Asesiad effaith: Iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru - COVID-19: edrych tua’r dyfodol
Asesu effaith gwella iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfle cyfartal.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Adran 1. Pa gamau gweithredu y mae llywodraeth cymru yn eu hystyried a pham?
Ers mis Mawrth 2020 mae'r GIG wedi bod o dan bwysau sylweddol i ymateb i’r pandemig COVID-19 a chynnal gwasanaethau hanfodol. Wrth i'r pwysau leddfu mae angen ystyried yr effaith a'r cyfleoedd sydd ar gael i ailsefydlu ac ailadeiladu gwasanaethau gan barhau i ymateb i COVID-19 a fydd gyda ni hyd y gellir rhagweld. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru: COVID-19: Edrych Tua’r Dyfodol" ('Edrych Tua’r Dyfodol’). Mae'n nodi ar lefel uchel y dull y byddwn yn ei ddefnyddio, gan adeiladu ar ffyrdd newydd o weithio a chyfleoedd i wneud pethau'n wahanol. Bydd cyfres o gynlluniau manylach yn cael eu datblygu wrth i'r dasg gymhleth o adfer barhau.
Mae'r ddogfen yn ategu Fframwaith Cynllunio Blynyddol GIG Cymru 2021-22 a gyhoeddwyd ar 14 Rhagfyr 2020. Mae'r Fframwaith Cynllunio eisoes yn nodi cyfeiriad a blaenoriaethau i GIG Cymru eu mabwysiadu wrth i sefydliadau ddatblygu eu cynlluniau blynyddol i'w cyflwyno erbyn 31 Mawrth 2021. Mae 'Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru: COVID-19: Edrych Tua’r Dyfodol' wedi’i hanelu at y cyhoedd a’i nod yw pennu cyfeiriad lefel uchel ar gyfer adferiad cyffredinol a llwybr adnewyddu ar gyfer y system iechyd a gofal cymdeithasol. Nid yw’n dileu’r angen i wasanaethau sicrhau bod eu gwaith o gynllunio gwasanaethau yn cyd-fynd â'r gofynion polisi a’r cyfarwyddiadau Gweinidogol sydd eisoes ar waith.
Y rhesymog dros y ddogfen adfer
Mae Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru: COVID-19: Edrych Tua’r Dyfodol yn nodi'r disgwyliadau lefel uchel ar gyfer adfer y GIG a gofal cymdeithasol, yr heriau a'r cyfyngiadau, a'r blaenoriaethau ar gyfer pob rhan o'r system. Mae'n dwyn ynghyd ddull y system gyfan mewn un ddogfen i ddangos cyfeiriad clir ar gyfer ailadeiladu gwasanaethau allweddol.
Ein her nawr yw adeiladu'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig yr ydym am eu gweld wrth symud ymlaen ac er mwyn ymdrin ag effeithiau hirdymor COVID-19. Mae'n gyfle i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru newid er gwell, gan gydnabod bod COVID-19 yn dal gyda ni. Gan fod COVID-19 yn dal i fod yn bresennol yn ein cymunedau bydd angen i'r GIG gynllunio yng nghyd-destun ansicrwydd sylweddol gydag ystwythder a hyblygrwydd.
Mae'r pedwar niwed, a ddefnyddiwyd i ddisgrifio'r blaenoriaethau cyffredinol y mae'r GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi canolbwyntio arnynt dros y flwyddyn ddiwethaf, yn dal yn berthnasol.
- Niwed o COVID-19 ei hun
- Niwed o Wasanaethau Iechyd a system gofal cymdeithasol sydd wedi’u gorlethu
- Niwed o leihad mewn gweithgarwch nad yw’n gysylltiedig â COVID-19
- Niwed o gamau / cyfyngiadau cymdeithasol ehangach
Mae 'Edrych Tua’r Dyfodol' yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd dros y 12 mis diwethaf, ers i COVID-19 ein taro. Mae'r asesiad effaith hwn yn edrych ar sut mae'r ddogfen wedi'i llunio a pha gyfleoedd a gymerwyd i sicrhau tegwch a chydraddoldeb yn y dull hwn. Yn hyn o beth, mae 'Edrych Tua’r Dyfodol' yn adeiladu ar bolisïau sy'n bodoli eisoes, yn hytrach na chreu rhai newydd, gan fanteisio felly ar yr asesiadau effaith sydd eisoes wedi'u cynnal.
