Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Heddiw, rwyf wedi gosod Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 ('Rheoliadau Rhif 2'). Mae'r rheoliadau hyn yn ailadrodd mewn sylwedd Reoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021. Byddant yn ymestyn y cyfyngiadau presennol ar droi allan, sydd i fod i ddod i ben ar 31 Mawrth, hyd at ddiwedd Mehefin 2021 – er y bydd y cyfyngiadau, fel sy'n digwydd mewn perthynas â chyfyngiadau eraill sy'n ymwneud â'r coronafeirws, yn cael eu hadolygu'n rheolaidd yn ystod y cyfnod hwnnw.
Fel sy'n digwydd yn achos y trefniadau presennol sy'n diogelu rhag troi allan, bydd Rheoliadau Rhif 2 yn cael eu gwneud gan ddefnyddio pwerau o dan adran 45C o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau). Byddant yn atal, ac eithrio o dan amgylchiadau penodedig[1], fod yn bresennol mewn tŷ annedd er mwyn gweithredu gwrit neu warant meddiannu, gweithredu gwrit neu warant adfer, neu gyflwyno gorchymyn troi allan.
Fy mwriad hefyd yw i Reoliadau gael eu gwneud ar wahân er mwyn ymestyn cyfnod gweithredu'n unol â'r gofynion a nodir yn Atodlen 29 i Ddeddf Coronafeirws 2020 tan ddiwedd Mis Mehefin 2021. Mae hyn yn golygu y bydd landlordiaid yn parhau i fod o dan rwymedigaeth statudol i ddarparu cyfnod hysbysu o chwe mis i denantiaid cyn hawlio meddiant (ac eithrio mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais domestig).
Gyda'i gilydd, bydd y ddwy set hyn o Reoliadau yn cefnogi ymateb parhaus Llywodraeth Cymru i'r coronafeirws ar ran iechyd y cyhoedd drwy helpu i leihau nifer y bobl sy'n cael eu troi allan, neu sydd mewn perygl o gael eu troi allan, a all arwain at fod yn ddigartref. Yn enwedig o ran bod yn ddigartref ar y stryd, lle gallant fod yn fwy agored i niwed oherwydd y feirws, ac mae mwy o debygolrwydd y byddant yn ei ledaenu. Bydd hyn yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun amrywiolynnau newydd o'r feirws sy'n cynyddu ei drosglwyddadwyedd neu ddifrifoldeb ei effaith, neu drydedd don bosibl neu gynnydd lleol mewn lefelau’r feirws yn ystod y cyfnod y mae’r cyfyngiadau'n cael eu llacio.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gallai ymestyn yr amddiffyniadau dros dro hyn am gyfnod pellach achosi anawsterau i rai landlordiaid yn y sector rhentu preifat. Fodd bynnag, ein prif flaenoriaeth yw diogelu iechyd y cyhoedd ar hyn o bryd. Drwy gydol y cyfnod y maent mewn grym, bydd Rheoliadau Rhif 2 yn ddarostyngedig i'r cylch adolygu rheolaidd i sicrhau bod y trefniadau'n parhau i fod yn gymesur ac yn angenrheidiol. Bydd yr adolygiadau hyn yn cyd-fynd ag amseriadau'r adolygiadau yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020.
Mae dadl yn y Cyfarfod Llawn ar Reoliadau Rhif 2 wedi'i threfnu ar gyfer 24 Mawrth 2021, ac mae'r rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig ar gael yma a yma.
[1]Yr amgylchiadau penodedig yw pan fo'r llys wedi'i fodloni bod: yr hawliad yn erbyn tresmaswyr sy'n bersonau anhysbys; neu pan wneir y gorchymyn adennill meddiant yn llwyr neu'n rhannol ar sail ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddau difrifol, niwsans, trais domestig; neu, mewn achosion lle mae'r person a fydd yn mynd yno wedi'i fodloni nad yw’r tŷ annedd wedi’i feddiannu ar yr adeg pan fydd yno, ac y gwneir y gorchymyn adennill meddiant yn llwyr neu’n rhannol ar sail marwolaeth y meddiannydd.