Yn 2020, sefydlodd Llywodraeth Cymru gynllun ar gyfer y rhaglen gallu a chapasiti, a oedd yn cydnabod yr angen i gynyddu cynaliadwyedd a thwf hirdymor y proffesiwn caffael yng Nghymru.
Mae nifer y staff caffael sydd â chymwysterau proffesiynol yng Nghymru wedi bod yn ddiffygiol ers nifer o flynyddoedd. Defnyddir cymhareb o un gweithiwr caffael proffesiynol am bob £10m o wariant y sector cyhoeddus yn gyffredinol fel y meincnod yng Nghymru.
Ar ddechrau 2020, dechreuodd Llywodraeth Cymru weithio gyda'r Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS), i greu cyfleoedd i unigolion o bob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru ymgymryd â Rhaglenni Dyfarniad Corfforaethol CIPS Lefel 4 Ymarferydd, a Lefel 5 Uwch Ymarferydd. CIPS yw'r corff proffesiynol ar gyfer caffael, gyda hanes amlwg o ragoriaeth caffael yn fyd-eang.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i 50 o unigolion ar draws y sector cyhoeddus ymgymryd â'r hyfforddiant CIPS, wedi'i rannu rhwng y cyrsiau Lefel Ymarferydd ac Uwch Ymarferydd. Gan weithio gyda CIPS, fe wnaeth Llywodraeth Cymru deilwra cynnwys y cyrsiau i sicrhau eu bod yn adlewyrchu tirlun caffael a pholisi caffael Cymru. Roedd y cyrsiau pwrpasol yn cynnwys defnyddio iaith a therminoleg gyfarwydd, gan ddefnyddio cyfeiriadau sy'n addas i enghreifftiau Cymreig, i helpu myfyrwyr i roi polisi caffael Cymru ar waith.
Er gwaethaf yr heriau a gyflwynwyd gan bandemig COVID-19, llwyddodd CIPS i ymateb yn hyblyg i reoli'r broses o gyflwyno'r ddau gwrs o fis Medi 2020, drwy amgylchedd rhithwir lle na fu dysgu wyneb yn wyneb yn bosibl. Mae hyn wedi galluogi myfyrwyr i astudio yn eu hamgylchedd cartref, tra'n datblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth fasnachol gyda chydweithwyr o'r un anian drwy drafodaethau grŵp ar-lein.
Mae astudio o gartref wedi dileu'r angen i deithio pellteroedd sylweddol naill ai drwy drafnidiaeth gyhoeddus, neu drwy ddulliau’r myfyrwyr eu hunain o deithio. Mae hyn wedi arwain at arbedion cost i fyfyrwyr, llai o effaith ar yr amgylchedd, a mwy o hyblygrwydd a chysur i fyfyrwyr.
Mae'r holl fyfyrwyr yn ymrwymo i aros yn y sector cyhoeddus yng Nghymru am dair blynedd ar ôl cwblhau eu cwrs. O ganlyniad, bydd nifer y gweithwyr caffael proffesiynol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn cynyddu, a bydd mwy o sgiliau masnachol a chaffael gwell wedi’u gwasgaru ledled Cymru. Pan fyddant wedi cymhwyso'n llawn, bydd yr ymarferwyr caffael yn helpu i fynd i'r afael â chynaliadwyedd hirdymor caffael, ac yn cryfhau'r proffesiwn yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Dywedodd Andrew Gooding, Swyddog Caffael Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sy'n astudio'r Dyfarniad Corfforaethol Lefel 4 drwy'r rhaglen:
“Mae'r cwrs hwn wedi rhoi llwyfan i mi ddechrau fy nhaith i achrediad MCIPS. Mae'r gefnogaeth a'r adnoddau a ddarparwyd gan y rhaglen, yn enwedig darlithoedd rheolaidd, wedi bod yn amhrisiadwy wrth gynorthwyo fy astudiaethau. Edrychaf ymlaen at ddatblygu fy astudiaethau ymhellach unwaith y byddaf wedi cwblhau'r cwrs hwn a gallu rhagori ymhellach yn fy rôl yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyda'r sgiliau ychwanegol rwyf wedi'u datblygu.”
Gwybodaeth bellach
Mae rhagor o wybodaeth am gyrsiau a gynigir gan CIPS.
I gael rhagor o wybodaeth am raglen gallu a chapasiti Llywodraeth Cymru, anfonwch e-bost at: CommercialCapability@gov.wales