Y tymor hir
Mae 'Edrych Tua’r Dyfodol' yn parhau â’r pwyslais ar gyfeiriad strategol, a dylid ei hystyried fel y cam nesaf tuag at ailsefydlu ac adfer iechyd a gofal cymdeithasol mewn modd cynaliadwy yng Nghymru, yn y tymor hwy. Cydnabyddir y bydd hyn yn cymryd blynyddoedd lawer ac nad yw'n ymwneud ag atebion tymor byr yn unig.
Fodd bynnag, mae bod yn ymwybodol o'r nodau a’r ymrwymiadau tymor hwy, megis datgarboneiddio, y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a llesiant cenedlaethau'r dyfodol, yn galluogi i’r penderfyniadau gweithredol hynny gael eu gwneud yng nghyd-destun y materion strategol ehangach hyn.
Bydd y gwersi a ddysgwyd o'r gwaith a wneir i ymateb i'r pandemig yn hanfodol i gefnogi adferiad a pharhad hirdymor. Mae'Edrych Tua’r Dyfodol' yn cydnabod yr angen i adlewyrchu'r cyfleoedd sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod y pandemig i gefnogi ffyrdd newydd o weithio, megis cyflwyno atebion arloesol a digidol, buddsoddiad ariannol a threfniadau partneriaeth, llywodraethu a chynllunio cryfach.
Atal
Mae 'Edrych Tua’r Dyfodol' yn cefnogi'r agenda atal, sy'n ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd a sefydliadau eraill y GIG gynllunio eu gweithgareddau i sicrhau eu bod yn rhoi sylw i’r cydbwysedd rhwng atal lledaeniad COVID-19 ac effaith y clefyd ac yn cefnogi'r bobl hynny sydd â chyflyrau iechyd eraill. Mae hefyd yn ystyried yr angen i fynd i'r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd drwy roi pwyslais ar atal ar draws pob lleoliad a llwybr er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau.
Mae’r rhaglen frechu yn dal yn flaenoriaeth bwysig. Mae'r rhaglen yn flaenoriaeth gan ei bod yn cwmpasu'r brechiadau a'r imiwneiddiadau plentyndod arferol er mwyn cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel, y brechiadau rhag y ffliw a'r brechu torfol rhag COVID-19, sydd eisoes ar y gweill ac a fydd yn para trwy 2021-22.
Bydd ffocws parhaus yn cael ei roi ar y strategaeth Profi Olrhain Diogelu. Y disgwyl fydd i sefydliadau gydnabod bod angen iddynt weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, er mwyn sicrhau bod pobl yn cael eu profi a'u holrhain cyn gynted â phosibl er mwyn ffrwyno lledaeniad ac effaith COVID-19 gymaint â phosibl.
Yn yr un modd, mae'r fframwaith yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau ystyried y ffordd orau o drin y rhai â chyflyrau nad ydynt yn COVID-19, er mwyn sicrhau bod cleifion â symptomau yn gallu cael diagnosis a thriniaeth gyflym i atal eu clefyd rhag datblygu ymhellach, yn enwedig y rhai â salwch sy'n peryglu bywyd. Bwriad 'Edrych Tua’r Dyfodol' yw cefnogi sefydliadau yn eu hymateb parhaus i COVID-19 a thuag at ailgyflwyno'r gwasanaethau ehangach arferol.
Integreiddio
Rhoddwyd ystyriaeth i 'Ffyniant i Bawb'. Mae'r 'Edrych Tua’r Dyfodol' yn gyson â’r fframwaith sy’n pennu'r cyd-destun y disgwylir i fyrddau iechyd a sefydliadau eraill y GIG gynllunio ar ei gyfer. Ategir y ddogfen lefel uchel hon ar gyfer yr adferiad iechyd a gofal cymdeithasol gan fersiwn ddiwygiedig o 'Cymru Iachach'.
