Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Cynllun Rheoli’r Coronafeirws: Lefelau Rhybudd Diwygiedig yng Nghymru (Mawrth 2021).
Mae'r cynllun diweddaraf hwn, sy'n ystyried y rhaglen frechu ac amrywiolyn heintus iawn Caint, sef y ffurf o’r feirws sydd fwyaf cyffredin yng Nghymru bellach, yn amlinellu sut y byddwn yn symud drwy'r lefelau rhybudd. Mae’n nodi hefyd sut y gallwn helpu pobl a busnesau i gynllunio ar gyfer y dyfodol, wrth inni fynd ati’n ofalus ac yn raddol i lacio’r cyfyngiadau presennol.
Diben y cynllun yw ein galluogi i ddal ati i lacio’r cyfyngiadau, ar yr amod bod y feirws yn dal o dan reolaeth.
Mae'r cynllun yn adnewyddu'r ymyriadau ar bob lefel, ynghyd â’r gyfres o ddangosyddion y bydd Llywodraeth Cymru yn eu dadansoddi ochr yn ochr â chyngor arbenigol proffesiynol a gwybodaeth gan bartneriaid lleol. Os bydd y sefyllfa o ran iechyd yn dirywio, mae'r cynllun hefyd yn nodi sut y gellid arafu’r camau llacio hyn, eu hatal dros dro neu ailgyflwyno cyfyngiadau petai angen.
Rydym nawr ar ddechrau cyfnod tyngedfennol yn y pandemig. Mae llygedyn o obaith, ond nid yw’r pandemig ar ben eto.
Mae misoedd y gwanwyn a'r haf yn rhoi’r gobaith o fwy o ryddid, wrth i’r cyfraddau heintio ostwng a ninnau’n brechu mwy a mwy o bobl. Ond rhaid inni beidio â rhuthro i lacio’r cyfyngiadau i gyd a pheri risg o don arall o’r feirws yn y misoedd i ddod.
Mae gwaith modelu gwyddonol o ffynonellau amrywiol yn dangos ei bod yn debygol iawn y bydd trydedd don o heintiadau yn ddiweddarach eleni. Bydd yr hyn sy'n digwydd rhwng nawr a hynny yn pennu pa mor fawr fydd y don honno, faint o bobl fydd mewn perygl a faint fydd yn marw.
Bydd ein rhaglen frechu lwyddiannus yn helpu i leihau nifer y bobl fydd yn dioddef salwch difrifol ac yn colli eu bywydau yn sgil COVID-19, ond er bod ein rhaglen frechu yn mynd rhagddi yn rhyfeddol o gyflym, a niferoedd mawr yn cael y brechiad, bydd llawer o bobl o hyd na fyddant yn cael eu hamddiffyn.
Byddwn yn ailedrych ar y cynllun hwn ar ôl i'r brechiad gael ei gynnig i bob oedolyn sy’n gymwys – sef erbyn diwedd Gorffennaf ar hyn o bryd – pan fydd mwy o dystiolaeth a data ar gael am ei effaith.
Ein gobaith yw y bydd y cynllun hwn yn rhoi llwybr inni allu llacio'r holl gyfyngiadau ond, ar hyn o bryd, mae'n rhy gynnar i wneud addewid mor bendant â hynny. Mae’r rhaglen frechu yn rhoi gobaith inni ein bod wedi gweld y gwaethaf o’r pandemig erbyn hyn a bod dyfodol mwy disglair o’n blaenau.
Cynllun Rheoli’r Coronafeirws: Lefelau Rhybudd Diwygiedig yng Nghymru (Mawrth 2021)
https://llyw.cymru/cynllun-rheolir-coronafeirws-lefelau-rhybudd-diwygiedig-yng-nghymru-mawrth-2021