r hawl i weld y wybodaeth hon.
10.2 Ni ddylid defnyddio gwybodaeth bersonol at unrhyw ddiben arall heblaw'r diben y cafodd ei chasglu heb ganiatâd penodol yr unigolyn y mae a wnelo'r wybodaeth ag ef. Er enghraifft, os bydd cwsmeriaid wedi rhoi rhifau ffôn er mwyn iddynt allu cael rhybudd/y wybodaeth ddiweddaraf drwy neges destun SMS am dacsi y maent wedi'i hurio, dim ond at y diben hwn y dylid defnyddio'r rhifau ffôn hyn. Ni ddylai'r wybodaeth hon gael ei chadw gan y gyrrwr ar ôl i'r neges destun gael ei hanfon a/neu ei defnyddio at unrhyw ddiben arall (megis galwadau marchnata na ofynnwyd amdanynt).
11. Archwiliadau o Gerbydau
11.1 Bydd pob gyrrwr yn archwilio'r tu mewn a'r tu allan i'r cerbyd bob dydd er mwyn sicrhau bod y cerbyd yn addas ac yn ddiogel (y tu mewn a'r tu allan) i'w ddefnyddio fel cerbyd trwyddedig. Dylid cynnal yr archwiliad ar ddechrau'r diwrnod gwaith cyn derbyn unrhyw deithwyr. Dylid cynnal archwiliad gweledol o'r holl oleuadau, lefelau olew a dŵr, y teiars, y drychau, y rampiau mynediad (lle y bo'n gymwys) a'r gwregysau diogelwch o leiaf.
11.2 Rhaid cadw cofnod ysgrifenedig o bob archwiliad diogelwch, manylion diffygion a gofnodwyd a chamau unioni a gymerwyd. Rhaid i'r cofnod gael ei lofnodi gan y sawl sy'n cynnal yr archwiliadau diogelwch a'i gadw yn y cerbyd am o leiaf 30 diwrnod ac yna am chwe mis arall gan berchennog y cerbyd. Rhaid i'r cofnod fod ar gael i'w archwilio gan un o Swyddogion Awdurdodedig yr Awdurdod Trwyddedu.
11.3 Rhaid i unrhyw ddiffygion gael eu hunioni ar unwaith gan y gyrrwr neu'r perchennog cyn i'r cerbyd gael ei ddefnyddio i'w hurio neu am dâl.
11.4 Rhaid i'r gyrrwr sicrhau bod unrhyw arwyddion a hysbysiadau sy'n ofynnol gan yr Awdurdod Trwyddedu wedi'u gosod ar y cerbyd neu wedi'u cysylltu ag ef yn briodol.
12. Newid Manylion
12.1 Bydd y gyrrwr yn hysbysu'r Awdurdod Trwyddedu yn ysgrifenedig am unrhyw newid i'w enw/cyfeiriad yn ystod cyfnod y drwydded ac o fewn 5 diwrnod gwaith i'r dyddiad y digwyddodd y cyfryw newid.
12.2 Rhaid i'r gyrrwr hefyd ddiwygio ei enw/cyfeiriad ar ei drwydded yrru a chyflwyno'r drwydded ddiwygiedig i'r Awdurdod Trwyddedu o fewn 5 diwrnod gwaith i'w derbyn gan y corff dyroddi e.e. y DVLA.
13. Newid Gweithredwr
13.1 Rhaid i ddeiliad y drwydded hysbysu'r Awdurdod Trwyddedu yn ysgrifenedig o fewn 5 diwrnod gwaith am unrhyw newid i'r gweithredwr hurio preifat y mae'n gweithio iddo.
14. Teledu Cylch Cyfyng (CCTV)
14.1 Os bydd system CCTV wedi'i gosod mewn cerbyd, rhaid i'r gyrrwr gydymffurfio â'r holl amodau ychwanegol a nodir ym Mholisi'r Awdurdod Trwyddedu ar Systemau CCTV mewn Cerbydau Trwyddedig.