Mae 'Edrych Tua’r Dyfodol' yn adlewyrchu'r dull o ymdrin ag iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac yn ychwanegu ffocws pellach at nifer o feysydd allweddol megis lleihau anghydraddoldebau, dysgu o effeithiau COVID-19 ac iechyd meddwl a llesiant. Rhaid i ni nawr ddefnyddio'r hyn a ddysgwyd i adeiladu:
- gofal sylfaenol a chymunedol cadarn
- gwasanaethau iechyd meddwl cefnogol
- gwasanaethau effeithlon ac effeithiol mewn ysbytai
- gwasanaethau gofal cymdeithasol di-dor
- gweithlu gwydn
- seilwaith digidol effeithiol
Mae'r ddogfen 'Edrych Tua’r Dyfodol' yn cyfeirio at waith i ddatblygu 'Cynllun Cydraddoldeb Hiliol'. Mae hwn yn ddatganiad pwysig gan Lywodraeth Cymru o'i gweledigaeth a'i gwerthoedd. Bydd y camau ymarferol yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol ac yn gwella cyfleoedd bywyd a chanlyniadau cymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru. Mae pecyn cymorth i helpu cyflogwyr a gweithwyr i deimlo'n ddiogel ac yn iach yn y gwaith wedi'i ddatblygu i fynd i'r afael â'r materion y mae COVID-19 wedi'u dangos yn rhy glir.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â phob math o niwed wrth inni symud tuag at adferiad. Mae hyn yn cynnwys niwed a achosir gan oedi cyn cael mynediad at driniaeth neu ofal, yr effaith ar lesiant meddyliol ac emosiynol ac effaith materion cymdeithasol ac economaidd ehangach.
Cydweithio
Mae 'Ffyniant i Bawb' yn hyrwyddo cydweithio ar draws ffiniau i sicrhau gwelliant yn iechyd a llesiant poblogaeth Cymru.
Mae 'Edrych Tua’r Dyfodol' yn offeryn cymorth ychwanegol i Weinidogion i gefnogi’r cyfeiriad ar gyfer ein system iechyd a gofal cymdeithasol a bydd yn gyson â'r trafodaethau cynllunio strategol sy'n digwydd gyda'r ystod o randdeiliaid i gefnogi'r ddarpariaeth.
Bydd gofyn i bob sefydliad partner ddangos eu cyfraniad at fynd i’r afael â COVID-19 ac i’w atal rhag lledaenu ymhellach a chael effaith bellach. Y disgwyliad yw y bydd COVID-19 yn dal i gylchredeg yn ein cymunedau am beth amser i ddod a bydd angen i bob partner gydweithio i sicrhau bod lledaeniad ac effaith COVID-19 yn cael eu lleihau gymaint â phosibl.
Er bod 'Edrych Tua’r Dyfodol' wed’i lunio o fewn cyfnod byr, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod amrediad eang o randdeiliaid, gan gynnwys clinigwyr allweddol a chyrff proffesiynol, wedi cael gwybod ei fod yn cael ei ddatblygu er mwy sicrhau dull gweithredu cyson a chydweithredol. Y nod yn hyn o beth hefyd fydd rhoi sicrwydd i aelodau’r Senedd.
Cyfranogiad
Trafodwyd 'Edrych Tua’r Dyfodol' gydag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys Prif Weithredwyr y GIG. Helpodd hyn i lunio a dylanwadu ar y ddogfen wrth iddi ddatblygu.
Mae COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar bobl o gymunedau lleiafrifol ethnig, a'r rhai sydd â gordewdra a chyflyrau iechyd lluosog. Mae'n bwysig parhau ag ymchwil i ddeall beth yw'r ffactorau risg ar gyfer pobl sy'n agored i niwed a'r ffordd orau o leihau'r rhain, boed hynny drwy frechu, triniaeth neu ymyriadau llesiant.
Rhaid inni leihau'r gwahaniaethau mewn amodau byw sy'n cael effaith negyddol ar iechyd a llesiant pobl yng Nghymru. Mae’r gallu i gael gafael ar dai o ansawdd da yn bwysig, ac mae angen adeiladu ar y cymorth a gynigir i'r rhai sy'n ddigartref yn ystod COVID-19. Rhaid i'n strategaethau ddarparu cymorth i'r rhannau mwyaf agored i niwed yng nghymdeithas Cymru.
Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at yr angen am gamau gweithredu traws-lywodraethol cryfach fyth ym maes atal a diogelu iechyd meddwl. Mae'r Adolygiad o Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019-2022 mewn ymateb i COVID-19 yn amlinellu ystod o ymrwymiadau i fynd i'r afael ag effeithiau economaidd-gymdeithasol ehangach y pandemig a'u heffeithiau ar iechyd meddwl a llesiant emosiynol, y mae'r rhan fwyaf ohonynt y tu allan i'r system iechyd a gofal cymdeithasol. 'Mae Edrych Tua’r Dyfodol yn cydnabod' yr angen i adeiladu ar y dystiolaeth hon er mwyn creu gwasanaethau cryfach a mwy gwydn.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod y rhai mwyaf anghenus yn ganolog i system iechyd a gofal cymdeithasol y dyfodol. Heb y cyfeiriad hwn yn 'Edrych Tua’r Dyfodol', mae perygl mawr o gynyddu gwahaniaethau presennol yn sylweddol, gydag effeithiau negyddol mawr ar iechyd a llesiant pobl yng Nghymru yn y dyfodol.
Effaith
Bydd 'Edrych Tua’r Dyfodol' yn rhoi cyfeiriad ynghylch yr hyn y bydd ei angen ar draws iechyd a gofal cymdeithasol i ddatblygu gwasanaethau cryfach a mwy gwydn, gan adeiladu ar hyn a ddysgir o’r pandemig. Mae wedi ymrwymo i ddatblygu modelau gofal a gwella canlyniadau i gleifion a defnyddwyr gwasanaethau.
Bydd yn rhoi negeseuon clir i'r cyhoedd a rhanddeiliaid am y gwaith sy'n cael ei wneud, gan gynnwys yr angen i barhau i ganolbwyntio ar lefelau uwch o brofion i staff a phobl a darparu rhaglen frechu estynedig. Mae 'Edrych Tua’r Dyfodol' yn cydnabod yr heriau sylweddol sydd o’n blaenau o ran capasiti a'r gweithlu, gyda'r nod o adeiladu ar gyfer yr hyn a fydd yn wasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn y sefyllfa normal newydd yng Nghymru.
Mae 'Edrych Tua’r Dyfodol' yn defnyddio’r hyn a ddysgwyd yn y deuddeng mis diwethaf - mae manteision gweithio'n gryf mewn partneriaeth rhwng y GIG, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus ehangach i greu dull system gyfan wedi'u dangos yn glir yn ystod yr ymateb i’r pandemig. Mae cryfhau'r ffordd hon o weithio yn gyson â 'Cymru Iachach' a bydd yn flaenoriaeth, gan adeiladu ar y manteision a welir drwy ddulliau ar y cyd o ymdrin â'r pandemig. Byddwn yn disgwyl i gynlluniau adfer gael eu hadeiladu ar gydweithio rhwng y GIG a'r gwasanaethau cymdeithasol, gan weithio gyda phartneriaid allweddol.
Bydd 'Edrych Tua’r Dyfodol' yn esgor ar fwy o sylw i feysydd adfer penodol, megis ôl-groniadau o gleifion sy'n aros am driniaeth. Bydd hefyd yn amlygu ac yn blaenoriaethu'r angen i leihau anghydraddoldebau iechyd ac i sicrhau bod llesiant y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i fod o'r pwys mwyaf.
Costau ac Arbedion
Nid eir i unrhyw gostau ariannol wrth amlinellu a datblygu 'Edrych Tua’r Dyfodol' gan y grŵp iechyd a gwasanaethau cymdeithasol o fewn Llywodraeth Cymru. Bu buddsoddiad sylweddol eisoes yn y seilwaith iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod 2020-21 i gefnogi'r prif ofynion. Er enghraifft, mae hyn yn cynnwys:
- Dyrannu dros £1.3bn i gefnogi ymateb y GIG i Covid. Mae hyn yn cynnwys y cyllid sefydlogi o £800m ar gyfer GIG Cymru a gyhoeddwyd ym mis Awst.
- £45m ar gyfer gweithredu'r Strategaeth Profi Olrhain Diogelu
- £62.7m drwy Gronfa Caledi Awdurdodau Lleol, i gefnogi darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion.
- £40m i gefnogi’r gweithlu gofal cymdeithasol.
Fodd bynnag, gwyddom y bydd yn rhaid i ni barhau i ystyried yr adnoddau sylweddol sydd eu hangen wrth i ni reoli'r galw newidiol ar ein gwasanaethau a'r ôl-groniad sylweddol o gleifion y bydd angen eu trin yn dilyn y pandemig byd-eang digynsail.
