Mae Gwasanaeth e-Daliadau Barclaycard ar gyfer sector cyhoeddus Cymru wedi bod ar waith ers 2014, ac ar hyn o bryd mae'n cael ei ddefnyddio gan dros 170 o sefydliadau.
Mae gwasanaeth Barclaycard yn darparu Cardiau Prynu Cymreig (CPC), sy'n galluogi defnyddwyr i dalu am ystod eang o nwyddau a gwasanaethau, yn gyflym iawn. Mae hyn wedi bod yn arbennig o fuddiol yn ddiweddar. Mae'r CPC wedi cefnogi parhad cwmnïau ac wedi helpu i sicrhau bod cefnogaeth hanfodol wedi cyrraedd unigolion bregus yn ystod pandemig COVID-19.
Rhoddodd COVID-19 bwysau cynyddol ar dimau masnachol a chyllid, a chynyddu pwysigrwydd cynnal llif arian i gyflenwyr. Yn sgil cyfnodau clo a chau swyddfeydd, roedd timau caffael yn wynebu'r her o addasu i ffyrdd newydd o weithio, tra hefyd yn parhau i ddarparu'r un gwasanaethau i'r cyhoedd. Nid oedd gan lawer fynediad i'w systemau TG na chaffael arferol, na'u dull arferol o brynu a thalu am nwyddau a gwasanaethau.
Mae defnyddio CPCau yn ystod COVID-19 wedi galluogi sefydliadau yng Nghymru i gynorthwyo anghenion unigolion bregus yn y gymuned sydd ddim wedi gallu gadael eu cartrefi er eu diogelwch a'u lles eu hunain. Roedd galw ar frys i roi cannoedd o gardiau i staff a gwirfoddolwyr a oedd yn aelodau o rwydwaith cymorth yr unigolion bregus hyn, er mwyn sicrhau darpariaeth nwyddau angenrheidiol.
Fe wnaeth hyn eu galluogi i brynu a danfon bwyd; dillad; cyflenwadau meddygol a phresgripsiynau; a chynorthwyo gyda gwariant yn y cartref a gwariant cartrefi gofal preswyl.
Dywedodd cynrychiolydd o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf:
“Ar ôl defnyddio cardiau prynu yn llwyddiannus am nifer o flynyddoedd fel rhan o’u gweithgareddau busnes rheolaidd, llwyddodd Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i ymateb i heriau unigryw ac uniongyrchol y pandemig trwy ailddosbarthu nifer o’u cardiau prynu presennol i’r gwasanaethau cymorth a sefydlwyd yn unswydd i gyflenwi’r unigolion mwyaf bregus.
Er mai ailddosbarthu cardiau i'r rheng flaen oedd y brif flaenoriaeth, roedd y rheolaethau ariannol a ymgorfforwyd yn y system yn galluogi i bob trosglwyddiad gael ei fonitro a'i awdurdodi'n gadarn."
Gwybodaeth bellach
Cysylltu: ICTProcurement@llyw.cymru