15. Eiddo Coll
15.1 Bydd gyrrwr cerbyd trwyddedig, yn syth ar ôl i drefniant hurio ddod i ben neu cyn gynted â phosibl ar ôl hynny, yn chwilio'r cerbyd yn ofalus am unrhyw eiddo a adawyd gan deithwyr.
15.2 Os deuir o hyd i unrhyw eiddo a adawyd gan unrhyw deithiwr, bydd y gyrrwr yn mynd ag ef cyn gynted â phosibl a sut bynnag o fewn 48 awr (oni chaiff ei hawlio gan y perchennog) i orsaf heddlu yn yr ardal a'i adael yng ngofal y swyddog sy'n gyfrifol am yr orsaf. Rhaid i'r gyrrwr ofyn am dderbynneb amdano.
16. Diffoddydd tân mewn cerbyd
16.1 Bydd y gyrrwr yn hysbysu gweithredwr neu berchennog y cerbyd ar unwaith os bydd y diffoddydd yn ddiffygiol neu os bydd wedi'i ddefnyddio.
17. Cyrraedd yn Brydlon
17.1 Bydd gyrrwr cerbyd trwyddedig, os bydd wedi'i hurio i fod yn bresennol mewn lle penodedig ar amser penodedig, yn cyrraedd y lle penodedig yn brydlon erbyn yr amser penodedig.
17.2 Bydd y gyrrwr, pan fydd wedi'i hurio i yrru i unrhyw gyrchfan benodol, yn amodol ar unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan yr huriwr, yn mynd i'r gyrchfan honno ar hyd y llwybr byrraf, mwyaf uniongyrchol sydd ar gael.
18. Canu cyrn ceir
18.1 Ni fydd gyrrwr cerbyd trwyddedig yn canu corn y cerbyd fel ffordd o dynnu sylw hurwyr ato, ac eithrio mewn argyfwng.
19. Damweiniau
19.1 Os bydd y cerbyd mewn damwain ar unrhyw adeg, waeth pa mor fach ydyw, rhaid i'r gyrrwr hysbysu'r Awdurdod Trwyddedu am hyn cyn gynted â phosibl a sut bynnag o fewn 1 diwrnod gwaith.
20. Cerbydau Hygyrch i Gadeiriau Olwyn
20.1 Rhaid i yrwyr cerbyd hygyrch i gadeiriau olwyn sicrhau, cyn iddynt ddefnyddio'r cerbyd am y tro cyntaf i'w hurio neu am dâl, y gallant osod rampiau'r cerbyd yn gywir a'u bod yn deall sut i gludo'r teithiwr yn y gadair olwyn i mewn ac allan o'r cerbyd a chlymu'r gadair olwyn yn ddiogel.
21. Cyfleuster Talu â Cherdyn Credyd/Cerdyn Debyd
21.1 Os bydd dyfais talu â cherdyn credyd/debyd wedi'i gosod yn y cerbyd, rhaid i'r gyrrwr wneud y canlynol:
a. Ar ddechrau sifft cyn derbyn teithwyr sy'n talu, cadarnhau bod y ddyfais yn gweithio'n iawn, gan gynnwys ei bod yn gallu printio derbynebau,
b. Os bydd dyfais yn ddiffygiol, hysbysu'r perchennog (os nad y gyrrwr yw'r perchennog) am y broblem o fewn 24 awr.
c. Os bydd y ddyfais yn ddiffygiol, sicrhau y caiff y sticeri 'talu â cherdyn' eu tynnu oddi ar ffenestr y cerbyd nes y bydd y ddyfais yn gwbl weithredol.
d. Os bydd rhan helaeth o'r rhwydwaith yn methu gan effeithio ar daliadau â cherdyn, dylai gyrwyr hysbysu teithwyr am hyn cyn cytuno i'w cludo.
22. Amodau
22.1 Bydd pob gyrrwr, pan fydd yn gyrru cerbyd trwyddedig, yn sicrhau bod ganddo gopi o'r amodau hyn yn ei feddiant ac yn eu darparu i'w harchwilio gan yr huriwr neu unrhyw deithiwr arall ar gais.