Bydd graddfa costau’r adferiad, er nad yw'n hysbys eto, yn sylweddol. Bydd yn cymryd amser i ddatblygu manylion y cynlluniau ar gyfer cydbwyso'r ymateb parhaus i COVID-19 ag adferiad, y goblygiadau i'r gweithlu, a'r costau. Mae gennym gyfle i ddyrannu adnoddau'n wahanol i annog yr ymddygiadau a'r dulliau cywir wrth adfer. Bydd hyn yn helpu’r system i ganolbwyntio ar ymyriadau effeithiol, sy'n cyflawni'r canlyniadau sy'n bwysig i bobl.
Mecanwaith
Nid oes deddfwriaeth yn cael ei chynnig fel rhan o'r gwaith hwn, felly nid oes angen asesiad effaith rheoleiddiol.
Adran 7. Casgliad
7.1 Sut y mae'r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys yn y gwaith o'i ddatblygu?
Mae’r ddogfen 'Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru: COVID-19: Edrych Tua’r Dyfodol' wedi'i datblygu'n gyflym er mwyn rhoi eglurder i'n gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ar y cyfeiriad strategol a'r blaenoriaethau sydd eu hangen i ailsefydlu ac adfer. Gan ein bod yn parhau mewn amgylchedd pandemig byd-eang digynsail, rhaid inni gymryd agwedd hyblyg a chadarn tuag at ein cynllunio fel bod ein gwasanaethau yn gallu cyflawni orau ar gyfer eu poblogaethau lleol.
Mae'r asesiad effaith hwn yn nodi bod cyfleoedd wedi'u cymryd i sicrhau bod tegwch a chydraddoldeb wedi'u mabwysiadu yn y dull gweithredu, ond mae hefyd yn cydnabod bod 'Edrych Tua’r Dyfodol' yn adeiladu ar bolisïau a dulliau gweithredu sy'n bodoli eisoes, yn hytrach na chreu rhai newydd. Yn hynny o beth, roedd llawer o'r dystiolaeth ar gyfer y polisïau hyn ar gael yn yr asesiadau effaith a oedd wedi’u cynnal pan luniwyd y polisïau.
Nid yw hyn yn golygu nad oes unrhyw dystiolaeth newydd sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod y 12 mis diwethaf bod pobl o gymunedau lleiafrifol ethnig, pobl hŷn, plant a phobl ifanc, a’r rhai â phroblemau iechyd meddwl i gyd wedi teimlo effaith nid yn unig COVID-19 ond hefyd y cyfyngiadau a osodwyd i'n cadw'n ddiogel.
Mae cydnabyddiaeth a dealltwriaeth gynyddol o'r effaith y mae staff ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol wedi'i hwynebu ac y byddant yn parhau i'w hwynebu wrth i ni ddod allan o'r pandemig a cheisio ailgodi’n well.
Cafodd 'Edrych Tua’r Dyfodol' ei ddatblygu drwy drafod â chydweithwyr ar draws adran iechyd a gwasanaethau cymdeithasol Llywodraeth Cymru, arweinwyr proffesiynol ac uwch-gydweithwyr y tu mewn i'r gwasanaeth megis Prif Weithredwyr y GIG, Cyfarwyddwyr Cynllunio, Cyfarwyddwyr Cyllid ac ati.
Bydd Arweinwyr Polisi yn parhau i wrando'n ofalus ac yn ystyried y cyngor arbenigol a gafwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd, ac ers canol mis Mawrth 2020, mae nifer o arolygon poblogaeth ledled y DU ac yng Nghymru wedi adrodd am effaith y pandemig a’r cyfyngiadau symud ar agweddau ar iechyd meddwl unigolion. Mae hyn yn cynnwys:
- Arolwg gan y Comisiynydd Plant sy'n amlygu'r effaith ar blant a phobl ifanc: Coronafeirws a Fi - Canlyniadau
- Dechreuodd datblygiad Clwstwr – 'Sgwrs Fawr' ym mis Rhagfyr 2020 a fydd yn llywio cynllun cyflawni y cyhoeddir adroddiad arno ddiwedd mis Mawrth 2021
Wrth inni symud ymlaen bydd arolygon staff a phrofiad cleifion yn parhau i gael eu casglu a'u hastudio i archwilio beth arall sydd angen ei wneud.
7.2 Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?
Dylai 'Edrych Tua’r Dyfodol' gael effaith gadarnhaol ar bobl ledled Cymru ac mae'n nodi'r cyfeiriad strategol ar gyfer ailadeiladu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol allweddol.
Ni fydd sefydliadau'n dechrau o'r newydd ond byddant yn adeiladu ar y datblygiadau y maent eisoes wedi’u cyflawni dros y deuddeg mis diwethaf ac mae 'Edrych Tua’r Dyfodol' yn rhoi cyfeiriad clir wrth inni fynd yn ein blaenau.
Mae angen i fyrddau iechyd gynllunio i ddiwallu anghenion iechyd eu poblogaethau eu hunain a rhaid iddynt wneud hynny waeth beth fo'u hoedran, hil, crefydd, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol ac ati. Mae'r fframwaith yn ei gwneud yn glir bod angen i sefydliadau sicrhau bod pobl yn cael mynediad cyfartal at ddiagnosis a thriniaeth ar draws y pedwar niwed.
Mae’n cydnabod bod rhai grwpiau o bobl wedi dioddef effaith andwyol yn sgil COVID-19 ac yn atgyfnerthu'r angen i sefydliadau liniaru hyn, gan ddefnyddio'r trefniadau profi, olrhain a diogelu sydd â'r nod o leihau lledaeniad COVID-19 a chefnogi rhaglenni brechu ar gyfer plant a phobl ifanc, y ffliw a COVID-19.
Mae 'Edrych Tua’r Dyfodol' yn cydnabod yr angen i wasanaethau hanfodol weithredu i sicrhau bod pobl â chyflyrau heblaw COVID-19 yn gallu ceisio cyngor a thriniaeth yn ddiogel ac yn amserol.
7.3 Yng ngoleuni'r effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig:
- Yn gwneud y mwyaf o gyfraniad i'n hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant a/neu;
- Yn osgoi, yn lleihau neu’n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol
Yn sail i 'Edrych Tua’r Dyfodol' mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n darparu’r blociau adeiladu sylfaenol sydd eu hangen, drwy'r pum ffordd o weithio (tymor hir, atal, integreiddio, cynnwys a chydweithredu), helpu’r system iechyd a gofal i wella. Fe'i hategir hefyd gan 'Cymru Iachach’. Bydd y dull hwn yn helpu ein gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yng Nghymru i ddarparu triniaeth a gofal priodol i bobl â symptomau COVID-19 a'r rhai â chyflyrau eraill heblaw COVID-19.
Mae’r Gymraeg yn bwysig o ran darparu iechyd a gofal cymdeithasol. I lawer o bobl, mae gallu cael gafael ar wybodaeth neu ddisgrifio eu symptomau a siarad â gweithwyr proffesiynol yn eu dewis iaith yn allweddol i gael y driniaeth a'r gofal cywir. Mae byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yn ddarostyngedig i Safonau'r Gymraeg (a reoleiddir gan Gomisiynydd y Gymraeg), sy'n gyfres o ofynion cyfreithiol rwymol sy'n anelu at wella gwasanaethau dwyieithog. Mae Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru Mwy Na Geiriau yn nodi ystod o gamau gweithredu a fydd yn sail i adfer ein gwasanaethau.
Mae'r fframwaith yn hyrwyddo dull integredig o ymdrin ag iechyd a gofal cymdeithasol ac mae defnyddio'r pedwar niwed fel strwythur yn hyrwyddo effeithiau cadarnhaol ac yn ceisio lleihau anghydraddoldebau iechyd a llesiant.
7.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?
Caiff effaith 'Edrych Tua’r Dyfodol' ei monitro drwy amrywiaeth o fecanweithiau sy'n cynnwys parhau i ymgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru, sefydliadau'r GIG a phartneriaid allweddol yn rheolaidd. Gan adeiladu ar y trefniadau partneriaeth sydd ar waith drwy Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol, bydd hefyd yn allweddol i sefydliadau lleol gydweithio ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau gwell canlyniadau i ddinasyddion.
Bydd arolygon rheolaidd o staff a chleifion yn cael eu cynnal gan sefydliadau i ddeall sut mae pobl yn teimlo a beth sy'n bwysig iddyn nhw wrth i ni symud ymlaen i amgylchedd lle rydyn ni'n dysgu byw gyda COVID-19 fel rhan o'n cymuned iechyd a gofal cymdeithasol. Yn yr un modd, bydd angen datblygu mesurau newydd i ddangos sut mae'r gymuned iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio er mwyn cefnogi ymhellach y pwyslais cryfach ar ganlyniadau yn hytrach nag ar allbynnau.