23. Atal Trwydded Dros Dro
23.1 Rhaid i unrhyw drwydded a ataliwyd dros dro gael ei dychwelyd i'r Awdurdod Trwyddedu ar unwaith ar ddechrau'r cyfnod atal.
Nodiadau
I. Dylid darllen yr amodau hyn ar y cyd â darpariaethau Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.
II. Gall unrhyw berson sy'n cyflawni trosedd yn erbyn unrhyw un o ddarpariaethau Deddf 1976 yn unol ag Adran 76, yn dilyn euogfarn ddiannod, gael diryw hyd at lefel 3 ar y raddfa safonol neu'r cyfryw gosb arall ag a ddarperir yn benodol yn y Ddeddf. Rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r amodau bob amser.
III. Y gyrrwr sy'n gyfrifol am sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth berthnasol megis Deddf Traffig Ffyrdd 1988 a'r holl ddeddfwriaeth traffig ffyrdd arall e.e. Rheolau'r Ffordd Fawr, cyfyngiadau parcio a gorchmynion rheoleiddio traffig.
IV. Os bydd ymddygiad y gyrrwr, ar unrhyw adeg, yn achosi i'r Awdurdod Trwyddedu bryderu ynghylch a yw'n dal i fod yn gymwys ac yn briodol i ddal trwydded, bydd yr Awdurdod Trwyddedu yn ymchwilio i'w ymddygiad ac os bydd yn fodlon nad yw'r gyrrwr yn berson cymwys na phriodol mwyach, efallai y caiff trwydded y gyrrwr ei hatal dros dro a/neu ei dirymu wedi hynny.
V. Caiff methiant i ddatgan unrhyw euogfarn o fewn y terfyn amser penodedig ynghyd â natur yr euogfarn eu hystyried wrth benderfynu a yw deiliad trwydded yn berson cymwys a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni/cerbyd hurio preifat. Gall hyn arwain at
atal y drwydded gyrrwr hurio preifat dros dro neu ei dirymu neu benderfynu gwrthod ei hadnewyddu.
VI. Gallai unrhyw achos o dorri amodau'r drwydded arwain at atal y drwydded dros dro neu ei dirymu.
VII. Rhaid i unrhyw drwydded a ildiwyd neu a ddirymwyd gael ei dychwelyd ar unwaith i'r Awdurdod Trwyddedu.
VIII. Os bydd gyrrwr wedi cael trwydded drwy roi gwybodaeth anwir neu anghyflawn, ystyrir y posibilrwydd o atal y drwydded dros dro, ei dirymu neu wrthod ei rhoi. Gallai'r gyrrwr hefyd gael ei erlyn.
IX. Dylai trwydded gael ei hadnewyddu cyn iddi ddod i ben er mwyn sicrhau parhad. Nid oes unrhyw gyfnod gras awtomatig. Mae gyrru heb drwydded yn drosedd.
X. Dylai unrhyw gais am gyngor gan yr Awdurdod Trwyddedu mewn perthynas â deddfwriaeth drwyddedu fod yn ysgrifenedig a rhoddir ymateb ysgrifenedig i unrhyw gais o'r fath er mwyn osgoi unrhyw anghydfod ynghylch y cyngor a roddwyd yn y dyfodol. Nid yw hyn yn eich atal rhag ceisio eich cyngor cyfreithiol annibynnol eich hun.
XI. Gall unrhyw un sy'n teimlo ei fod wedi cael cam o ganlyniad i unrhyw amodau a nodir yn y drwydded apelio i'r llysoedd ynadon o fewn 21 diwrnod i'w rhoi.
XII. Nid yw unrhyw gyfeiriad at ‘ddiwrnodau gwaith’ yn cynnwys dydd Sadwrn na dydd Sul, Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith, Gwyliau Banc nac unrhyw ddiwrnod arall y mae'r Swyddfa Drwyddedu ar gau.